Campws Caniwt neu Campws Cynffig?

Tonnau mawr o stormydd a llanw uchel Ionawr 2014 wedi torri mewn i dwyni tywod ar draeth Abertawe

Tonnau mawr o stormydd a llanw uchel Ionawr 2014 wedi torri mewn i dwyni tywod ar draeth Abertawe

BORE heddiw, aeth Charlotte a minnau ar y bws Metro – y ‘bendy bus’ ar lafar – o Gwmrhydyceirw i gampws Prifysgol Abertawe gan ddilyn ffordd y môr. Cymryd llyfr yn ôl i lyfrgell y Brifysgol oedd Charlotte – fel darlithydd wedi ymddeol – llyfr oedd yn cynnig hyfforddiant ar y technegau cyfrifiadurol sydd angen arnom i wella’r Wefan / Blog hon.

Yna, nôl a ni i ganol Abertawe i godi copi o’r un llyfr yn siop Waterstone’s. Roedden ni wedi’i archebu ganddyn nhw ar ôl sylweddoli maint y dasg o’n blaen!

Ond nid y llyfr, na’r angen i wella Gwefan newydd Y Papur Gwyrdd yw pwnc y neges hon. Ond beth welsom yn ystod ein taith ar y Metro, a’r goblygiadau am brosiect adeiladu enfawr academaidd sydd ar gerdded yn lleol.

Yr hyn oedd yn ein synnu, ac nid am y tro cyntaf dros y misoedd diwethaf, oedd gweld cymaint o dywod a daflwyd o’r traeth gan y tonnau yn ystod deuddydd o dywydd garw – tu hwnt i’r promenade i brif ffordd Heol Ystumllwynarth a thu hwnt i’r heol hefyd. Roedd Jaciau Codi Baw bach wrthi eto gyda’r gwaith clirio.

Fel cerddwyr rheolaidd ar draeth hyfryd Bae Abertawe, rydym wedi gweld newidiadau sylweddol wrth i rym y môr a’r llanw erydu twyni tywod a gwthio yn erbyn pier Afon Tawe. Mae’r môr yn benderfynol o adennill ei thiriogaeth. Ac mae ardaloedd canol Abertawe yn amlwg o dan fygythiad.

Ychydig yn ôl yng nghylchgrawn Y Papur Gwyrdd (tud 3, rhifyn 23, Ebrill / Mai 2011), roeddem wedi cwestiynu doethineb Prifysgol Abertawe a’u cynllun i godi campws newydd £450 miliwn ar lan y môr rhwng dociau Abertawe ac aber Afon Nedd ar hen safle olew BP.

Roeddem yn tynnu sylw at rybuddion adroddiad newydd gan Sefydliad Joseph Rowntree ynglŷn ag effaith debygol newid hinsawdd ar ardaloedd arfordirol Prydain. Cyfeiriodd yr adroddiad yn arbennig at arfordir De Cymru fel un o’r rhai oedd ymysg y mwyaf tebygol i ddioddef o ganlyniad i stormydd ffyrnicach a chodiadau yn lefel y môr erbyn 2050-2080 (sef cyfnod yr astudiaeth).

Roeddem hefyd wedi nodi’r ffaith bod cynllunwyr y Brifysgol yn ymwybodol o’r perygl. Roeddynt yn mynnu y byddan nhw’n codi’r safle 0.5 – 1.5m yn uwch i leiafswm o 7m o uchder ledled y safle – ‘ac felly,’ meddai’r cynllunwyr, ‘uwchlaw’r lefelau llif arfordirol a ragwelir’.

Ni fu ymateb i’n herthygl oedd yn gofyn pa mor gall fyddai codi prosiect mor fawr ar lan y môr yn wyneb cymaint o rybuddion. Ac nid oes trafod pellach wedi bod ar y pwnc, i ni wybod amdano. Ond bellach, a phawb yn profi pŵer y stormydd a’r llanw, rydym yn dechrau clywed cyfeiriadau yn lled fynych at y prosiect hwn fel un sydd fel petai’n herio’r môr.

Ac nid yn unig yn herio, ond yn brolio.

Yn ddiweddar, cyhoeddodd Prifysgol Abertawe lun o’r awyr yn dangos twf y campws ‘Gwyddoniaeth ac Arloesedd’ wrth i’r gwaith adeiladu fynd yn ei flaen. Bydd myfyrwyr ar y campws erbyn 2015. Bydd 12,000 o swyddi llawn amser erbyn 2020 o ganlyniad. A dyma fydd un o’r ychydig safleoedd prifysgol ledled y byd i fod â promenade a thraeth.

Nid rhywbeth i’w amau gan neb fu natur na pwysigrwydd y prosiect hwn. Ond bu’r brolio diweddar yn ormod i o leiaf un o ddarllenwyr papur dyddiol lleol Abertawe, sef yr Evening Post. Cyhoeddodd y Post yr e-sylw hwn gan berson gyda’r ffug enw Boswine: “I hope there are some good flood defences planned for this development or the students better bring their scuba diving kits with them to uni” (Evening Post, Rhagfyr 28, 2013).

Ac, yn sŵn y gwyntoedd a’r tonnau, nid peth anghyffredin bellach yw clywed cwestiynu tawel am ‘godi tŷ ar y tywod’.

A beth am enw i’r campws? Awgrym poblogaidd yw Campws Alfred Russell Wallace, ar ôl y damcaniaethwr esblygiad oedd â chysylltiadau lleol. Enw campus i’r campws. Ond a fydd y dyfodol yn dangos y byddai Campws Coleg Caniwt wedi bod yn fwy priodol? Neu Campws Cynffig ar ôl y dref gyfagos a ddiflannodd dan y twyni tywod yn y canol oesoedd?

Beth sy’n siŵr o fod yn wir ynghanol y stormydd cyfredol yw nad yw cynllunwyr y campws yn cysgu cweit mor dawel yn eu gwelyau.

A ddaw Campws Gwyddoniaeth ac Arloesedd Prifysgol Abertawe yn enghraifft glasurol o brosiect a gymerodd ormod yn ganiataol am allu dynol, tra’n talu rhy ychydig o barch i gryfder systemau naturiol? Trafodwch!

2 responses to “Campws Caniwt neu Campws Cynffig?

  1. Gwych yw’r bendi-bys yn Abertawe a bûm yn ei ddefnyddio yn rheolaidd. Ond rhoddais y gorau iddi oherwydd cost.

    Gyrru car o Dreforys i’r ddinas, parcio fore Sadwrn a dychwelyd = £3 (amcan)

    Bendi-bys i’r plant (deuddeg ac 8 oed) a fi = £10

    Dros fis mae’n wahaniaeth rhwng deuddeg punt a deugain punt (blwyddyn = £156 neu £480). Ar lefel bersonol rhaid yw pwyso a mesur ac yn anffodus defnyddiaf y car bellach.

    Mae’n hanfodol fod trafnidiaeth gyhoeddus yn rhad.

  2. Gyda llaw – Campws Seithennyn siŵr!

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

Mae'r wefan hon yn defnyddio Akismet i leihau sbam. Dysgwch sut mae eich data sylwadau yn cael ei brosesu .