Tag Archives: Sioux

Angen dycnwch Awel Aman Tawe a dewrder Sioux Standing Rock

Fel buddsoddwyr a chefnogwyr i fudiad cymunedol cydweithredol Awel Aman Tawe, mae Charlotte a minnau’n falch iawn y bydd dau dyrbin gwynt Mynydd y Gwryd ger Pontardawe yn dod yn rhan o grid trydan Ynys Prydain o Ddydd Gwener, Rhagfyr 16, ymlaen.

Ar ben Mynydd y Gwryd, dau dyrbin newydd Awel Aman Tawe - yn eironig, yn ymyl hen waith glo brig.

Ar ben Mynydd y Gwryd, uwch Pontardawe, dau dyrbin gwynt newydd Awel Aman Tawe – symbolau o ynni glan ger safle hen waith glo brig.

Rydym yn llongyfarch Dan McCallum a’i dïm yng Nghwmllynfell ar y llwyddiant hwn. Buon nhw’n ymladd am flynyddoedd hir i godi’r tyrbinau yn wyneb arafwch a gwrthwynebiad gan awdurdodau cynllunio a chriw o feirniaid croch.

Neithiwr, cawsom fwynhau Cinio Nadolig a gynhaliwyd gan Awel Aman Tawe yn nhŷ bwyta George IV yng Nghwmtwrch Uchaf. Braf iawn oedd bod yn rhan o gynulliad ardderchog o bobl sydd mor effro i’r peryglon sy’n wynebu’r Ddaear o ganlyniad i Gynhesu Byd-eang. A braf iawn oedd clywed cymaint o Gymraeg yn cael ei siarad wrth i bobl ddod i adnabod ei gilydd.

Cam bach ond arwyddocaol yw llwyddiant Awel Aman Tawe. Dyma enghraifft o sut gall pobl Cymru ddod ynghyd yn eu cymunedau i ddechrau cynhyrchu trydan o ffynonellau di-garbon fel y gwynt, yr haul a dŵr. Mae grwpiau eraill ledled ein gwlad yn gweithio i’r un nod. Dymunwn iddynt hwy, hefyd, lwyddo – er y rhwystrau sydd o’u blaen.

Dyma newyddion da, yma yng Nghymru, wrth i’r flwyddyn ddod i ben o ran potensial gweithgarwch cymunedol. Gallwn ychwanegu at hynny lwyddiant cenedl frodorol y Sioux a’u cyfeillion yn Standing Rock, De Dakota, yr Unol Daleithiau. Wedi misoedd o ddioddef gan swyddogion diogelwch ymosodol, mae’r Sioux newydd ennill cefnogaeth yr Arlywydd Obama i’w hymgyrch i atal cynllwyn cwmni pwerus i wthio pibell olew dan eu tiroedd traddodiadol.

Mae lle i fod yn falch o lwyddiannau tebyg. Ond fe’u henillwyd mewn cyd-destun o ddatblygiadau annisgwyl ac amrywiol achosodd bryder gwirioneddol yn ystod 2016. Dyma flwyddyn, er enghraifft, sydd wedi cyflwyno Brexit a Donald Trump i dywyllu’n dyfodol, sydd wedi gweld militariaeth a dioddefaint dynol ar gynnydd enbyd, ac sydd wedi dangos yn ddi-ymwad bod effeithiau Cynhesu Byd-eang ar gynnydd brawychus.

Wrth gamu i 2017, cofiwn yr hen ymadrodd nad oes angen dim arall ar ddrygioni i lwyddo na bod pobl dda yn gwneud dim. Felly, i fynnu byd gwell, meddiannwn dycnwch Awel Aman Tawe yng Nghymru, a dewrder y Sioux yn Ne Dakota.

Dymunwn Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i bawb ohonoch!

Pwy sy’n dangos arweiniad call a chyfrifol i’r byd wrth i’r Ddaear boethi ar garlam?

Triawd o ddinasoedd. Dwy ohonynt yn brolio enwau cyfarwydd ledled y byd. Llefydd pwysig. Cynefinoedd y mawrion. Y drydedd yn adlais o’r cynfyd, hen werddon rywle yn unigeddau Morrocco, yn perthyn i’r gorffennol.

