YN ystod y cyfnod diweddaraf o law trwm, gwyntoedd uchel, stormydd cryf, a llifogydd, rydw i wedi bod yn darllen llyfr o’r enw Flight Behavior, nofel newydd gan yr Americanes Barbara Kingsolver.
Mae Kingsolver eisoes ymysg y mawrion fel nofelydd cyfoes, wrth gwrs. Ond rhaid imi gyfaddef imi gael fy nenu ati’n gychwynnol wedi sylwi ei bod yn hanu o Kentucky, fel fi fy hun, ac o ardal enedigol fy mam yn arbennig, sef Nicholas County.
Mae’r tywydd yng Nghymru ac ar draws gwledydd Prydain ar hyn o bryd yn dilyn y patrwm y mae gwyddonwyr wedi’i ragweld fel canlyniad tebygol i newid hinsawdd. A dyma thema Flight Behavior.
Yn y nofel fachog newydd hon, mae menyw ifanc sy’n ffermwraig ym mynyddoedd Tennessee, yn dod at gydnabyddiaeth o’r peryglon i’n planed trwy brofi tywydd anghyffredin o wlyb a thymheredd uwch na’r normal yn y gaeaf, tebyg i’r hyn rydyn ni’n ei ddioddef. Ac mae hi hefyd yn dod wyneb-yn-wyneb gyda digwyddiad dramatig arall ym myd natur, sef ymateb un rhywogaeth o ieir-bach-yr-haf i ganlyniadau newid hinsawdd.
Roedd Barbara Kingsolver wedi astudio bioleg cyn troi at ysgrifennu. Mae hi’n siarad yn gryf yn gyhoeddus ar effeithiau cynhesu byd eang, gan rybuddio ein bod yn codi’n plant gyda’r celwydd bod eu ffordd o fyw yn gallu parhau. Mae’n mynnu bod rhaid i ni ddianc ‘rhag ffwlbri gwyllt ein dibyniaeth ar danwydd carbon’ (gweler Y Papur Gwyrdd 10, Chwefror/Mawrth 2009, tud 9, am gyfeiriad at araith ganddi ar y pwnc hwn).
Rydw i’n edrych ymlaen at ddarganfod pa awgrymiadau a welir erbyn diwedd Flight Behavior – ai i fod yn obeithiol, ai peidio. Felly, efallai fe wna i gyfeirio at y llyfr eto. Ond, peidiwch â becso, rwy’n addo peidio â datgelu’r stori! [CHARLOTTE]