Stori ydy hon am wyddonydd digalon, a chylchgrawn Cymraeg pwysig. Y cefndir yn gyntaf …
Ar 10 Fai, 2000, dywedodd y diweddar Athro Phil Williams A.C. wrth sesiwn o’n

Dr Phil Williams, gwyddonydd ac Aelod Cynulliad Plaid Cymru a rybuddiodd am beryglon cynhesu byd-eang 16 mlynedd yn ol.
Cynulliad Cenedlaethol fod gwyddonwyr, fel yntau, mewn panig – “panig rhesymegol, cyfrifol”, meddai – wrth iddynt ofni peryglon cynhesu byd-eang a newid hinsawdd.
Ar 21 Orffennaf, 2015, rhybuddiodd gwyddonwyr blaenllaw y Royal Society aruchel mewn communiqué arbennig fod cynhesu byd-eang bellach yn golygu bod dynoliaeth yn wynebu sefyllfa eithriadol o ddifrifol:
‘Mae llawer o systemau eisoes dan bwysau o ganlyniad i newid hinsawdd. Byddai codiad o fwy na 2oC uwch lefelau [tymheredd] cyn-ddiwydiannol yn arwain at risg gynyddol o dywydd eithafol a byddai’n gosod mwy o ecosystemau a diwylliannau mewn perygl sylweddol.
‘Ar, neu yn fwy na 4oC byddai’r risgiau’n cynnwys difodiant sylweddol rhywogaethau, ansicrwydd bwyd byd-eang a rhanbarthol, a newidiadau sylfaenol i weithgareddau dynol sydd heddiw’n cael eu cymryd yn ganiataol.’
Cefnogwyd y communiqué gan 24 o gymdeithasau gwyddonol amlycaf gwledydd Prydain, gan gynnwys Cymdeithas Ddysgedig Cymru.
Ac ar Ragfyr 11, 2015 – er mawr syndod – dangosodd arweinwyr 195 gwlad ar ddiwedd Cynhadledd Newid Hinsawdd Paris eu bod hwythau bellach yn derbyn gwir faint y bygythiad sy’n ein hwynebu. Y canlyniad oedd iddynt arwyddo cytundeb gyda’r nôd o geisio cyfyngu cynhesu byd-eang i godiad nid yn unig o ddim mwy na 2oC ond o yn agosach at ond 1.5oC o gymharu â chychwyn y Chwyldro Diwydiannol. Rhaid oedd torri allyriadau CO2 yn llym.
Pawb wedi deall, felly? Pawb yn bwrw ati i droi cefn ar effaith ddinistriol ein ffyrdd arferol o fyw ar y blaned, i lunio polisïau i warchod y systemau naturiol sy’n ein cynnal ni, i gofleidio meddylfryd newydd o barchu’r Ddaear yr ydym yn teithio arni mewn modd mor wyrthiol?
Wel, nage, yn ôl yr Athro Deri Tomos, Prifysgol Bangor, y cyfeirion ni ato uchod fel y ‘gwyddonydd digalon’.
Yr Athro Tomos yw colofnydd gwyddoniaeth difyr a dadlennol cylchgrawn misol Cymraeg pwysig Barn. Yn y swydd honno, mae’n taflu goleuni gwerthfawr ar amrediad eang o bynciau gwyddonol. Ond, yn rhifyn Chwefror eleni o’r cylchgrawn, roedd yr Athro’n teimlo rheidrwydd i egluro’i anhapusrwydd gyda’r diffyg croeso a gaiff wrth geisio esbonio problem fawr yr amgylchedd.
Y mae llawer i ganmol Barn amdano – dadansoddiadau gwleidyddol craff, ymdriniaethau treiddgar â bywyd celfyddydol amrywiol Cymru, colofnau personol bywiog a miniog, gan gynnwys y golofn wyddoniaeth, wrth gwrs. Cylchgrawn gwerthfawr a phwysig iawn ydyw sy’n cynnig gofod i ddeallusion Cymraeg Cymru ymdrin â phynciau mawr, a mân, y dydd.
