Tag Archives: Standing Rock

Clymblaid y cyfoethogion a’r gwadwyr newid hinsawdd – sut i ffrwyno Trump a ‘gwleidyddiaeth ysgytwad’

No is Not Enough: Defeating the News Shock Politics, Naomi Klein (Allen Lane)

ADOLYGIAD GAN CHARLOTTE DAVIES

“Ni ddaw henaint ei hunan” …na newid hinsawdd ’chwaith, mae’n ymddangos. Yn hytrach, fel mae Naomi Klein yn dadlau yn ei llyfr mwya’ diweddar No Is Not Enough: Defeating the New Shock Politics (Allen Lane 2017), fe ddaw gyda, ac, yn wir, fe gaiff ei alluogi gan gymysgedd pwerus o dueddiadau a gysylltir gyda thwf byd-eang neo-ryddfrydiaeth.

Fel newyddiadurwr, awdur ac ymgyrchydd, mae Naomi Klein wedi ymchwilio i ac ysgrifennu am y tueddiadau hyn, a’u canlyniadau a’u perthynas i dŵf grym gwleidyddol neo-ryddfrydiaeth ers y 1970au – gan dynnu sylw at ei ymosodiadau ar y sector cyhoeddus a’i gefnogaeth ddi-gwestiwn i gorfforaethau elw-ganolig yn cael gweithredu heb unrhyw reoleiddio allanol.

Mae’r llyfr hwn yn dod â gwaith blaenorol Klein ynghyd i esbonio cynnydd y rhaglen neo-ryddfrydol – sef trwy dŵf superbrands byd-eang, gwadu newid hinsawdd, gwthio cyfoeth preifat i’r sector cyhoeddus a’r defnydd cynyddol o’r hyn mae hi’n cyfeirio ati fel ‘dysgeidiaeth ergydio’ (shock doctrine) i danseilio prosesau gwleidyddol.

Mae llawer o’r llyfr yn ymwneud ag esbonio tŵf ac ethol Donald Trump i Arlywyddiaeth yr UD: mae’n disgrifio creu superbrand Trump, sy’n gwerthu delwedd yn hytrach na chynnyrch ac yn y broses sy’ ddim yn petruso rhag allforio swyddi a damsang ar hawliau’r gweithwyr; mae’n dyrannu ymdeimlad Trump o hawl bersonol (yn gyfartal dros gyrff menywod ac adnoddau’r blaned) yn seiliedig ar ei gyfoeth anferth; ac mae’n pwyntio at ganlyniadau anorfod ei arlywyddiaeth – dadreoleiddio i gefnogi tŵf corfforaethau byd-eang a gwneud hyd yn fwy cyfoethog elit byd-eang sydd eisoes yn gyfoethog y tu hwnt i ddychymyg.

Ond mae gan Klein bryderon y tu hwnt i gipiad Trump o Arlywyddiaeth yr UD: ‘Er mor eithafol ydyw, mae Trump yn llai o wyriad nag o ganlyniad rhesymegol – pastiche o fwy neu lai’r cyfan o dueddiadau’r hanner canrif mwya’ diweddar’ (t.9).

Yn ei phennod yn ffocysu’n benodol ar newid hinsawdd a’r bygythiad amgylcheddol a gynigir gan apwyntiadau a gweithgareddau Trump, mae Klein yn dadlau bod gwadwyr newid hinsawdd yn amddiffyn ar-y-cyd eu goruchafiaeth economaidd a’r prosiect neo-ryddfrydol a’i creodd ac sy’n ei gynnal. ‘Mae gan gynhesu byd-eang ganlyniadau radical cynyddol wirioneddol. Os ydyw’n wir – ac mae’n amlwg ei fod – yna does dim modd i’r dosbarth oligarchaidd barhau i redeg yn wyllt heb reolau’ (t.83).

