Tag Archives: desmond tut

Tyrfaoedd yn rhybuddio am newid hinsawdd

I BAWB sy’n caru’r Ddaear, roedd rheswm i ddathlu ar Ddydd Sul, Medi 21. Ar y dydd hwnnw, gwelwyd cannoedd o filoedd o bobl yn gorymdeithio mewn dros 2,000 o ddinasoedd ledled y byd i bwyso am bolisiau brys i ffrwyno cynhesu byd-eang.

Yn Efrog Newydd, gwelwyd yr orymdaith fwyaf erioed o blaid parch i’r Ddaear, gyda 400,000 yn gorymdeithio. Roedd pennaeth y Cenhedloedd Unedig, Ban Ki-moon yn bresennol i’w cefnogi.
Bu 40,000 yn cerdded trwy ganol Llundain, a 30,000 yn ymgynnull ynghanol Melbourne – a miloedd mewn dinasoedd a threfi eraill.

Roedd ‘Gorymdeithiau Hinsawdd y Bobl’ wedi cael eu trefnu i gario neges glir i’r cyfarfod o benaethiaid gwledydd sydd i’w chynnal yn Efrog Newydd yr wythnos hon i drafod cynhesu byd-eang.

Gobaith y Genhedloedd Unedig yw y bydd y cyfarfod hwn yn paratoi’r ffordd at sicrhau cytundeb eang a chryf yn y gynhadledd fawr nesaf sydd i’w chynnal ar y pwnc ym Mharis yn 2015. Y consensws gwyddonol yw bod toriadau llym mewn allyriadau carbon deuocsid i’r awyr yn hanfodol er mwyn arafu ac atal y cynhesu sy’n dal i ddigwydd.

Un o gefnogwyr blaenllaw y dydd hwn o weithredu oedd yr Archesgob Desmond Tutu. Gan rybuddio pa mor ddifrifol mae’r cynhesu, mae Tutu wedi galw am ymgyrch ‘boycott’ yn erbyn corfforaethau glo, olew a nwy – fel a gaed yn erbyn De Affrica i ddod ag apartheid i ben.

Meddai yn y Guardian: ‘Rhaid i bobl o gydwybod dorri eu cysylltiadau gyda chorfforaethau sy’n ariannu anghyfiawnder newid hinsawdd. Gallwn, er enghraifft, foicotio digwyddiadau, timau chwaraeon a rhaglenni ar y cyfryngau sy’n cael eu noddi gan gwmniau ynni-ffosil. Gallwn fynnu bod hysbysebion y cwmniau ynni yn cario rhybuddion iechyd. Gallwn annog mwy o’n prifysgolion a’n cynghorau a sefydliadau diwylliannol i dorri eu cysyltiadau gyda’r diwydiant ynni-ffosil. Gallwn drefnu dyddiau di-gar ac adeiladu ymwybyddiaeth gymdeithasol ehangach. Gallwn ofyn i’n cymunedau crefyddol lefaru’n groyw.’

Bydd yr Archesgob yn falch o ymateb Cymorth Cristnogol. Maen nhw wedi trefnu penwythnos o weithredu dros Gyfiawnder Hinsawdd yng ngwledydd Prydain ar Hydref 18 ac 19.

Eu galwad yw i gapeli ac eglwysi fynd ati i drefnu amrywiaeth o ddigwyddiadau i dynnu sylw at gynhesu byd-eang ar y penwythnos hwnnw, gan sicrhau bod gwleidyddion yn cael clywed am eu pryder. Yr hyn sydd wedi tanio Cymorth Cristnogol yw gweld o brofiad sut mae newid hinsawdd yn niweidio pobl dlawd y byd – er yn cael ei achosi gan y gwledydd a chorfforaethau cyfoethog.

Byddai’n dda gennym glywed faint o gapeli Cymru fydd yn ymuno mewn rhyw ffordd neu’i gilydd â’r Penwythnos Cyfiawnder Hinsawdd pwysig hwn. Cyhoeddwn eu henwau â phleser.

Rhaid atal cynhesu byd-eang - medd 400,000 wrth orymdeithio ym Manhattan

Rhaid atal cynhesu byd-eang – medd 400,000 wrth orymdeithio ym Manhattan