Tag Archives: BP

Diolch am y draenogod, yr ystlumod, y barnwyr, BP – a mwy – sy’n codi calon yng nghyfnod Covid

Ynghanol pryderon Covid 19, peryglon cynyddol Cynhesu Byd-eang, a bygythiad Donald Trump, braf nodi ambell i beth sy’n codi calon yn ddiweddar. Er enghraifft …

  • Gwaedd ataf gan Charles drws nesa’ – “Hey, Hywel, did you know there’s a hedgehog about?”  Dyma newyddion da gan fod ein draenogod lleol yma yn ein rhan ni o Heol y Ficerdy wedi diflannu ar ôl i’w nyth gael ei chwalu, a hynny gryn amser yn ôl. Croeso!

    Ein gardd – yn edrych ymlaen at groesawu draenogod ac ystlumod …

  • Deall bod Americanwyr Brodorol Oklahoma yn llawenhau ar ôl ennill achos arwyddocaol iawn yn Uchel Lys yr Unol Daleithiau – achos McGirt v Oklahoma. Penderfynodd y barnwyr, o 5 v 4, bod hawliau a gytunwyd mewn cytundebau rhwng Llywodraeth ymwthiol Washington ag arweinwyr cenedl y Creek yn y 19eg Ganrif yn parhau mewn grym. Yn annisgwyl iawn, cafodd y 5 eu harwain gan y barnwr ceidwadol Neil Gorsuch a benodwyd gan Donald Trump. Yn fras, golyga hyn mai cyfreithiau a sefydliadau llywodraeth yr ‘Indiaid’ sy’n ben yn eu tiroedd nhw ac nid Llywodraeth Daleithiol Oklahoma. Cyfiawnder!
  • Llwyth o eirin duon bach yn aeddfedu’n gyflym ar ein coeden Damson, powlenni o gyrens coch a du wedi’u casglu, rhiwbob blasus wedi cyfrannu at sawl tarten a chrymbl hyfryd, a llu o tomatos nawr yn cochi yn ein tŷ gwydr bach.
  • Ar gyfarfod Zoom o aelodau Academi Celfyddydau a Gwyddoniaeth America , clywed Naomi Oreskes (awdur cyfrol Merchants of Death) yn dadlau mai’r ffordd orau i berswadio pobl sy’n ‘gwrthod’ gwyddoniaeth yw trwy ymateb yn nhermau eu hofnau amrywiol. Er enghraifft, o wynebu amharodrwydd pobl grefyddol ffwndamentalaidd i dderbyn damcaniaeth Esblygiad, y peth i wneud, meddai, yw eu cyfeirio at ddadleuon yr Athro Syr John Houghton. Sef y gwyddonydd blaenllaw a’r Cristion o Gymro, awdur The Search for God: Can Science help? Felly, y parch uchel at Syr John yn parhau er i ni ei golli yn ddiweddar i Covid 19.
  • Gweld nodyn hapus gan ein ffrind Angharad ar dudalen Wepryd Cymuned Llên Natur yn dathlu bod ystlumod yn hedfan eto o gwmpas ei chartref yn ardal Tirdeunaw ychydig yn uwch na ni ar fryniau Abertawe. Fel gyda’r draenogod, ry’n ni heb weld ystlumod yn Heol y Ficerdy, Treforys, ers rhai blynyddoedd. Felly, o glywed y newyddion da o Dirdeunaw, parhawn i hybu gwybed yn ein gardd trwy blannu amrywiaeth o goed a blodau, a thrwy ofalu am ein pwll dŵr (sydd eisoes yn gynefin i fadfallod). Ac edrychwn yn obeithiol tua’r nen – am ystlumod.
  • Falch i glywed datganiad BP eu bod yn bwriadu lleihau maint yr olew a nwy a gynhyrchir ganddynt o 40% – o gymharu â 2019 – erbyn 2030. Greenpeace yn croesawu hyn ac yn galw ar Shell i ddilyn esiampl BP: “Mae hi fel bod Nadolig wedi dod yn gynnar – er, ar yr un pryd, yn ddegawdau yn hwyr.”

Ydyn, mae pethau fel hyn yn codi calon. Ac awn ymlaen i wisgo’n mygydau, golchi ein dwylo, a chadw pellter cymdeithasol, er mwyn helpu’n gilydd. Oherwydd, o edrych ar brofiadau trist pobl ledled ein Daear, mae’n amlwg bod bygythiad Covid 19 ymhell o fod ar ben.

Troi at BP am gyngor diogelwch ffracio?