Yna, mae Klein yn troi i ystyried y dulliau a ddefnyddiwyd i gyflwyno egwyddorion neo-ryddfrydol i sefydliadau’r gwladwriaethau democrataidd, dulliau y cyfeiria atynt fel y ‘wleidyddiaeth ysgytwad’ newydd. Dadleua fod y chwalfa feddyliol sy’n dilyn unrhyw drychineb mawr – yn cael ei hachosi gan ddigwyddiadau economaidd, cymdeithasol neu amgylcheddol – yn creu amgylchiadau lle gall mesurau gael eu gweithredu i danseilio gwasanaethau cymdeithasol, creu mantais i gorfforaethau byd-eang a gwneud yr elit sydd eisoes yn gyfoethog hyd yn oed yn fwy cyfoethog, wrth ddiddymu rheoliadau sy’n gwarchod yr amgylchedd, gweithwyr a chymunedau.

Mae hi’n cyflwyno esiamplau o sut mae’r tactegau hyn wedi cael eu gweithredu’n effeithiol mewn sawl argyfwng gwahanol: yn ystod methdaliad agos Dinas Efrog Newydd yng nghanol y 1970au, a roddodd, gyda llaw, hwb ariannol anferth i Trump ar gost enfawr i’r ddinas; yn nhŵf y diwydiant amddiffyn yn sgil ymosodiadau 9 / 11; ac yn yr ymateb i Gorwynt Katrina yn New Orleans.

Yn adran ola’r llyfr, mae Klein yn troi at y cwestiwn o beth y gellir ei wneud i atal y wleidyddiaeth ergydio hon gyda’i ehangu neo-ryddfrydol canlynol. Fel y cyhoedda’i theitl, dywed Naomi Klein, No is Not Enough. Ei dadl yw bod rhaid i’r gwrthwynebiad gynnig gweledigaeth newydd o sut y gellir trefnu cymdeithas. Mae hi’n cydnabod nad oes ond ychydig o gof yng nghymdeithasau’r Gorllewin o unrhyw fath o system economaidd ar wahân i rai sy’n hybu elw tymor-byr a chyfoeth personol wedi’i adeiladu ar dŵf economaidd parhaus – ‘system sy’n cymryd yn ddiddiwedd o drysor naturiol y ddaear, heb amddiffyn cylchoedd adferol, wrth dalu sylw peryglus o fach at ble y taflwn lygredd’ (t.240).

Ond mae’n mynnu bod dyfodol gwahanol yn bosibl. Heb smalio bod ganddi weledigaeth gynhwysfawr o’r dyfodol hwnnw, mae’n terfynu trwy gynnig rhai enghreifftiau sy’n dangos ffordd ymlaen: un ohonynt yw’r mudiad yn Standing Rock i wrthsefyll pibell olew’r Dakota Access ar draws tir llwythol y Sioux; un arall yw The Leap Manifesto, ‘platfform heb blaid’ a gynhyrchwyd gan arweinwyr grwpiau amrywiol (amgylcheddol, undebau llafur, cymunedau brodorol, ffeministiaid) o ar draws Canada.

Mae Klein ymhell o gynnig ffordd glir ymlaen, ond mae dwy egwyddor ar gyfer gweithredu yn sefyll allan: yn gyntaf, dylai gweithredu ddod â chymunedau amrywiol ynghyd i gydweithredu yn lle cystadlu – hawliau menywod, hawliau gweithwyr, cymunedau brodorol ac ati – gan gydnabod bod eu pryderon yn perthyn i’w gilydd; ac yn ail, dylai gweithredu ddechrau gyda gwerthoedd, nid polisïau, gan gydnabod ‘yr angen i symud o system sy’n seiliedig ar gymryd diddiwedd – o’r ddaear ac oddi wrth ein gilydd – at ddiwylliant wedi’i seilio ar ofalu, yr egwyddor wrth i ni gymryd, ein bod hefyd yn gofalu ac yn rhoi yn ôl’ (t.241).

Crêd Klein fod ‘digywilydd-dra coup corfforaethol [Trump]’ wedi gwneud gweithredu dros newid systemig yn angenrheidiol ac ar ddigwydd.

Gobeithio’n wir bod seiliau mor gadarn i’w hoptimistiaeth ynglŷn â’r gweithredu ag sydd i’w dadansoddiad o’r bygythiadau amrywiol.