Gweinidog Tramor Morrocco, Salaheddine Mezour (chwith) a Gweindog Amgylcheddol Ffrainc, Segolene Royal (dde) yn lansio cynhadledd COP22 ym Marrakech

Gweinidog Tramor Morrocco, Salaheddine Mezour (chwith) a Gweinidog Amgylcheddol Ffrainc, Segolene Royal (dde) yn lansio cynhadledd COP22 ym Marrakech

Ond pa un sy’n gwneud cyfraniad call a chyfrifol at y Ddaear a’i phobl a’i holl fywyd naturiol yr wythnos hon? Dewiswch chi:

Washington? – Sioe Reality Arswydus gyda Donald Trump a’i gang o Wadwyr Newid Hinsawdd (“Twyll yw cynhesu byd-eang a grewyd gan y Tseineaid i ddinistrio economi  America”!) yn tramwyo coridorau’r Tŷ Gwyn – gan baratoi i lywodraethu gwlad fwyaf pwerus y byd.

Llundain? –  ‘Whitehall Farce’ gyda’r Pantomeim Dame Theresa May a’u clowniau Ceidwadol yn dychmygu y bydd Britannia – o ganlyniad i Ffolineb Enfawr Refferendwm Ewrop – yn hwylio’n ysblennydd eto ar donnau Masnach Rydd. Dim pryder am stormydd ffyrnicach cynhesu byd-eang.

Marrakech?  Marrakech? – Cynrychiolwyr 200 o wledydd y byd (gan gynnwys America’r Arlywydd Obama) yn paratoi i glymu gweithredoedd wrth Gytundeb Newid Hinsawdd Paris. Wedi clywed llefarydd Asiantaeth Hinsawdd y Byd yn rhybuddio bod 2016 yn debyg iawn i guro 2015 fel y flwyddyn boethaf ers i wyddonwyr ddechrau cofnodi tymheredd y byd. “Mae’r holl arwyddion yn goch,” meddai Omar Baddour o’r WMO wrth Gynhadledd Cop22, “Mae’r ffeithiau yno. Nawr yw’r amser i weithredu. Dydych chi ddim yn gallu negodi gyda deddfau ffiseg.”

I ninnau, fel chithau, siwr o fod, Marrakech sy’n cynrychioli gobaith i’r byd yr wythnos hon tra bod Washington a Llundain yn destun ofnau dwys oherwydd y gwallgofrwydd amrywiol sydd ar gerdded ynddynt.

A dyma un lle bach arall – llai o lawer hyd yn oed na Marrakech hir a balch ei hanes – ond lle sydd hefyd yn cynnal agweddau hanfodol o bwysig i ddyfodol dynoliaeth:

Standing Rock – Tiroedd hanesyddol cenedl y Sioux yng Ngogledd Dakota, yr Unol Daleithiau. Ers yn gynnar eleni, mae wedi bod yn destun ymrafael rhwng heddlu preifat arfog cwmni olew pwerus sydd am yrru pibell olew o Ogledd Dakota trwy Standing Rock ac ymlaen i ganolfan olew yn Illinois. Byddai hefyd yn gwthio trwy diroedd pobloedd cynhenid yr Arikara, y Mandan a’r Cheyenne Gogleddol. Mae’r Indiaid yn gwrthod, gan geisio gwarchod eu tiroedd am resymau diwylliannol a chrefyddol ac oherwydd y bygythiad i’w cyflenwad dŵr. Mae’r cwmni a’r asiantau wedi ceisio’u gwthio o’r neilltu gan ddefnyddio bwledi a chŵn ymosodol. Mae’r Sioux wedi cael eu trin yn anghyfiawn ac yn greulon. Ond mae eu hymgyrch yn ennill cefnogaeth gynyddol ledled y byd, a’r cwmni olew bellach dan bwysau.

Credwn fod Standing Rock, fel Marrakech, yr wythnos hon yn adlewyrchu’r mathau o agweddau sy’n hanfodol os ydym i lwyddo i ffrwyno newid hinsawdd a gwarchod y Ddaear er budd pobl a natur. Mae Washington a Llundain, ar y llaw arall, yn cynrychioli’r pwyslais ar rym a chyfoeth sy’n fygythiad i ni gyd.

Safwn gyda Standing Rock a Marrakech.