Category Archives: Uncategorized

Rali Fawr o flaen ein Senedd ar Ddiwrnod Hinsawdd Cymru

Mae gwefan ‘Y Papur Gwyrdd’ yn falch i hyrwyddo Rali Diwrnod Hinsawdd Cymru sy’n cael ei chynnal yng Nghaerdydd ar ddydd Sadwrn, Tachwedd 28, gan amrywiaeth o asiantaethau, mudiadau ac elusennau amgylcheddol.

Ymunwn yn ein cannoedd yn y Rali Fawr hon i ddanfon neges glir o Gymru i’r Byd ein bod yn disgwyl llywodraethau’r gwledydd fydd yn cwrdd yng Nghynhadledd Newid Hinsawdd Paris ( Tach 30 – Rhagfyr 11) i ddod i gytundeb cadarn ar doriadau llym ar allyriadau nwyon ty gwydr.

Dyma esboniad y trefnwyr am yr hyn fydd yn digwydd ar Ddiwrnod Hinsawdd Cymru, sef clymblaid Atal Anrhefn Hinsawdd Cymru:

Mae pobl Cymru yn poeni am newid hinsawdd. Dewch i ni sicrhau bod llais Cymru’n cael ei glywed wrth i ni ymuno â’r symudiad byd-eang ar Ddydd Sadwrn, Tachwedd 28, i alw am ddyfodol gwell.
Cyn trafodaethau newid hinsawdd y Cenhedloedd Unedig ym Mharis (COP21 – yr 21ain Gynhadledd y Partïon), byddwn yn codi llais ar ran pobl sy’n cael eu heffeithio gan dymheredd y byd yn codi a byddwn yn mynnu bod arweinwyr byd yn cytuno ar fargen uchelgeisiol.
Mae ymdeithiau a phrotestiadau yn digwydd ar draws y byd ar y penwythnos hwn, ac rydym ni am sicrhau bod Cymru yn rhan o’r symudiad.
Felly ymunwch â ni wrth i ni weithredu!
Pryd? Ble?
Dydd Sadwrn,Tachwedd 28, 2015, o flaen Senedd Cymru, Caerdydd: 2 – 3 o’r gloch.
Croeso i gyfarfod wrth risiau’r Senedd yn y Bae am 2.00pm ar gyfer y rali. Bydd siaradwyr, diddanwyr ac awyrgylch parti o flaen y Senedd wrth i ni ymgynull i ddangos ein cariad at Gymru a’r blaned!
Hefyd, os hoffech, gellwch ymuno gyda chriw o feicwyr fydd yn cwrdd am 1.30 yn Sgwar Callahaghan er mwyn reidio ar eu beiciau lawr Stryd Bute at Senedd. Bydd Sustrans Cymru yn cydlynnu’r daith feics. A bydd croeso i bobl gerdded ar hyd y daith hon, hefyd, os nad ydyn nhw am feicio.

Pam?
Mae gan Gymru ddyletswydd i fod yn gyfrifol yn fyd-eang, a taclo newid hinsawdd yw’r her fyd-eang fwyaf un. Mae rhaid i Gymru sefyll ysgwydd yn ysgwydd â gweddill y byd a mynnu bod arweinwyr byd yn cytuno ar fargen deg ar hinsawdd.

Pwy?
Mae’r daith feics yn cael ei threfnu gan Sustrans Cymru –http://www.sustrans.org.uk/ @SustransCymru
Aelodau Atal Anhrefn Hinsawdd Cymru yw:
Ffederasiwn Cenedlaethol Sefydliad y Merched yng Nghymru, Undeb y Myfyrwyr, Unison, Cymorth Cristnogol Cymru, CAFOD, Oxfam Cymru, Tearfund, Coed Cadw – The Woodland Trust, Cyfeillion y Ddaear Cymru, RSPB Cymru, Sustrans Cymru, WWF Cymru, Ymddiriedolaeth Natur Cymru, Canolfan y Dechnoleg Amgen, Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru, Maint Cymru.
Facebook – Stop Climate Chaos Cymru

Oriel

Ar drothwy Cynhadledd Paris – angen sylw ein gwleidyddion

This gallery contains 1 photos.

MAE cynadleddau blynyddol hydrefol y pleidiau gwleidyddol ar ben. A ninnau ar drothwy Cynhadledd Newid Hinsawdd Paris – sy’n dechrau ar Dachwedd 30 – clywsom fawr ddim am eu polisiau ar Gynhesu Byd-eang. Bai’r Wasg? Ynteu’r pleidiau? A bod yn … Parhau i ddarllen

Ein gwleidyddion – anghyfrifol o ddistaw yn wyneb y stormydd?

 

Llongyfarchiadau i Blaid Genedlaethol yr Alban, yr SNP. Mewn arolwg brys gan Y Papur Gwyrdd heddiw, nhw yw’r unig un o brif bleidiau gwleidyddol gwledydd Prydain oedd yn cyfeirio ar brif dudalen eu gwefannau at Newid Hinsawdd.

