Llifogydd cynhesu byd-eang yn bygwth cynlluniau Dinas Abertawe

Fe ddylen ni wedi bod yn ymateb ers amser maith i’r rhybuddion gwyddonol cynyddol am y niwed ddaw i bawb ohonom gyda chynhesu byd-eang. Ond cawsom ein hudo gan glochdar y Gwadwyr fu’n mynnu mai dychryn di-sail yw’r cyfan.

Ond bellach, mae gwleidyddion Abertawe – lle rydyn ni, cyhoeddwyr gwefan Y Papur Gwyrdd, yn byw – yn gorfod wynebu’r effeithiau niweidiol hynny. Mae cynghorwyr Dinas a Sir Abertawe wedi cael clywed bod sicrwydd llifogydd gan Afon Tawe a’r môr yn peryglu holl strategaeth ail-ddatblygu canol ein dinas. Yr  achos yw’r stormydd glaw ffyrnicach a’r codiadau yn lefel y môr sy’n ganlyniad i gynhesu byd-eang.

Ofnau bod lifogydd gan for ac afon yn bygwth cynlluniau mawr Cyngor Abertawe

Ofnau bod lifogydd gan for ac afon yn bygwth cynlluniau mawr Cyngor Abertawe

Yn benodol, gosodwyd adroddiad gerbron cabinet y cyngor sy’n rhybuddio y bydd llifogydd yn effeithio’n gynyddol trwy’r degawdau nesaf ar ardaloedd glannau Afon Tawe a’r Marina, safle Dewi Sant ger Canolfan Siopa’r Quadrant, Heol Ystumllwynarth a chartrefi ardal boblog Sandfields.

Mae tywod yn codi at lefel pier Afon Tawe ac yn aml yn cael ei chwythu i ffordd y Mwmbwls.

Mae tywod yn codi at lefel pier Afon Tawe ac yn aml yn cael ei chwythu i ffordd y Mwmbwls.

Mae’r goblygiadau yn bell-gyrhaeddol iawn i Abertawe.

“Yn y pendraw,” medd yr adroddiad, “fe fydd y risgiau [o lifogydd] yn atal datblygiad a buddsoddiad mewn nifer o brosiectau datblygu ac adfer allweddol ynghanol y ddinas.”

Mae swyddogion yn mynnu nad oes perygl yn y tymor byr, ond maen nhw’n gwneud yn glir bod y llifogydd yn mynd i ddigwydd a bod angen creu amddiffynfeydd i warchod dinas Abertawe (fel dinasoedd glan môr eraill ledled y blaned) rhag y dyfroedd.

Y cefndir lleol i hyn yw bod Cyngor Abertawe wedi bod wrthi’n trafod cynllun enfawr i gysylltu canol y ddinas gyda datblygiad newydd ar safle glan môr y Neuadd Sirol bresennol sydd i’w chwalu.

Cost y cynllun hwnnw fyddai £500 miliwn. Mae cryn heip wedi bod.

  • Ar safle Dewi Sant ynghanol Abertawe edrychir ymlaen at godi arena gyda 3,500 sedd ar gyfer achlysuron rhyngwladol, adeiladu tŵr newydd ar gyfer fflatiau mor uchel â’r Tŵr Meridien presennol, strydoedd siopa, tai bwyta, sinema, sgwâr cyhoeddus a chysylltiadau gwell â’r promenâd.
  • Ac ar safle Neuadd y Sir ar lan y môr, bwriedir codi mwy o eto o lefydd byw ac o dai bwyta.

Ond mae’r freuddwyd fawr hon bellach mewn perygl wrth i realiti effeithiau cynhesu byd-eang sobri gwleidyddion a datblygwyr.

Yn hwyr yn y dydd, mae cynghorwyr Abertawe yn gorfod edrych ar fesurau atal llifogydd er mwyn ceisio achub eu cynlluniau mawr. Ond cwestiwn gogleisiol ond ergydiol y South Wales Evening Post yw, ‘Could flood risk leave city projects high and dry?’ [17.10.2016]

Y gwirionedd yw na fydd codi amddiffynfeydd rhag llifogydd yn ddigon, er mor bwysig, i ddelio â maint y bygythiad. Ledled y byd, rhaid i bobl gall wasgu ar lywodraethau i uno wrth geisio ffrwyno achosion cynhesu byd-eang.

Er enghraifft, rhaid troi’n llwyr o losgi tanwyddau ffosil – glo, olew, nwy – a throi ar frys at ynni glan, adnewyddol – megis twrbeini trydan tanddwr morlyn arfaethedig Bae Abertawe.

A thu hwnt i hynny, rhaid i ni ail-ystyried ein holl berthynas fel dynoliaeth â’r Ddaear a’r holl ffurfiau naturiol sy’n ein cynnal.

Er codi gwên – mewn sefyllfa mor ddifrifol –  gellir nodi bod acwariwm a chanolfan ymchwil gwyddorau acwataidd yn rhan o’r cynlluniau sydd dan fygythiad llifogydd. Ac er gwybodaeth, peidiwn ag anghofio bod Prifysgol Abertawe wedi agor campws newydd ar Ffordd Fabian gyda dim ond twyni tywod rhyngddo a thonnau’r môr, tra bod Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant wrthi’n codi campws ar benrhyn bychan o dir rhwng y dociau a’r Tawe lle mae’r afon yn llifo i ddyfroedd Bae Abertawe. Tyrrau ifori?

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

Mae'r wefan hon yn defnyddio Akismet i leihau sbam. Dysgwch sut mae eich data sylwadau yn cael ei brosesu .