LLONGYFARCHIADAU i’r bobl ifanc gynhaliodd brotest effeithiol iawn yn ddiweddar yn erbyn y ganolfan ffracio nwy £38 miliwn sy’n cael ei chodi ar y cyd gyda BP ar gampws newydd Prifysgol Abertawe (Y Papur Gwyrdd, Campws Caniwt neu Campws Cynffig, Chwefror 3, 2014).

Y panel haul gan BP Solar yn ein gardd yn Nhreforys - cyn iddynt gefni ar ynni adnewyddol

Panel haul gan BP Solar – yn ein gardd yn Nhreforys ers 1996, cyn iddynt droi cefn ar ynni adnewyddol.

Rhoddwyd safle 65 acer hen storfa olew i’r Brifysgol gan BP yn 2012 ar gyfer y campws gwyddoniaeth newydd. Mae’r prosiect yn cael ei ariannu’n rhannol trwy arian cyhoeddus o Fanc Buddsoddi Ewrop a Llywodraeth Cymru. Ac, os cofiwch, bu cryn bwysau ar wleidyddion y Bae gan BP i brysuro i roi’r arian.

Ond doedd y perthynas newydd rhwng penaethiaid Prifysgol Abertawe a BP ddim yn amlwg yn y cyhoeddusrwydd cynnar. Dim ond yn ddiweddarach daeth y son am ganolfan ymchwil ar y cyd i’r golwg.

Gyda hiwmor du hynod eironig mae llefaryddion y Brifysgol yn cyfeirio at y ganolfan fel ‘Sefydliad Ymchwil Diogelwch Ynni’. Yn sicr, mae gan gorfforaeth enfawr BP gryn dipyn o brofiad yn y maes hwnnw. Er enghraifft –

  • Yn 2005, lladdwyd 15 o bobl ac anafwyd 180 mewn ffrwydrad mewn purfa olew BP yn Texas City, Texas. Dangoswyd nad oedd BP wedi dilyn y rheoliadau diogelwch gofynnol.
  • Yn 2007, arllwyswyd 200,000 o olew craidd o bibell BP i’r môr ym Mae Prudhoe, Alaska. Dangoswyd nad oedd BP wedi delio gyda gwendidau yn y bibell.
  • Yn 2010, lladdwyd 11 o weithwyr gan ffrwydrad ar safle BP Deepwater Horizon yng Ngwlff Mecsico. Cytunodd BP nad oedd systemau diogelwch newydd yn weithredol. Arllwyswyd mwy o olew nag erioed o’r blaen i’r môr – 175 miliwn o alwyni.
  • Heb anghofio – mai tancer olew dan reolaeth BP oedd y Torrey Canyon. Trawodd yn erbyn creigiau ym 1967 wrth i’r capten geisio prysuro rhwng Ynysoedd y Sili a Chernyw. Gollyngwyd 35 miliwn galwyn o olew ar yr arfordir a bu raid bomio’r llong gan Lu Awyr Prydain.

Rhaid edmygu’r enghraifft hyfryd o ‘Olchi Gwyrdd’ (Green Wash*) a ddefnyddir wrth ddisgrifio’r ganolfan arfaethedig fel ‘Sefydliad Diogelwch Ynni’. Y gwir syml yw mai sefydliad fydd e i hwyluso a chyflymu datblygu ffracio nwy ledled gwledydd Prydain, ynghyd â mentrau ynni carbon eraill.

Bu gan BP ran fechan yn y diwydiant ynni adnewyddol am gyfnod ers 1981. Buont a phrosiectau mewn ynni solar, gwynt a biomass ac mae gyda ni ein hunain un o baneli haul BP Solar yn ein gardd yn Nhreforys ers 1996.

Ond daeth hynny i ben yn 2011-13, efallai fel sgil-effaith o gostau trychineb Deepwater Horizon. Cefnodd BP ar ynni adnewyddol gan droi yn ôl yn llwyr at ynni ffosil, yn olew a nwy, a’u nwyon tŷ gwydr. Efallai nad yw’n syndod, felly, bod y gair ar led bod Prifysgol Abertawe wedi bod yn gwrthwynebu cynllun Morlyn Abertawe. Bwriad y prosiect hwnnw yw cyflenwi trydan nid o garbon brwnt ond o lanw glân y môr, a hynny ger campws newydd y brifysgol ym Mae Abertawe.

Dilynwch yr arian.

I ddysgu mwy am agwedd myfyrwyr Abertawe am hyn i gyd, ewch at: http://swanseaagainstfracking.wordpress.com/
* Efallai bydd cyfieithiad gwell na ‘Golchi Gwyrdd’ gan Ganolfan Hywel Teifi Edwards?