Angen dycnwch Awel Aman Tawe a dewrder Sioux Standing Rock

Fel buddsoddwyr a chefnogwyr i fudiad cymunedol cydweithredol Awel Aman Tawe, mae Charlotte a minnau’n falch iawn y bydd dau dyrbin gwynt Mynydd y Gwryd ger Pontardawe yn dod yn rhan o grid trydan Ynys Prydain o Ddydd Gwener, Rhagfyr 16, ymlaen.

Ar ben Mynydd y Gwryd, dau dyrbin newydd Awel Aman Tawe - yn eironig, yn ymyl hen waith glo brig.

Ar ben Mynydd y Gwryd, uwch Pontardawe, dau dyrbin gwynt newydd Awel Aman Tawe – symbolau o ynni glan ger safle hen waith glo brig.

Rydym yn llongyfarch Dan McCallum a’i dïm yng Nghwmllynfell ar y llwyddiant hwn. Buon nhw’n ymladd am flynyddoedd hir i godi’r tyrbinau yn wyneb arafwch a gwrthwynebiad gan awdurdodau cynllunio a chriw o feirniaid croch.

Neithiwr, cawsom fwynhau Cinio Nadolig a gynhaliwyd gan Awel Aman Tawe yn nhŷ bwyta George IV yng Nghwmtwrch Uchaf. Braf iawn oedd bod yn rhan o gynulliad ardderchog o bobl sydd mor effro i’r peryglon sy’n wynebu’r Ddaear o ganlyniad i Gynhesu Byd-eang. A braf iawn oedd clywed cymaint o Gymraeg yn cael ei siarad wrth i bobl ddod i adnabod ei gilydd.

Cam bach ond arwyddocaol yw llwyddiant Awel Aman Tawe. Dyma enghraifft o sut gall pobl Cymru ddod ynghyd yn eu cymunedau i ddechrau cynhyrchu trydan o ffynonellau di-garbon fel y gwynt, yr haul a dŵr. Mae grwpiau eraill ledled ein gwlad yn gweithio i’r un nod. Dymunwn iddynt hwy, hefyd, lwyddo – er y rhwystrau sydd o’u blaen.

Dyma newyddion da, yma yng Nghymru, wrth i’r flwyddyn ddod i ben o ran potensial gweithgarwch cymunedol. Gallwn ychwanegu at hynny lwyddiant cenedl frodorol y Sioux a’u cyfeillion yn Standing Rock, De Dakota, yr Unol Daleithiau. Wedi misoedd o ddioddef gan swyddogion diogelwch ymosodol, mae’r Sioux newydd ennill cefnogaeth yr Arlywydd Obama i’w hymgyrch i atal cynllwyn cwmni pwerus i wthio pibell olew dan eu tiroedd traddodiadol.

Mae lle i fod yn falch o lwyddiannau tebyg. Ond fe’u henillwyd mewn cyd-destun o ddatblygiadau annisgwyl ac amrywiol achosodd bryder gwirioneddol yn ystod 2016. Dyma flwyddyn, er enghraifft, sydd wedi cyflwyno Brexit a Donald Trump i dywyllu’n dyfodol, sydd wedi gweld militariaeth a dioddefaint dynol ar gynnydd enbyd, ac sydd wedi dangos yn ddi-ymwad bod effeithiau Cynhesu Byd-eang ar gynnydd brawychus.

Wrth gamu i 2017, cofiwn yr hen ymadrodd nad oes angen dim arall ar ddrygioni i lwyddo na bod pobl dda yn gwneud dim. Felly, i fynnu byd gwell, meddiannwn dycnwch Awel Aman Tawe yng Nghymru, a dewrder y Sioux yn Ne Dakota.

Dymunwn Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i bawb ohonoch!

Pwy sy’n dangos arweiniad call a chyfrifol i’r byd wrth i’r Ddaear boethi ar garlam?

Triawd o ddinasoedd. Dwy ohonynt yn brolio enwau cyfarwydd ledled y byd. Llefydd pwysig. Cynefinoedd y mawrion. Y drydedd yn adlais o’r cynfyd, hen werddon rywle yn unigeddau Morrocco, yn perthyn i’r gorffennol.

