Tag Archives: Mynydd y Gwryd

Angen dycnwch Awel Aman Tawe a dewrder Sioux Standing Rock

Fel buddsoddwyr a chefnogwyr i fudiad cymunedol cydweithredol Awel Aman Tawe, mae Charlotte a minnau’n falch iawn y bydd dau dyrbin gwynt Mynydd y Gwryd ger Pontardawe yn dod yn rhan o grid trydan Ynys Prydain o Ddydd Gwener, Rhagfyr 16, ymlaen.

Ar ben Mynydd y Gwryd, dau dyrbin newydd Awel Aman Tawe - yn eironig, yn ymyl hen waith glo brig.

Ar ben Mynydd y Gwryd, uwch Pontardawe, dau dyrbin gwynt newydd Awel Aman Tawe – symbolau o ynni glan ger safle hen waith glo brig.

Rydym yn llongyfarch Dan McCallum a’i dïm yng Nghwmllynfell ar y llwyddiant hwn. Buon nhw’n ymladd am flynyddoedd hir i godi’r tyrbinau yn wyneb arafwch a gwrthwynebiad gan awdurdodau cynllunio a chriw o feirniaid croch.

Neithiwr, cawsom fwynhau Cinio Nadolig a gynhaliwyd gan Awel Aman Tawe yn nhŷ bwyta George IV yng Nghwmtwrch Uchaf. Braf iawn oedd bod yn rhan o gynulliad ardderchog o bobl sydd mor effro i’r peryglon sy’n wynebu’r Ddaear o ganlyniad i Gynhesu Byd-eang. A braf iawn oedd clywed cymaint o Gymraeg yn cael ei siarad wrth i bobl ddod i adnabod ei gilydd.

Cam bach ond arwyddocaol yw llwyddiant Awel Aman Tawe. Dyma enghraifft o sut gall pobl Cymru ddod ynghyd yn eu cymunedau i ddechrau cynhyrchu trydan o ffynonellau di-garbon fel y gwynt, yr haul a dŵr. Mae grwpiau eraill ledled ein gwlad yn gweithio i’r un nod. Dymunwn iddynt hwy, hefyd, lwyddo – er y rhwystrau sydd o’u blaen.

Dyma newyddion da, yma yng Nghymru, wrth i’r flwyddyn ddod i ben o ran potensial gweithgarwch cymunedol. Gallwn ychwanegu at hynny lwyddiant cenedl frodorol y Sioux a’u cyfeillion yn Standing Rock, De Dakota, yr Unol Daleithiau. Wedi misoedd o ddioddef gan swyddogion diogelwch ymosodol, mae’r Sioux newydd ennill cefnogaeth yr Arlywydd Obama i’w hymgyrch i atal cynllwyn cwmni pwerus i wthio pibell olew dan eu tiroedd traddodiadol.

Mae lle i fod yn falch o lwyddiannau tebyg. Ond fe’u henillwyd mewn cyd-destun o ddatblygiadau annisgwyl ac amrywiol achosodd bryder gwirioneddol yn ystod 2016. Dyma flwyddyn, er enghraifft, sydd wedi cyflwyno Brexit a Donald Trump i dywyllu’n dyfodol, sydd wedi gweld militariaeth a dioddefaint dynol ar gynnydd enbyd, ac sydd wedi dangos yn ddi-ymwad bod effeithiau Cynhesu Byd-eang ar gynnydd brawychus.

Wrth gamu i 2017, cofiwn yr hen ymadrodd nad oes angen dim arall ar ddrygioni i lwyddo na bod pobl dda yn gwneud dim. Felly, i fynnu byd gwell, meddiannwn dycnwch Awel Aman Tawe yng Nghymru, a dewrder y Sioux yn Ne Dakota.

Dymunwn Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i bawb ohonoch!