Digon – am y tro – am ffolineb a pheryglon Brexit (y gobeithiwn na ddaw i fod) a Donald Trump (y gobeithiwn y ceir ffrwyn ar ei falais a’i ddifrod).
Yn lle’r bygythiadau hynny, rhoddwn ein pwyslais y tro hwn ar sut mae grwpiau o bobl gyffredin, gall, sy’n byw miloedd ar filoedd o’i gilydd, yn gweithio’n ymarferol i geisio ffrwyno bygythiad cynhesu byd-eang a newid hinsawdd.
Ond cyn symud ymlaen, mae angen nodi, er mor anhygoel ydyw, bod ffeithiau cynhesu byd-eang yn cael eu gwadu’n llwyr gan fudiadau Ceidwadol asgell-dde pwerus yn yr Unol Daleithiau a’r Deyrnas Gyfunol – gan Lywodraeth yr Arlywydd Donald Trump (er ei fod dan warchae cyfreithiol cynyddol) a’r Prif Weinidog (lleiafrifol ac efallai byr-hoedlog) Theresa May.

Mae gwenyn yn ogystal a phobl yn cael croeso gan welyau o flodau cynhenid yng Nghapel y Nant, Clydach, Abertawe. Nawr mae’r eglwys ar fin troi at drydan di-garbon a nwy carbon niwtral fel rhan o ymgyrch Newid Mawr Cymorth Cristnogol.
Mae’r ddau ohonyn nhw’n hollol hapus i gadarnhau hynny’n gyhoeddus: mae Trump wedi penodi pennaeth newydd ar Asiantaeth Amddiffyn yr Amgylchedd yr Amerig (sef yr EPA) sy’n gwadu newid hinsawdd, ac sy’n ystyried bod elw ariannol yn bwysicach na gwarchod byd natur, ac mae Theresa May wedi penodi Michael Gove yn Weinidog Hinsawdd yn ei Llywodraeth leiafrifol newydd hi er ei fod yntau, hefyd, yn gwadu gwyddoniaeth cynhesu byd-eang.
Sut yn y byd bennodd y ddwy wlad hyn – yr Unol Daleithiau a’r Deyrnas Gyfunol – gyda llywodraethau mor hanesyddol o anghyfrifol? Ta waith …
Gweithgarwch sy’n cyplu Cymru gyda Kenya sydd gennym dan sylw yn y post hwn. Ac maen nhw’n cael eu cysylltu gan ymgyrch y Newid Mawr a ysgogwyd gan Gymorth Cristnogol.
Yma yng Nghymru, mae’r eglwys mae Charlotte a minnau’n aelodau ohono – arhoswch gyda ni, ffrindiau anffyddiol! – sef Capel y Nant, Clydach, Abertawe, ar fin newid ei chyflenwadau trydan a nwy o gwmnïau mawr, traddodiadol, llosgi carbon, i gwmni trydan di-garbon, nwy carbon-niwtral (rhannol organig) ac adnewyddol Good Energy.
Cymerwyd penderfyniad Capel y Nant i droi at Good Energy gan Gwrdd Eglwys heb yr un bleidlais yn erbyn. Dyma oedd ein hymateb i alwad ymgyrch y Newid Mawr i leihau ar ein hallyriadau carbon deuocsid ninnau i’r atmosffer.
Ledled y Deyrnas Gyfunol mae eglwysi eraill yn gweithredu yn yr un modd. A ledled y byd, mae mudiadau eraill o bobl werinol hefyd yn cydio yn yr awenau dan faner Newid Mawr Cymorth Cristnogol.
Felly, dyma ni’n troi o benderfyniad un grŵp o bobl yng Nghymru at griw arall o bobl ymhell i ffwrdd yn Kenya er mwyn gweld beth sy’n digwydd yno i warchod ein planed wrth i Etholiad Cyffredinol agosáu.
Fel gyda chymaint o wledydd sy’n cael eu ‘datblygu’, mae temtasiynau mawr i Kenya droi at losgi carbon fel ffynhonnell ynni. Mae Llywodraeth bresennol y wlad eisiau codi pwerdy glo newydd ar ynys arfordirol Lamu – sy’n un o Safleoedd Etifeddiaeth Byd-eang UNESCO – gan fewnforio glo o Dde’r Affrig.

Yn Kenya – aelodau’r Clean Energy Cycling Caravan yn teithio’r wlad yn ystod ymgyrch Etholiad Cyffredinol i ddadlau o blaid ynni adnewyddol, glan, o’r haul a’r gwynt, yn lle dechrau llosgi glo brwnt.
Llun: The Ecologist
Ond mae ymgyrchwyr amgylcheddol Kenya yn dadlau’n gryf y byddai hynny’n achosi llygredd ar Ynys Lamu, yn ychwanegu at allyriadau carbon i’r atmosffer gan chwalu gobeithion Cytundeb Hinsawdd Paris, ac yn golygu costau enbyd.
Yn wyneb y bygythiad hwnnw, mae aelodau a chefnogwyr grŵp y Clean Energy Cycling Caravan yn teithio’r wlad gyda’r neges mai’r ffordd gyflymaf i bobl Kenya gael ynni newydd yw trwy harneisio adnoddau naturiol y gwynt a’r haul y mae cymaint ohono gyda nhw eisoes. Byddai hefyd yn gyflymach ac yn rhatach o lawer, meddant, i godi paneli haul a thyrbinau gwynt na chreu strwythur enfawr tanwydd ffosil.
Mae’r Beicwyr yn annog etholwyr i gefnogi dyfodol o ynni glan i Kenya wrth bleidleisio yn eu Hetholiad Cyffredinol ar Awst 8. Eu dadl yw y gellir sicr manteision datblygiad heb achosi’r difrod planedol a achoswyd dros gyfnod o 200 mlynedd gan wledydd ‘datblygedig’ hemisffer y gogledd. Mae’n bosibl i Kenya lamu ymlaen heb losgi carbon.
Na, dyw troi Capel y Nant, Cymru, yn ‘wyrdd’ ddim ar yr un raddfa â’r ymgyrch yn Kenya. Ond pobl gyffredin sydd wrthi yn y ddwy wlad. Ac mae arbenigwyr yn pwysleisio bod hynny’n ganolog o bwysig fel un o’r ffactorau hanfodol os oes gobaith o ostwng allyriadau carbon a ffrwyno cynhesu byd-eang.