Gweinidog Tramor Morrocco, Salaheddine Mezour (chwith) a Gweindog Amgylcheddol Ffrainc, Segolene Royal (dde) yn lansio cynhadledd COP22 ym Marrakech

Gweinidog Tramor Morrocco, Salaheddine Mezour (chwith) a Gweinidog Amgylcheddol Ffrainc, Segolene Royal (dde) yn lansio cynhadledd COP22 ym Marrakech

Ond pa un sy’n gwneud cyfraniad call a chyfrifol at y Ddaear a’i phobl a’i holl fywyd naturiol yr wythnos hon? Dewiswch chi:

Washington? – Sioe Reality Arswydus gyda Donald Trump a’i gang o Wadwyr Newid Hinsawdd (“Twyll yw cynhesu byd-eang a grewyd gan y Tseineaid i ddinistrio economi  America”!) yn tramwyo coridorau’r Tŷ Gwyn – gan baratoi i lywodraethu gwlad fwyaf pwerus y byd.

Llundain? –  ‘Whitehall Farce’ gyda’r Pantomeim Dame Theresa May a’u clowniau Ceidwadol yn dychmygu y bydd Britannia – o ganlyniad i Ffolineb Enfawr Refferendwm Ewrop – yn hwylio’n ysblennydd eto ar donnau Masnach Rydd. Dim pryder am stormydd ffyrnicach cynhesu byd-eang.

Marrakech?  Marrakech? – Cynrychiolwyr 200 o wledydd y byd (gan gynnwys America’r Arlywydd Obama) yn paratoi i glymu gweithredoedd wrth Gytundeb Newid Hinsawdd Paris. Wedi clywed llefarydd Asiantaeth Hinsawdd y Byd yn rhybuddio bod 2016 yn debyg iawn i guro 2015 fel y flwyddyn boethaf ers i wyddonwyr ddechrau cofnodi tymheredd y byd. “Mae’r holl arwyddion yn goch,” meddai Omar Baddour o’r WMO wrth Gynhadledd Cop22, “Mae’r ffeithiau yno. Nawr yw’r amser i weithredu. Dydych chi ddim yn gallu negodi gyda deddfau ffiseg.”

I ninnau, fel chithau, siwr o fod, Marrakech sy’n cynrychioli gobaith i’r byd yr wythnos hon tra bod Washington a Llundain yn destun ofnau dwys oherwydd y gwallgofrwydd amrywiol sydd ar gerdded ynddynt.

A dyma un lle bach arall – llai o lawer hyd yn oed na Marrakech hir a balch ei hanes – ond lle sydd hefyd yn cynnal agweddau hanfodol o bwysig i ddyfodol dynoliaeth:

Standing Rock – Tiroedd hanesyddol cenedl y Sioux yng Ngogledd Dakota, yr Unol Daleithiau. Ers yn gynnar eleni, mae wedi bod yn destun ymrafael rhwng heddlu preifat arfog cwmni olew pwerus sydd am yrru pibell olew o Ogledd Dakota trwy Standing Rock ac ymlaen i ganolfan olew yn Illinois. Byddai hefyd yn gwthio trwy diroedd pobloedd cynhenid yr Arikara, y Mandan a’r Cheyenne Gogleddol. Mae’r Indiaid yn gwrthod, gan geisio gwarchod eu tiroedd am resymau diwylliannol a chrefyddol ac oherwydd y bygythiad i’w cyflenwad dŵr. Mae’r cwmni a’r asiantau wedi ceisio’u gwthio o’r neilltu gan ddefnyddio bwledi a chŵn ymosodol. Mae’r Sioux wedi cael eu trin yn anghyfiawn ac yn greulon. Ond mae eu hymgyrch yn ennill cefnogaeth gynyddol ledled y byd, a’r cwmni olew bellach dan bwysau.

Credwn fod Standing Rock, fel Marrakech, yr wythnos hon yn adlewyrchu’r mathau o agweddau sy’n hanfodol os ydym i lwyddo i ffrwyno newid hinsawdd a gwarchod y Ddaear er budd pobl a natur. Mae Washington a Llundain, ar y llaw arall, yn cynrychioli’r pwyslais ar rym a chyfoeth sy’n fygythiad i ni gyd.

Safwn gyda Standing Rock a Marrakech.