Wrth i’r Arlywydd Donald Trump ddatgan ei fwriad gwallgof i dynnu allan o Gytundeb Newid Hinsawdd Paris, mae Charlotte a minnau’n digwydd bod yn ymweld a’i theulu yn America ac yn profi’n uniongyrchol beth yw’r ymateb yn y wlad.
Yn benodol, rydym yn ninas Columbia, prif ddinas De Carolina. Dyma un o daleithiau mwyaf ceidwadol yr Unol Daleithiau. Dyma gartref yr aelod Cyngres Joe Wilson weiddodd mor haerllug o ddigywilydd ar yr Arlywydd Barack Obama, ynghanol araith gan yr Arlywydd ifanc i Senedd y wlad, “You lie, Mr President!”
Ond er cynrychiolaeth ceidwadol felly yn y dalaith, mae dinas Columbia ei hun ymysg 76 o ddinasoedd ledled yr Unol Daleithiau sydd bellach wedi cyhoeddi eu bwriad i anwybyddu ffolineb anghyfrifol yr Arlywydd Trump.
Gyda nifer cynyddol o daleithiau, 80 o brifysgolion, a 100 o gwmniau, mae Maer Columbia wedi datgan y bydd y ddinas yn cefnogi’r Cytundeb Hinsawdd. Y bwriad – beth bynnag yw barn Trump, gyda chefnogaeth Theresa May a’r Ceidwadwyr Prydeinig – yw gweithredu polisiau ymarferol fel rhan o’r frwydr ryngwladol i ffrwyno allyriadau carbon deuocsid a chynhesu byd-eang.
Nid yn unig ar bwnc bygythiad newid hinsawdd, mae pobl a grwpiau sylweddol iawn ledled y wlad hon yn dechrau ceisio atal polisiau’r Arlywydd Trump. Go brin bod cyfnod mor argyfyngus wedi bodoli o’r blaen, ac mae llawer iawn yn y fantol.
Gobeithio bod ein gwleidyddion ni, nol yng Nghymru, a ledled gwledydd y DG, yn deall yn gadarn bod newid hinsawdd yn fygythiad enfawr sy’n gyd-destun i bopeth a wnawn. Gobeithio hefyd eu bod yn teimlo’r rheidrwydd i atal twf yr asgell dde eithafol wleidyddol sy’n cael ei ariannu gan gorfforaethau ac unigolion anhygoel o gyfoethog.
Mae ein systemau naturiol planedol dan fygythiad, ac mae ein democratiaeth dan fygythiad yn ogystal. Ac fel yn yr Unol Daleithiau ar hyn o bryd, bydd angen pobl a mudiadau a sefydliadau yn ein gwledydd ninnau i ymwroli i atal polisiau mor ddifrifol o niweidiol.