Ond, o ran gofal am y Ddaear, a phryder am newid hinsawdd, dyma ddywedodd yr Athro Tomos, yn gynnil, ond yn bwrpasol, am y sefyllfa y mae ynddo fel colofnydd gwyddoniaeth Barn …
‘Weithiau teimlaf fy mod yn osgoi ambell bwnc amserol a chreiddiol yn y golofn hon am fy mod yn ofni bod hynny’n ‘dôn gron’.
‘Ffeithiau ydynt sydd wedi’u hen dderbyn gan wyddonwyr – ond sy’n hynod anghyfleus i’r rhai hynny sydd wedi cymryd awenau ein cymdeithas.’
‘Goblygiadau cynhesu byd-eang anthropomorffig yw un,’ meddai, ‘wynebu byd heb wrthfiotigion yw un arall.’
Byd heb wrthfiotigion, gafodd sylw’r Athro yn gyntaf cyn iddo symud ymlaen at sylwadau byr ar newid hinsawdd, gan ddechrau fel hyn …
‘A newid hinsawdd? Teimlaf na fydd trwch y boblogaeth yn cymryd hyn o ddifrif hyd nes y byddant yn gweld eu biliau yswiriant yn cynyddu o’r herwydd.’
Dangosodd Deri Tomos fod y biliau hynny’n rhwym o godi wrth i wyddonwyr o Brifysgol Rhydychen, er enghraifft, ddangos ‘fod stormydd, megis Desmond, Eva a Frank a adawodd eu hôl ar ogledd Lloegr – a Thal-y-bont, Bangor – yn 40% yn fwy cyffredin nag oeddent yn y gorffennol.’
Diystyrru’r ofnau mae ‘trwch y boblogaeth’, medd yr Athro. Ond, ysywaeth, nid y trwch yn unig. Er enghraifft, welon ni ddim ymdriniaeth esboniadol o’r paratoadau yn y misoedd yn arwain at Gynhadledd Newid Hinsawdd Paris yn Barn, ac ni fu ymateb yn y cylchgrawn wedi hynny i’r cytundeb pellgyrhaeddol a gaed dan bwysau’r pryderon.
Gyda pharch, a chyfeillgarwch, credwn y dylai Barn wneud yn well na hyn. Credwn mai cyfrifoldeb cylchgrawn o’i statws yw rhoi arweiniad clir ar fater cynhesu byd-eang sy’n fygythiad mor frawychus ym marn lliaws arbenigwyr gwyddonol mwya’ sylweddol y byd.
Beth amdani? Oes gobaith y caiff yr Athro Deri Tomos groeso a diolch yn Barn i egluro hynt a helynt dynoliaeth a’r Ddaear o hyn ymlaen? Dyna fyddai’n bolisi cynorthwyol i bawb ohonom – sef sicrhau cyfle i wyddonwyr gwybodus a chydwybodol ddangos darllenwyr sut y dylwn ymateb i’r trafferthion mawr sydd o’n blaen …
… Hynny heb iddynt deimlo mai canu ‘tôn gron’ fyddant i gynulleidfa lugoer y ‘rhai hynny sydd wedi cymryd awenau ein cymdeithas’, fel y cyfeiria’r Athro Deri Tomos atynt.
- Defnyddiwn y cyfle hwn i dynnu sylw darllenwyr at y ffaith bod gwefan Y Papur Gwyrdd yn falch i gyhoeddi erthyglau’r Athro Gareth Wyn Jones ar bwnc goblygiadau cynhesu byd-eang a gyhoeddwyd gyntaf yng nghylchgrawn newyddion wythnosol Golwg. A’n bod ni hefyd wedi croesawu sylwadau cylchgrawn Byd Natur ar bwnc newid hinsawdd ac adroddiadau Duncan Brown ym mhapur wythnosol Y Cymro, cyn ac ar ôl Cytundeb Newid Hinsawdd Paris 2015.