Ac er mor dyngedfennol o bwysig ydyw, doedd yr un o’r pleidiau’n cyfeirio’n benodol at Uwch Gynhadledd y Cenhedloedd Unedig sydd i’w chynnal ym Mharis rhwng Tachwedd 30 a Rhagfyr 11.

Nod y gynhadledd honno, ar gyngor gwyddonol taer, yw sicrhau cytundeb cadarn rhyngwladol i dorri’n sylweddol ar losgi carbon er mwyn ffrwyno ychydig ar eithafion Newid Hinsawdd.

Mae diffyg parodrwydd y gwleidyddion i dynnu sylw’r cyhoedd at fygythiad Cynhesu Byd-eang – o farnu o wefannau swyddogol eu pleidiau – yn gwbl syfrdanol. Mae’n adlewyrchu diffyg consyrn enbyd ar eu rhan, yn gwbl anghyfrifol yn wir.

Rhag ofn bod yr apparatchiks aml-bleidiol eisiau amau’r honiadau uchod, manylwn ychydig ar rai pethau gan ambell i blaid y gellir dweud eu bod yn ymwneud â ‘chynaliadwyedd’ (sydd, felly, yn wleidyddol sâff i son amdano):

  • Canmolwn yr SNP am sôn am Climate Change ac am drafod Green Scotland. Ond, yn llai herfeiddiol …
  • Roedd Plaid Cymru’n dweud eu bod yn pwyso am foratoriwm ar ffracio yng Nghymru.
  • Roedd Llafur Cymru yn dathlu arbed allyriadau CO2 trwy gynnydd mewn ail-gylchu ac yn croesawu cwmni ynni adnewyddol Swedaidd i Ynys Môn.
  • Whare teg i’r Labour Party UK, roedd eu gwefan mewn melt-down llwyr gyda phopeth wedi diflannu heblaw am gyhoeddiadau am Jeremy Corbyn a’i dîm newydd – fel tai’r Blairite Llafur Newydd olaf wedi diffodd y goleuadau wrth adael y swyddfa!
  • Roedd y Green Party of England and Wales wedi colli’r plot, ar goll yn llwyr mewn cors o bolisïau cymdeithasol ac economaidd er mwyn troedio’n ofalus ar y Ddaear.
  • Does dim pwynt cyfeirio at unrhyw blaid arall: beth bynnag sy’n llechu yn eu polisïau yn rhywle, doedden nhw ddim ag unrhyw awydd i dynnu sylw ato. Ac, wrth gwrs, mae’r ‘Greenest Government ever’, chwedl David Cameron, wedi hen droi’n ddu bitch carbonaidd.

Gwrandewch ar ddau o’n harweinwyr doeth yn rhybuddio ynghylch difrifoldeb bygythiad Newid Hinsawdd – gan wrthgyferbynnu hynny gyda thawedogrwydd ein gwleidyddion ar drothwy cynhadledd mor bwysig:

Kofi Annan, cyn Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig: ‘Mae’r byd yn cyrraedd pwynt naid y tu hwnt i’r hyn efallai na fydd modd troi newid hinsawdd yn ôl. Os digwydd hyn, byddwn wedi peryglu hawl ein cenedlaethau presennol a dyfodol i blaned iach a chynaliadwy – bydd y cyfan o ddynoliaeth ar ei cholled.’ (Guardian, Mai 3, 2015)

Yr Archesgob Rowan Williams (y cafodd tyrfa fawr ohonom ein goleuo cymaint ganddo mewn cyfarfod yn Ysgol Bryn Tawe, Abertawe, ddoe (Medi 13): ‘Ymhell o fod yn fygythiad ansicr rhywbryd yn y dyfodol, mae byd sy’n cynhesu yn realiti presennol go iawn gyda thymereddau byd-eang eisoes wedi codi o O.8% ers cyn y chwyldro diwydiannol. Mae ymchwyddiadau storm cryfach, glawogydd trymach, ac adnoddau prinnach yn rhan o fywyd dyddiol i bobloedd ddi-rif ledled y byd … Rhaid i ni barhau i wneud y galwadau cryfach posibl i sicrhau bod cyfiawnder hinsawdd yn gwestiwn canolog …’ (Cymorth Cristnogol, Taken by Storm, Mawrth 2014)

Gwleidyddion aml-bleidiol! – wnewch chi wrando ac arwain? – fel yr Albanwyr.

Etholiad San Steffan: Anwybyddu’r cwestiynau mawr, gan gynnwys Pobl a Phlaned?

Yn ei golofn yn yr Observer, mae’r newyddiadurwr gwleidyddol Andrew Rawnsley yn gresynu bod yr ymgyrch etholiadol ar gyfer Senedd San Steffan wedi’i gyfyngu cymaint gan ystrywiau tactegol y ‘spin doctors’. (Voters are being asked to go to the polls wearing blindfolds, Sul, Mai 3).

