Rydym yn byw mewn cyfnod eithriadol o gythryblus gyda bygythiadau Trump, Brexit, terfysgaeth, globaleiddio, rhyfela, tlodi a newyn enbyd, symudiadau poblogaeth dirdynnol o drist a phroblemau anferth eraill.
Ond er y rheidrwydd arnom i ymateb i’r pynciau difrifol hyn, y perygl yw ein bod wedi anghofio mai’r cyd-destun i’r cyfan yw bod cynhesu byd-eang yn carlamu ymlaen. Wrth i ddynoliaeth gredu bod pethau eraill i’w delio â nhw’n gyntaf, dyw prosesau’r Ddaear ddim yn oedi.

Ledled y byd mae pobl yn ymgyrchu i dynnu buddsoddiadau allan o ddiwydiannau, fel Exxon, sy’n llosgi carbon gan achosi cynhesu byd-eang.
Cyhoeddodd gwyddonwyr NASA bod cyfartaledd tymheredd y blaned yn ystod pob un o fisoedd 2016 hyd yn hyn wedi torri pob record flaenorol. Yn America, rhybuddiodd yr Arlywydd Obama am beryglon y tywydd eithriadol o boeth sy’n llethu pobl ar draws y wlad. Yn Kuwait, mesurwyd tymheredd o 129.4oC, yr uchaf a gofnodwyd yn hemisffer y dwyrain.
Diolch i’r Athro Siwan Davies, y gwyddonydd o Brifysgol Abertawe, am ein hatgoffa ni yn dawel ac awdurdodol yn ei chyfres bwysig a gafaelgar, Her yr Hinsawdd, ar S4C bod yr iâ yn toddi, bod y moroedd yn codi, bod pobl yn dioddef. Diolch byth, dyma ni yng Nghymru, ac yn yr iaith Gymraeg, yn cael ein hannog yn effeithiol iawn i addasu’n bywydau er mwyn gwarchod y byd a’u holl ffurfiau byw.
Ond prin iawn fel arall ar hyn o bryd yw’r sylw a roddir i’r difrod rydym yn ei achosi i’n cartref planedol. Er i ryw 200 o wledydd lofnodi cytundeb yn y Cenhedloedd Unedig yn gynt eleni i gyd-weithredu i ffrwyno codiadau allyriadau CO2 i ddim mwy na 1.5oC, parhau i wadu bod ’na broblem o gwbl mae’r corfforaethau carbon a’r papurau newydd a’r cyfryngau a’r gwleidyddion maent yn eu rheoli.
Wrth greu ei Llywodraeth wedi ffolineb Refferendwm yr Undeb Ewropeaidd, aeth Prif Weinidog Torïaidd newydd y Deyrnas Gyfunol, Theresa May, ati ar unwaith i ddiddymu’r Adran Newid Hinsawdd. Penododd David Davis yn bennaeth ar y broses o gilio o’r Undeb, sef un sydd wedi honni mai oeri byd-eang sydd gennym nid cynhesu! A throdd at Liam Fox, ‘gwadwr’ arall a chyfaill i bendefigion y farchnad rydd, i fod yn Weinidog Masnach Ryngwladol.
Mae’r sefyllfa’n waeth yn yr Unol Daleithiau lle mae gafael y corfforaethau carbon ar wleidyddion yn gryfach eto. Bu datblygiad rhyfeddol yr wythnos hon yn Washington, wrth i ‘subpoena’ gael ei gyhoeddi gan Bwyllgor Tŷ’r Gyngres ar Wyddoniaeth, y Gofod a Thechnoleg yn erbyn mudiad amgylcheddol 350.org, twrneiod cyffredinol Efrog Newydd a Massachusetts, a saith o fudiadau eraill.
Gwnaed hyn fel ymateb yr aelodau Cyngres, dan arweiniad y Cynrychiolydd Lamar Smith o Texas, i ymgyrch 350.org a’r sefydliadau eraill yn galw am ymchwiliad i hanes cwmni olew Exxon. Mae’r mudiadau yn cyhuddo’r cwmni o droseddau corfforaethol dros ddegawdau trwy guddio ffeithiau newid hinsawdd er i’w gwyddonwyr eu hunain gadarnhau bod llosgi olew a glo yn achosi cynhesu.
Ond yn lle ymchwilio i Exxon, mae aelodau Cyngres America am wasgu ar y mudiadau sy’n rhybuddio yn erbyn peryglon enfawr newid hinsawdd. Maent yn ceisio gorfodi 350.org i ryddhau eu holl e-byst a dogfenni eraill fel rhan o ‘ymchwiliad’ y Gyngres. Gwrthod mae 350.org, ac yn hollol deg gan nad oes awgrym call o gam-ymddwyn yn eu herbyn.
Cefnogwn ninnau 350.org, taleithiau Efrog Newydd a Massachusetts, a’r mudiadau eraill yn eu brwydr yn erbyn gweision Exxon yng Nghyngres yr Unol Daleithiau. Diolchwn iddynt am eu dewrder am sefyll i fyny yn erbyn y gorfforaeth bwerus hon sydd ymysg y pennaf gyfrifol am wenwyno atmosffer y Ddaear gan beryglu bywydau miliynau o bobl.