Ynghanol pryderon Covid 19, peryglon cynyddol Cynhesu Byd-eang, a bygythiad Donald Trump, braf nodi ambell i beth sy’n codi calon yn ddiweddar. Er enghraifft …
- Gwaedd ataf gan Charles drws nesa’ – “Hey, Hywel, did you know there’s a hedgehog about?” Dyma newyddion da gan fod ein draenogod lleol yma yn ein rhan ni o Heol y Ficerdy wedi diflannu ar ôl i’w nyth gael ei chwalu, a hynny gryn amser yn ôl. Croeso!
- Deall bod Americanwyr Brodorol Oklahoma yn llawenhau ar ôl ennill achos arwyddocaol iawn yn Uchel Lys yr Unol Daleithiau – achos McGirt v Oklahoma. Penderfynodd y barnwyr, o 5 v 4, bod hawliau a gytunwyd mewn cytundebau rhwng Llywodraeth ymwthiol Washington ag arweinwyr cenedl y Creek yn y 19eg Ganrif yn parhau mewn grym. Yn annisgwyl iawn, cafodd y 5 eu harwain gan y barnwr ceidwadol Neil Gorsuch a benodwyd gan Donald Trump. Yn fras, golyga hyn mai cyfreithiau a sefydliadau llywodraeth yr ‘Indiaid’ sy’n ben yn eu tiroedd nhw ac nid Llywodraeth Daleithiol Oklahoma. Cyfiawnder!
- Llwyth o eirin duon bach yn aeddfedu’n gyflym ar ein coeden Damson, powlenni o gyrens coch a du wedi’u casglu, rhiwbob blasus
wedi cyfrannu at sawl tarten a chrymbl hyfryd, a llu o tomatos nawr yn cochi yn ein tŷ gwydr bach.
- Ar gyfarfod Zoom o aelodau Academi Celfyddydau a Gwyddoniaeth America , clywed Naomi Oreskes (awdur cyfrol Merchants of Death) yn dadlau mai’r ffordd orau i berswadio pobl sy’n ‘gwrthod’ gwyddoniaeth yw trwy ymateb yn nhermau eu hofnau amrywiol. Er enghraifft, o wynebu amharodrwydd pobl grefyddol ffwndamentalaidd i dderbyn damcaniaeth Esblygiad, y peth i wneud, meddai, yw eu cyfeirio at ddadleuon yr Athro Syr John Houghton. Sef y gwyddonydd blaenllaw a’r Cristion o Gymro, awdur The Search for God: Can Science help? Felly, y parch uchel at Syr John yn parhau er i ni ei golli yn ddiweddar i Covid 19.
- Gweld nodyn hapus gan ein ffrind Angharad ar dudalen Wepryd Cymuned Llên Natur yn dathlu bod ystlumod yn hedfan eto o gwmpas ei chartref yn ardal Tirdeunaw ychydig yn uwch na ni ar fryniau Abertawe. Fel gyda’r draenogod, ry’n ni heb weld ystlumod yn Heol y Ficerdy, Treforys, ers rhai blynyddoedd. Felly, o glywed y newyddion da o Dirdeunaw, parhawn i hybu gwybed yn ein gardd trwy blannu amrywiaeth o goed a blodau, a thrwy ofalu am ein pwll dŵr (sydd eisoes yn gynefin i fadfallod). Ac edrychwn yn obeithiol tua’r nen – am ystlumod.
- Falch i glywed datganiad BP eu bod yn bwriadu lleihau maint yr olew a nwy a gynhyrchir ganddynt o 40% – o gymharu â 2019 – erbyn 2030. Greenpeace yn croesawu hyn ac yn galw ar Shell i ddilyn esiampl BP: “Mae hi fel bod Nadolig wedi dod yn gynnar – er, ar yr un pryd, yn ddegawdau yn hwyr.”
Ydyn, mae pethau fel hyn yn codi calon. Ac awn ymlaen i wisgo’n mygydau, golchi ein dwylo, a chadw pellter cymdeithasol, er mwyn helpu’n gilydd. Oherwydd, o edrych ar brofiadau trist pobl ledled ein Daear, mae’n amlwg bod bygythiad Covid 19 ymhell o fod ar ben.