Triawd o ddinasoedd. Dwy ohonynt yn brolio enwau cyfarwydd ledled y byd. Llefydd pwysig. Cynefinoedd y mawrion. Y drydedd yn adlais o’r cynfyd, hen werddon rywle yn unigeddau Morrocco, yn perthyn i’r gorffennol.

Gweinidog Tramor Morrocco, Salaheddine Mezour (chwith) a Gweinidog Amgylcheddol Ffrainc, Segolene Royal (dde) yn lansio cynhadledd COP22 ym Marrakech
Ond pa un sy’n gwneud cyfraniad call a chyfrifol at y Ddaear a’i phobl a’i holl fywyd naturiol yr wythnos hon? Dewiswch chi:
Washington? – Sioe Reality Arswydus gyda Donald Trump a’i gang o Wadwyr Newid Hinsawdd (“Twyll yw cynhesu byd-eang a grewyd gan y Tseineaid i ddinistrio economi America”!) yn tramwyo coridorau’r Tŷ Gwyn – gan baratoi i lywodraethu gwlad fwyaf pwerus y byd.
Llundain? – ‘Whitehall Farce’ gyda’r Pantomeim Dame Theresa May a’u clowniau Ceidwadol yn dychmygu y bydd Britannia – o ganlyniad i Ffolineb Enfawr Refferendwm Ewrop – yn hwylio’n ysblennydd eto ar donnau Masnach Rydd. Dim pryder am stormydd ffyrnicach cynhesu byd-eang.
Marrakech? Marrakech? – Cynrychiolwyr 200 o wledydd y byd (gan gynnwys America’r Arlywydd Obama) yn paratoi i glymu gweithredoedd wrth Gytundeb Newid Hinsawdd Paris. Wedi clywed llefarydd Asiantaeth Hinsawdd y Byd yn rhybuddio bod 2016 yn debyg iawn i guro 2015 fel y flwyddyn boethaf ers i wyddonwyr ddechrau cofnodi tymheredd y byd. “Mae’r holl arwyddion yn goch,” meddai Omar Baddour o’r WMO wrth Gynhadledd Cop22, “Mae’r ffeithiau yno. Nawr yw’r amser i weithredu. Dydych chi ddim yn gallu negodi gyda deddfau ffiseg.”
I ninnau, fel chithau, siwr o fod, Marrakech sy’n cynrychioli gobaith i’r byd yr wythnos hon tra bod Washington a Llundain yn destun ofnau dwys oherwydd y gwallgofrwydd amrywiol sydd ar gerdded ynddynt.
A dyma un lle bach arall – llai o lawer hyd yn oed na Marrakech hir a balch ei hanes – ond lle sydd hefyd yn cynnal agweddau hanfodol o bwysig i ddyfodol dynoliaeth:
Standing Rock – Tiroedd hanesyddol cenedl y Sioux yng Ngogledd Dakota, yr Unol Daleithiau. Ers yn gynnar eleni, mae wedi bod yn destun ymrafael rhwng heddlu preifat arfog cwmni olew pwerus sydd am yrru pibell olew o Ogledd Dakota trwy Standing Rock ac ymlaen i ganolfan olew yn Illinois. Byddai hefyd yn gwthio trwy diroedd pobloedd cynhenid yr Arikara, y Mandan a’r Cheyenne Gogleddol. Mae’r Indiaid yn gwrthod, gan geisio gwarchod eu tiroedd am resymau diwylliannol a chrefyddol ac oherwydd y bygythiad i’w cyflenwad dŵr. Mae’r cwmni a’r asiantau wedi ceisio’u gwthio o’r neilltu gan ddefnyddio bwledi a chŵn ymosodol. Mae’r Sioux wedi cael eu trin yn anghyfiawn ac yn greulon. Ond mae eu hymgyrch yn ennill cefnogaeth gynyddol ledled y byd, a’r cwmni olew bellach dan bwysau.
Credwn fod Standing Rock, fel Marrakech, yr wythnos hon yn adlewyrchu’r mathau o agweddau sy’n hanfodol os ydym i lwyddo i ffrwyno newid hinsawdd a gwarchod y Ddaear er budd pobl a natur. Mae Washington a Llundain, ar y llaw arall, yn cynrychioli’r pwyslais ar rym a chyfoeth sy’n fygythiad i ni gyd.
Safwn gyda Standing Rock a Marrakech.