Tag Archives: Llanelli

Heidio ar ein beiciau i’r Eisteddfod

RHYW dair wythnos yn ol, fe gafodd y ddau ohonom ein gwlychu’n sylweddol iawn, iawn, wrth feicio o Barc Gwledig Bryngarw ger Pen-y-bont ar Ogwr i Flaengarw. Un dydd gwlyb oedd hwnnw ynghanol yr holl heulwen, a dyna ni wedi dewis bod ar ein beiciau, gyda chotiau glaw – a diolch am hynny o ddoethineb – ond jeans cyffredin. Serch hynny, roedden ni wedi mwynhau’r daith 16 milltir (yn gyfan), gan stopio sawl gwaith ar y llwybr tawel i gael sgyrsiau difyr gydag nifer o gerddwyr lleol cyn i’r dilyw gyrraedd o ddifrif. Ac wedi tipyn o holi, daethon ni o hyd gaffi prysur y Diner ym Mhont-y-cymer i gael cinio o sglodion adfywiol i godi stem o’n coesau.

Beicio Eisteddfod

Beicio’n braf ar lwybr yr arfordir rhwng Bynea a Maes Eisteddfod Shir Gar yn Llanelli

Gwnaethon ni’n well o lawer o ran y tywydd wythnos diwethaf wrth feicio o’r maes parcio cyfleus yn Bynea ar hyd Lwybr yr Arfordir i Faes Eisteddfod Shir Gar yn Llanelli. Roedd hi’n ddiwrnod clasurol o heulwen braf ac awelon cynnes, a’r golygfeydd o aber afon Llwchwr, Penrhyn Gwyr, a’r mor yn wych wrth i ni deithio’n hamddenol, a sych.

A dyna ysbrydoliaeth oedd cyrraedd i’r safle a gweld bod cymaint o feiciau eisteddfol eisoes yno nes ei bod hi’n straffagl i ddod o hyd i lefydd ‘parcio’. Pan holais, yn ysgafn, a oedd gostyngiad i bobl oedd yn cyrraedd i’r steddfod ar gefn beic, cafwyd ymateb hwyliog a chefnogol gan gwsmer arall a swyddog tocynnau – ond, am y tro, rhaid oedd talu’r £36 am ddydd ar y Maes (x 2 bensiynwr). Ond, onid yw hyn yn syniad i’r dyfodol er mwyn hybu beicio, ffrindiau?

Joio'r straffagl i ddod o hyd i le parcio wrth gyrraedd yr eisteddfod.

Joio’r straffagl i ddod o hyd i le parcio wrth gyrraedd yr eisteddfod.

Ac yn wyneb poblogrwydd cynyddol beicio, da oedd clywed trafodaeth ar y pwnc ar Radio Cymru, gydag un o swyddogion mudiad Sustrans a chynrychiolydd o Eisteddfod Meifod 2015, lle awgrymwyd y dylid trefnu parcio diogel ar gyfer beiciau ar y Maes yn lle ar y tu allan. Dyna dda ein bod ni’n teithio i’r cyfeiriad iawn yn hyn o beth, o leiaf – yn yr haul a’r glaw!

Gweinier y Cledd – a phlanner y coed!

Mwynhau dydd braf yn Llanelli ar Faes glanmor hyfryd Eisteddfod Shir Gar. Gwerthfawrogi oedfa gofiadwy yn y pafiliwn ar thema ‘Efengyl Tangnefedd’ – hynod gyfoes yn wyneb yr erchylltra presennol yn Gaza. Diolch i bawb, yn enwedig Beti-Wyn James am ei phregeth gref. A diolch, hefyd, am y cyflwyniad / myfyrdod ar thema ‘Gweinier y Cledd’ ym Mhabell yr Eglwysi lle cafwyd caneuon a cherddi eto’n galw am ffyrdd di-drais o ddatrys problemau’r byd. Cael sgwrs ddifyr gyda Rory Francis yn stondin mudiad Coed Cadw / Woodland Trust, mudiad y mae Charlotte a minnau’n falch i fod yn aelodau ohono. Gwych clywed am eu gobaith i blannu 90,000 o goed brodorol ger cwrs rasio ceffylau Ffos Las. Cofiwch, bawb, i bleidleisio am Goeden Gymreig y Flwyddyn trwy http://www.woodlandtrust.org.uk. A hyfryd cael nifer o ffrindiau’n holi am Y Papur Gwyrdd! Dydd prysur a phleserus.

Dewiswch eich Coeden Gymreig y Flwyddyn trwy Goed Cadw. Dyma un ohonynt - Derwen Gam ger afon Cleddau. WTPL / Steven Kind

Dewiswch eich Coeden Gymreig y Flwyddyn trwy Goed Cadw. Dyma un ohonynt – Derwen Gam ger afon Cleddau. WTPL / Steven Kind