Fel gwefan, mae’r Papur Gwyrdd wedi bod yn falch i fod yn un ymysg myrdd o leisiau sydd wedi bod yn galw ar wledydd y byd i gydweithredu â’i gilydd i warchod y Ddaear, ein cartref planedol.
Yn yr un ysbryd, rydym yn falch i gefnogi’r ymgyrch i sicrhau bod y Deyrnas Gyfunol yn aros yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd yn y Refferendwm a gynhelir ar ddydd Iau, Mehefin 23.
Gwnawn hynny yng ngoleuni’r weledigaeth a gaed wedi diwedd yr Ail Ryfel Byd y byddai cydweithredu agos rhwng gwledydd Ewrop yn well o lawer na bod yn wledydd ar wahân yn cystadlu â’n gilydd. O’r ddau ddewis, mae’r cyntaf yn cynnig y cyfle am heddwch i bawb – wedi canrifoedd o ymladd gwaedlyd – a’r llall yn rhwym o arwain at wrthdaro.
Os na fydd dim arall yn glir i ni wrth i ni bleidleisio ar ddydd y Refferendwm tyngedfennol hwn, dylwn ystyried geiriau’r athronydd George Santayana, sef “Those who cannot remember the past are condemned to repeat it.”
Er ei holl feiau, mae’r Undeb Ewropeaidd wedi cadw’r heddwch rhwng gwledydd sydd â hanes o ryfela. Mae hefyd wedi cynnig cymorth i gymunedau mewn cyfnod o newidiadau economaidd a chymdeithasol mawr.
Felly, beth bynnag yw’r pwyslais a rown ar yr angen i addasu a gwella polisïau a threfniadau – a derbyniwn fod angen hynny – peidiwn â pheryglu bodolaeth y sefydliad hwn sydd wedi gwneud cymaint i gyfoethogi’n bywydau.
Pe byddai’r Deyrnas Gyfunol yn rhwygo’n rhydd ar ei phen ei hun o ganlyniad i’r Refferendwm hynod annoeth hwn, gallai hynny rhoi hwb i brosesau allai rwygo’r cyfan o’r Undeb Ewropeaidd. Byddai cenedlaethau yn talu’r pris. Er lles pawb – rhannwn ‘rheolaeth’; rhannwn ‘sofraniaeth’.
… Wrth i ni baratoi’r post hwn, daeth y newyddion enbyd am lofruddiaeth greulon yr Aelod Seneddol a’r fam ifanc Jo Cox yn Swydd Efrog, gwraig ifanc alluog oedd wedi ymroi i gynnal anffodusion y byd. Wrth gyd-ymdeimlo â’i theulu, gobeithiwn y bydd y digwyddiad trist hwn yn achosi pawb ohonom i ail-ystyried yn ddwys iawn pa ffordd yw ffordd ddoethineb mewn byd lle mae cymaint o gasineb yn cael ei ryddhau.
Mewn rali ddiweddar yn Neuadd y Brangwyn, Abertawe, clywsom Stephen Kinnock AS yn disgrifio sut y bu’n dosbarthu taflenni ‘Aros Mewn’ yn Aberafan pan ddaeth gŵr oedd wedi’i gynhyrfu’n lân i fyny ato, ei brocio a’i fys, a gweiddi “Traitor!” arno.
Oes, yn y cyfnod o dawelwch sydd gennym bellach yn ymgyrch y Refferendwm wedi marwolaeth Jo Cox mae angen ffrwyno’r gwylltineb sydd ar gerdded.