Wedi pedair blynedd o Donald Trump yn gwadu newid hinsawdd, gan dynnu America allan o Gytundeb Paris, prin bod angen dweud ein bod ni’n hynod falch y cafodd Joe Biden ei ethol yn ddarpar Arlywydd newydd yr Unol Daleithiau ddydd Mawrth diwethaf, Tachwedd 3.
Mae Mr Biden wedi datgan y bydd e’n gosod America yn ôl fel un o lofnodwyr Cytundeb Hinsawdd Paris ar ddiwrnod cyntaf ei Arlywyddiaeth ar Ionawr 21, 2021. [Llun isod: commons.wikimedia.org]

Yn ddigon eironig, ar ôl i’r Arlywydd Barack Obama arwain mor gryf ar bwnc perygl Cynhesu Byd-eang yn ystod Cynhadledd Paris yn 2015, cafodd polisi Trump o dynnu’r wlad allan o’r Cytundeb ei wireddu ddydd Mercher diwethaf, Tachwedd 4.
Mae’r gwahaniaeth enfawr rhwng agweddau Trump a Biden am yr amgylchedd yn ystod yr ymgyrch etholiadol wedi cael ei grynhoi ar y wefan Climate Home News gan y newyddiadurwr Isabelle Gerretsen:
“Mae cynllun hinsawdd Biden, yr un mwyaf uchelgeisiol i’w gynnig erioed gan ymgeisydd arlywyddol, wedi ymrwymo i gyrraedd allyriadau ‘net zero’ erbyn 2050, a thrydan glân erbyn 2035; tra bod Trump wedi addo i’r etholwyr y byddai’r UD yn parhau fel y cynhyrchydd Rhif Un o olew a nwy naturiol ar y ddaear.”
“Am y tro cyntaf mewn hanes,” meddai Gerretsen, “roedd hinsawdd o ddifrif ar y papurau pleidleisio yn yr etholiad hwn. Roedd gan bleidleiswyr ddewis rhwng dim gweithredu ar yr hinsawdd [gan Trump] neu chwildroad gwyrdd $2 triliwn” [gan Biden].
Mae bwriad Joe Biden a Kamala Harris i daflu arweiniad pwerus America y tu ôl i’r ymgyrch rhyngwladol i ffrwyno cynhesu byd-eang yn galondid enfawr.
Hefyd eu bwriad i ddechrau ail-weithredu’r cynlluniau a’r safonnau i warchod yr amgylchedd yn America ei hun, sydd wedi’u gwanhau’n enbyd gan Donald Trump.
Wrth gwrs, aiff Trump, y gwadwr gwyddoniaeth, ddim yn dawel i’r llyfrau hanes. Rhaid ofni beth y bydd yn ei wneud yn y dyddiau sydd ganddo cyn iddo orfod gadael y Tŷ Gwyn.
Ond mae buddugoliaeth Biden a Harris yn yr etholiad Arlywyddol yn golygu bod y cam holl-bwysig cyntaf wedi’i gymryd i fynd ati i ail-uno America fel gwlad ar ôl gwallgofrwydd cynyddol fygythiol Trump.
A hefyd i weithredu (os bydd Gweriniaethwyr y Senedd yn cydweithio – neu os ceir buddugoliaethau ychwanegol i’r Democratiaid yn nhalaith Georgia ym mis Ionawr – neu trwy Orchmynion Gweithredol yr Arlywydd ei hun) polisïau doeth ar ehangder o feysydd gan osod lles y blaned gyfan yn gyd-destun hollol hanfodol.
Ymlaen, Joe a Kamala!
– A gan ein bod ni yma, llongyfarchiadau, hefyd, i Lywodraeth Cymru ar enwi, ar Tachwedd 4, yr 14 o goedwigoedd ledled y wlad fydd yn esiamplau cychwynnol i brosiect mawr, ysbrydoledig, Coedwig Genedlaethol Cymru.
– Ac i’r cyn-Wallaby enwog David Pocock, am daflu ei gryfder enwog i achos y blaned. Gyda’i wraig Emma, mae’n hybu gwaith adfer tiroedd a bio-amrywiaeth yn neheudir Zimbabwe gyda’r Rangelands Restoration Trust (yr Observer,Hydref 25).