Pa obaith i’r Ddaear yn 2017? – Blwyddyn ffolineb enfawr Trump a Brexit

MAE’R rhan fwyaf o’r bobl y cyfeirir atynt fel ‘amgylcheddwyr’ yn bobl optimistaidd. Rydym yn credu bod modd gwarchod y Ddaear rhag y difrod mae dynoliaeth yn ei achosi iddi. Dywedwn ‘y mwyafrif’, gan fod lleiafrif o amgylcheddwyr o’r farn nad yw hynny’n bosibl bellach, o ganlyniad i wadu ac oedi.

Fel arfer ar gychwyn blwyddyn newydd mae ’na deimlad cyffredin o obaith y bydd yr hyn a brofwn yn y misoedd sydd i ddod yn well na’r hyn a gawsom, y bydd yr hyn a wnawn yn well na’r hyn a wnaethom, ac y bydd pethau’n parhau i wella.

Pennaeth ExxonMobil Rex Tillerson yn cwrdd ag Arlywydd Rwsia, Vladimir Putin.

Pennaeth ExxonMobil Rex Tillerson yn cwrdd ag Arlywydd Rwsia, Vladimir Putin. Llun: premier.gov.ru/WikipediaCommons

Ond nid felly gyda 2017. Rydym yn cyfaddef ein bod yn mentro i’r flwyddyn newydd hon gan deimlo’n ofidus am yr hyn a fydd. Nid adlewyrchiad yw hynny o newid yn ein cred sylfaenol bod modd gweithredu i ffrwyno canlyniadau gwaethaf cynhesu byd-eang a newid hinsawdd. Ond bod Brexit a Trump yn ffolineb anferth a bygythiol fydd yn dwysau’r holl broblemau astrys, amrywiol sy’n ein hwynebu.

Er mor bizarre fydd gweld Donald J. Trump yn cael ei urddo’n Arlywydd yr Unol Daleithiau, mae ei benodiadau i’w brif swyddi llywodraethol eisoes wedi achosi syfrdan i lawer gan gael ei ddisgrifio fel “a cabinet of billionaires” gan y Seneddwr sosialaidd Bernie Sanders o Vermont. I amgylcheddwyr yn benodol, y dewisiad mwyaf syfrdanol gan Trump oedd cyflwyno Rex Tillerson, prif weithredwr corfforaeth olew ExxonMobil, i fod yn Ysgrifennydd Gwladol y wlad.

Fel pennaeth, bu Tillerson yn parhau â pholisi Exxon o wadu bodolaeth cynhesu byd-eang am flynyddoedd, gan guddio ymchwil mewnol oedd yn dangos bod y gorfforaeth yn gwybod bod y blaned yn cynhesu.

O ganlyniad, mae Tillerson – ‘Ysgrifennydd Tramor’ nesaf America – yn wynebu cyhuddiadau cyfreithiol gan awdurdodau taleithiol Massachusetts ac Efrog Newydd. Mae llys ym Massachusetts wedi gorchymyn ExxonMobil i gydweithredu ag ymchwiliad Twrne Cyffredinol y dalaith. Y nod yw darganfod a oedd y cwmni olew yn gwybod am effaith llosgi tanwyddau ffosil ar newid hinsawdd, ac wedi dweud celwydd wrth y cyhoedd a buddsoddwyr i guddio hynny.

Mae Twrne Cyffredinol Efrog Newydd hefyd eisiau gwybod a oedd ExxonMobil wedi camarwain buddsoddwyr ynghylch peryglon newid hinsawddd, gan fynnu gweld cofnodion, negeseuon ebost a dogfenni eraill. Y cwestiwn yw a oedd ExxonMobil wedi ceisio cuddio risgiau eu polisi o barhau i dyllu am olew rhag iddynt godi ofnau ynghylch elw’r cwmni.

Yn benodol, roedd Rex Tillerson wedi dweud wrth gyfarfod o fuddsoddwyr ym mis Mai 2016: “Mae’r byd yn mynd i orfod parhau i ddefnyddio tanwyddau ffosil, hoffi neu’i beidio.”

Rhwng y 1990au a chanol y 2000au, roedd Exxon yn ariannu grwpiau oedd yn tanseilio pryderon cynyddol ynghylch peryglon newid hinsawdd, er bod y cwmni’n cael ei rybuddio bod llosgi tanwyddau ffosil yn fygythiad i’r blaned.

Meddai erthygl yn y Los Angeles Times, ‘Mae llawer o amgylcheddwyr yn dadlau bod gweithgareddau ExxonMobil yn debyg i’r cwmnïau tybaco oedd yn gwybod bod smygu’n achosi iechyd difrifol o ddrwg ond, ar yr un pryd, yn gwadu eu hymchwil eu hun.’

Meddai Lee Wasserman, cynrychiolydd Cronfa Deuluol Rockefeller sy’n gweithredu i warchod yr amgylchedd, bod Exxon dan arweinyddiaeth Rex Tillerson, “wedi gwneud y lleiaf posibl mewn ymgais ymddangosiadol i osgoi cyfrifoldeb difrifol am gamgyflwyno ffaith holl bwysig am eu model busnes: Mae eu cynnyrch yn gyfrifol am newid hinsawdd catastroffig.”

Meddai Greenpeace: ‘Yn ei swydd (fel Ysgrifennydd Gwladol America), bydd Tillerson yn gwneud ei orau i dawelu ymdrechion byd-eang a hawl twrneiod cyffredinol taleithiol i ddal cwmnïau tanwyddau ffosil yn gyfreithiol gyfrifol am newid hinsawdd. Chawn ni mo’n mygu, a wnawn ni ddim caniatau i’r cabinet hwn o billionaires yrru stêm-roler dros y bobl.”

Safwn gyda Greenpeace a mudiadau tebyg i warchod y Ddaear. Ceisiwn ei hamddiffyn rhag dinistr gan bolisïau anghyfrifol ciwed o gyfoethogion cyfalafol dan arweinyddiaeth Donald Trump a Vladimir Putin – a Rex Tillerson. Bydd 2017 yn dangos pa lwyddiant gaiff ein hymdrechion ni i warchod, a’u chwant nhw am elw.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

Mae'r wefan hon yn defnyddio Akismet i leihau sbam. Dysgwch sut mae eich data sylwadau yn cael ei brosesu .