Tag Archives: O’r Pedwar Gwynt

Diolch am gael ein hatgoffa am gyflwr ein planed – er Brexit

Llongyfarchiadau i gylchgrawn llenyddol O’r Pedwar Gwynt am gyhoeddi erthyglau gwerthfawr ar bwnc cyflwr ein planed – sef pwnc a guddiwyd, ers Mehefin 23, 2016, dan don dywyll Brexit (O’r Pedwar Gwynt, Gwanwyn 2018).

Nid awgrymu ydyn ni nad yw pwnc Brexit yn bwnc mawr ei hun – mae troi cefn ar barhau i gyd-lunio dyfodol gwaraidd fel aelodau o Senedd yr Undeb Ewropeaidd ymysg y pynciau mwyaf ers yr ail ryfel byd – ond bod colli golwg ar bwysigrwydd cyflwr y Ddaear gyfystyr â hunanladdiad.

Cyfraniad Angharad Penrhyn Jones i’r rhifyn yw adroddiad ar ymweliad y darlledwr amgylcheddol enwog Bruce Parry (e.e., cyfres Tribe, BBC Wales a Discovery) â sinema’r Magic Lantern ym mhentref Tywyn, Meirionnydd. Yno ydoedd i gyflwyno’i ffilm Tawai: A Voice from the Forest am ymateb llwyth y Penang yn Ba’ Puak, Borneo, wrth iddynt golli eu cynefin yn y coedwigoedd.

Cylchgrawn O’r Pedwar Gwynt, rhifyn y Gwanwyn, 2018

Darllenwn y cafodd ei groesawu’n gynnes iawn gan gynulleidfa niferus ac edmygus. Medd Angharad,  ‘.. yr argraff a gefais oedd bod y gynulleidfa – nifer yn gwisgo cotiau Patagonia, fel petaent wedi piciad draw i Dywyn ar y ffordd i Siberia – wedi tynnu eu hetiau beirniadol, fel petaen nhw’n barod i gusanu traed y dyn ar y llwyfan … wrth i’r goleuadau bylu, roedd awyrgylch ddefosiynol, bron, yn yr hen theatr yn Nhywyn.’

Ffilm yw Tawai sy’n codi cwestiynau am ein hymateb ni fel Gorllewinwyr i ddioddefaint pobloedd frodorol, a bu cwestiynu miniog ar Bruce Parry yn y drafodaeth a’i dilynodd. Ond cododd yr ymateb i’r gwahoddiad i ddod â’r noson i ben gydag ‘un cwestiwn sydyn arall’ dipyn o sioc, sef, ‘What do we do about the problem of capitalism?’

Medd Angharad: ‘… efallai mai hwn oedd y cwestiwn pwysicaf oll. Beth wnawn ni ynghylch yr uniongredaeth hon yn y Gorllewin, y ffydd led-grefyddol yn y drefn gyfalafol, neo-ryddfrydol sydd ohoni – trefn sy’n llyncu adnoddau’r byd fel rhyw anghenfil na ellir ei fodloni, trefn sy’n llwyddo i draflyncu unrhyw wrthsafiad?’

Ffrwyth astudiaeth ddwys ar bwnc y Ddaear yw erthygl yr Athro Emeritws R. Gareth Wyn Jones, sef Ynni, gwaith a chymhlethdod, sy’n seiliedig ar ddarlith Edward Lhuwyd a gyflwynwyd ganddo ym Mangor yn Nhachwedd 2017. (Sylwer bod y cylchgrawn hefyd yn cynnwys cyfweliad rhwng Cynog Dafis a’r Athro, sef Y Saith Chwyldro.)

Yn ei eiriau’i hun, mae’r Athro’n cyflwyno, ‘dehongliad o hanes bywyd ar ein planed dros 4.5 biliwn blwyddyn ei bodolaeth, gan dynnu sylw arbennig at rai cyfnewidiadau sylfaenol yn  yr atmosffer a’r lithosffer. Gwnaf hyn yn nhermau’r berthynas sydd rhwng ynni a’r gallu a ddaw yn ei sgil i gyflawni gwaith.’

Gan dderbyn ei fod yn ymdrin ‘â chynfas eithriadol o eang’, mae’r Athro’n trafod chwe chwyldro ynni ffurfiannol yn hanes y Ddaear. Ceir ganddo grynhoad ar sut mae ffrwyno ffynhonnell newydd o ynni nid yn unig yn creu’r potensial o gyflawni gwaith ychwanegol, ond bod hyn, hefyd, yn arwain at greu cymhlethdod materol ac, yn ein byd presennol, at gynhyrchu cymhlethdod cymdeithasol cynyddol.

Yn rhifyn Haf O’r Pedwar Gwynt, bwriedir cyflwyno ail erthygl gan yr Athro fydd yn edrych ar y chwe chwyldro hanesyddol yn nhermau eu cyfraniad i ‘natur heriol y seithfed chwyldro’ sy’n wynebu’n byd cyfoes ni.

Yn oes Donald Trump a’r Gwadwyr Newid Hinsawdd asgell-dde, talwn sylw i esboniad Gareth Wyn Jones o’r hyn sy’n digwydd: ‘Effeithiwyd yn ddwys ar ecoleg y blaned gan achosi, mewn perthynas ag ynni, ganlyniadau niweidiol allyriadau nwy carbon deuocsid a ryddheir o losgi’r holl danwydd ffosil. O ganlyniad, newidiwyd cydbwysedd mewnlif ac all-lif ynni’r haul, sy’n golygu bod mwy a mwy o’i wres yn cronni yn y moroedd a’r awyr.’

Ie, er y gwadu – a’r anwybyddu – croeso i ‘Oes y Seithfed Chwyldro’, oes cynhesu byd-eang.