Tag Archives: Extinction Rebellion

Diolch i bobl ddewr Extinction Rebellion am weithredu i warchod y Ddaear

Llongyfarchiadau i fudiad newydd Extinction Rebellion am gadw’u haddewid i gynnal cyfres o weithrediadau tor-cyfraith, heddychol yn Llundain ar bwnc argyfwng y Ddaear – gan gynnwys wrth gatiau 20 Downing Street.

Cannoedd o brotestwyr Extinction Rebellion yn cau Pont Westminster yn Llundain ar Sadwrn, Tachwedd 17. “Rydym yn sefyll yn heddychol o blaid y Ddaear a dynoliaeth,” medd eu llefarydd,Celia B. Llun: Extinction Rebellion / @ExtinctionR

Efallai nad yw mwyafrif ein gwleidyddion yn gweld rheswm i dalu sylw i fygythiad Cynhesu Byd-eang a dinistrio bywyd naturiol y Ddaear. Ond mae’r gweithredu hyn yn rhybudd iddynt fod pobl yn cynhyrfu o ddifrif yn wyneb y peryglon sy’n ein hwynebu.

Cymerodd tua 6,000 o bobl ran yn y protestiadau yn ystod yr wythnos yn dechrau Tachwedd 12. Cafodd 5 o bontydd Afon Tafwys eu cau. Ataliwyd y traffig wrth i gannoedd o’r gwrthdystwyr eistedd ar  bontydd Southwark, Blackfriars, Waterloo, Westminster a Lambeth. Arestiwyd dros 80 o bobl gan yr heddlu. Bydd achosion llys yn dilyn.

Deallwn fod cryn nifer o Gymry wedi teithio i Lundain i fod yn rhan o’r protestiadau arwyddocaol hyn, a diolch am hynny. Ry’n ni’n gobeithio y bydd ein Haelodau Seneddol, a’n Haelodau Cynulliad yn ymateb yn gadarnhaol i’r llais newydd hwn sydd wedi codi mor sydyn i danio’r ymgyrch.

Mae gwyddonwyr y Cenhedloedd Unedig yn ein rhybuddio nad oes llawer o amser ar ol: dim ond 12 mlynedd, meddant, os na weithredwn. Rhaid gweithredu ar frys gwyllt, meddan nhw, i gyfyngu ar losgi carbon difrodol a throi’n llwyr at ynni glan – er mwyn ffrwyno codiad tymheredd peryglus y blaned a thoddiant y pegynnau ia a’r newid hinsawdd sy’n ganlyniad. Heb hynny, mae’r dyfodol yn ddu.

Pebai’n harweinwyr gwleidyddol ond yn siarad yn gyhoeddus am argyfwng y Ddaear, byddai’n codi calon rhywun i gredu bod modd achub y sefyllfa. Ond yn rhy aml o lawer, anwybyddu’r pwnc maen nhw.

(Am hynny, byddai’n dda pebai rhai ohonynt yn mynegi eu gweledigaeth blanedol ar wefan Y Papur Gwyrdd – yn ol ein gwahoddiad. Gweler blog isod!)

Yn y cyfamser, rhwydd hynt i bobl Extinction Rebellion wrth iddyn nhw weithredu dros ddyfodol diogelach i bawb ohonom, heb gyfri’r gost heb son am gyfri’r pleidleisiau.

 

Croesawu codi’r tymheredd gwleidyddol ar bwnc tymheredd ein planed

Dros gyfnod helbulus o fwy na dwy flynedd, mae’r angen i geisio atal trychineb Brexit wedi galw am sylw a gweithredu gan bobl gall trwy wledydd a rhanbarthau Prydain.

Ond gwych nodi bod mudiad newydd Extinction Rebellion am atgoffa llywodraeth Toriaidd Theresa May, a phawb ohonom, bod rhaid parhau i weithredu o ddifrif i geisio ffrwyno bygythiad Cynhesu Byd-eang hefyd.

Rydym yn croesawu Extinction Rebellion gan fod gwir angen codi’r tymheredd gwleidyddol ar bwnc tymheredd y Ddaear. Wedi’r cyfan, mae’r difrod amgylcheddol a achosir i’n planed yn gyd-destun i’r cyfan arall a wnawn.

Protest cefnogwyr Extinction Rebellion yn Parliament Square, Llundain, as Hydref 31. Llun: Chloe Farand. Newyddion: https://www.desmogblog.com/

Ar Hydref 31, bu cannoedd o aelodau Extinction Rebellion yn cynnal protest yn Parliament Square yn Llundain. Dangos methiant Llywodraeth Theresa May, oedden nhw, i wynebu eu cyfrifoldebau dan Gytundeb Newid Hinsawdd Paris 2015. Arestiwyd 15 o’r protestwyr am orwedd ar y stryd.

Trwy  atal taliadau am drydan glan a ddaw o baneli haul ar doeau tai ac adeiladau eraill, a’u cefnogaeth i ddatblygu ffracio am nwy, mae’r Toriaid wedi dangos eu bod yn ystyried sicrhau elw i’r diwydiant ynni carbon difrodol yn bwysicach na’r angen i ffrwyno allyriadau carbon deuocsid.

Dyna sy’n llywio eu polisiau ynni er y rhybuddion mwya’ taer gwyddonol a gafwyd hyd yn hyn yn Adroddiad Panel Rhyng-lywodraethol y Cenhedloedd Unedig ar Newid Hinsawdd a gyhoeddwyd ar Fedi 8 (gweler y linc i’r Adroddiad dan ‘Gwyddoniaeth’ yn y rhestr gynnwys ar ochr chwith y tudalen).

Felly, diolchwn i aelodau Extinction Rebellion am eu gweithredu hyd yn hyn. Edrychwn ymlaen at eu hymgyrchu pellach yn ystod yr wythnos sy’n dechrau Tachwedd 12. Bydd y gweithgareddau hynny’n dod i ben gyda phrotest arall yn Parliament Square, Llundain, ar Dachwedd 19.

‘Na i Brexit!’ ac – ‘Ie i’r Ddaear!’ Dyna slogannau’r Papur Gwyrdd. Gobeithio bydd ein gwleidyddion yn ymateb yn gadarnhaol iddynt. Mae peryglon enbyd yn gwasgu arnom yn gynyddol wrth i arweinwyr gwallgof feddiannu grym llywodraethol ar bob llaw.

Dyma amser gwir dyngedfennol i ddynoliaeth a holl ffurfiau bywyd eraill ein planed. Fel dywed yr hen ymadrodd – Y cyfan sydd ei angen i ddrygioni lwyddo yw i bobl dda wneud dim.