HEDDIW, ar raglen Radio 4 ‘Today’, fe gawson ni enghraifft glasurol gan y BBC yn Llundain o sut i beidio â chyflwyno ‘trafodaeth’ gall am y perthynas rhwng newid hinsawdd a’r tywydd eithafol presennol.
Roeddent wedi gwahodd y gwyddonydd blaenllaw Syr Brian Hoskins i’r stiwdio i daflu goleuni ar y patrymau o dywydd peryglus sy’n ergydio’n byd mor aml bellach a, hefyd, ar y codiadau yn lefelau’r môr sy’n fygythiad i drefi a dinasoedd arfordirol. Popeth yn iawn.
Ond roeddent hefyd wedi sicrhau bod y Gwadwr Newid Hinsawdd dylanwadol, y cyn-Ganghellor Torïaidd Nigel Lawson, yn cael bod yn y stiwdio i danseilio popeth roedd gan Brian Hoskins i’w ddweud.
Byddai’r BBC yn mynnu mai newyddiaduraeth gytbwys oedd hynny.
O, ie? Sef person o awdurdod a phrofiad fel gwyddonydd newid hinsawdd, sef Syr Brian Hoskins, yn cael ei wynebu gan berson arall sy’n gwadu’r cyfan o wyddoniaeth newid hinsawdd, er ei fod heb gefndir gwyddonol o gwbl ei hun, sef Nigel Lawson.
Nid cydbwysedd newyddiadurol oedd hynny. Methiant llwyr ydoedd fel newyddiaduraeth. Methiant i adlewyrchu’n gywir y consensws mawr ymhlith gwyddonwyr bod newid hinsawdd bygythiol yn digwydd a’i bod yn deillio i raddau helaeth o’r cynnydd yn y carbon sy’n cael ei wthio i’r atmosffer gan ein gwareiddiad modern.
Nod y Global Warming Policy Foundation y mae Nigel Lawson yn llais pwerus iddo yw hau amheuon ymhlith y cyhoedd ynglŷn ag achosion newid hinsawdd. A’u nod penodol yw sicrhau rhwydd hynt i’r diwydiannau ynni carbon barhau i elwa, beth bynnag yw’r canlyniadau i filoedd a miliynau o bobl gyffredin.
A heddiw, eto, bu’r BBC yn Llundain yn cynnal y diwydiannau hynny, gan ildio i’w lobïwyr. Ac mae’r stormydd enbyd yn parhau.
►Am ddadlenniad ysgytwol o’r cryn bychan sydd wedi bod yn codi ymheuon ym meddyliau’r cyhoedd ynglyn â rhybuddion gwyddonol ers degawdau, ewch at Merchants of Doubt gan Naomi Oreskes & Erik M.Conway (Bloomsbury 2010). [HYWEL]
gelli di roi bylcahu rhwng y paragraffs? Mae’n amhosib darllen fel mae
Diolch, Steve. Cytuno’n llwyr ac wrthi’n ceisio dod o hyd i’r ateb!Angen newid nifer o bethau ynglyn a’r diwyg. Ac fe ddaw.
Ein natur yn naturiol – yw gwadu’r
Holl gawdel hinsoddol
A’i ddewiniaeth wyddonol…
Rhoi ffydd mewn amatur ffôl.