Barn Rawnsley yw bod ymgyrch 2015 wedi bod yn un nodedig wrth i’r pleidiau (traddodiadol, Sefydliadol) osgoi trafod y cwestiynau mawr.

Er enghraifft, meddai, cyfyngwyd pwnc lle Prydain yn y byd i ddim mwy na dadl ai pedair ynteu tair llong danfor sy’n hanfodol i gynnal system niwclear Trident. Does braidd dim son wedi bod am yr amgylchedd.

Pawb, wrth gwrs, yn galw am swyddi o ansawdd uchel, heb esbonio o ble y don nhw. Ceidwadwyr a Llafur yn gwneud eu gorau i osgoi manylu ar gwestiwn Ewrop. Ac yn methu’n lan ag ymateb yn gall i’r pwysau o’r Alban.

“Mae’r cwestiynau mwya’ sylfaenol yn aros heb eu hateb,” medd Rawnsley. “Rydym mewn niwl o ansicrwydd ynglŷn â pha fath o wlad y byddwn yn byw ynddi.”

Mae hynny’n sicr yn wir ynglŷn yr hyn a gyfeiria ato’n syml fel ‘yr amgylchedd’ – sef pwnc enfawr dyfodol Dynoliaeth a’r Ddaear. Roedden ni’n falch ar y wefan hon i longyfarch y pleidiau Ceidwadol, Llafur a Rhyddfrydwyr Democrataidd ar eu datganiad ar y cyd yn pwysleisio difrifoldeb y bygythiad newid hinsawdd ar ddechrau’r ymgyrch etholiadol.A chawsom ddatganiad gan Blaid Cymru i’r un perwyl.

Gwnaethom hynny gan ddisgwyl y byddai hyn yn thema o bwys yn ystod yr ymgyrch etholiadol. Gallai hynny wedi uno pawb y tu ôl i’r math o wasgu bydd ei angen yng Nghynhadledd Hinsawdd Paris ym mis Rhagfyr. Dyna’r gynhadledd sy’n cynnig y cyfle olaf, ym marn llawer, i sicrhau cytundeb cadarn i dorri ar allyriadau carbon fel bod y codiad yn nhymheredd y Ddaear yn aros dan 20C.

Ond mae cryn siom wedi bod nad yw pwysigrwydd cynhadledd Paris wedi derbyn dim sylw yn ystod y ffyrnigrwydd geiriol ailadroddus. A dweud y gwir, o ran yr etholiad fyddech chi ddim yn credu bod problem gyda ni o gwbl.

Diolch, felly, i’r Pab ac Eglwys Rufain am wthio’u rhybuddion am y niwed difrifol a wnawn i’n planed i benawdau’r newyddion am ddiwrnod neu ddau. A diolch, hefyd, i bapurau newydd y Guardian a’r Observer am yr ymgyrch y maent hwythau’n arwain i’n deffro o’n trwmgwsg.

Fel y gwyddom, er eu tawelwch tactegol, mae maniffestos prif bleidiau Ynys Prydain yn cynnwys datganiadau ar amrywiol faterion amgylcheddol. Da o beth yw bod gwefan ddefnyddiol Carbon Brief wedi gwneud gwaith ymchwil trylwyr i egluro’r polisïau hyn.

Felly, os hoffech gymharu ble mae’r gwahanol bleidiau’n sefyll ar Gynhesu Byd-eang, Newid Hinsawdd, ffracio ac ati, ewch at y linc ganlynol: http://www.carbonbrief.org/blog/2015/04/election-2015-what-the-manifestos-say-on-climate-and-energy/?utm_source=Weekly+Carbon+Briefing&utm_campaign=70b817606f-Carbon_Brief_Weekly_230415&utm_medium=email&utm_term=0_3ff5ea836a-70b817606f-303444901

Croesawu ‘Gwyddoniaeth – a mwy’

MAE gwefan Y Papur Gwyrdd yn falch iawn bod yr Athro Emeritws Gareth Wyn Jones o Brifysgol Bangor wedi cytuno i ni gyhoeddi’r erthyglau am Newid Hinsawdd a ymddangosodd ganddo yng nghylchgrawn newyddion Cymraeg Golwg yn ystod 2013.

Yr Athro Gareth Wyn Jones

Yr Athro Gareth Wyn Jones

Rydym yn siwr y bydd cael sylwadau awdurdodol gwyddonydd o statws yr Athro ar argyfwng cynyddol Dynoliaeth a Daear o gymorth mawr i bawb sy’n dymuno dysgu o ddifrif am y pwnc.

Rydym yn dechrau cyhoeddi’r erthyglau fel adnodd hawdd ei gyrraedd ar dudalen newydd, sef GWYDDONIAETH – A MWY.

Rydym hefyd yn lansio tudalen newydd arall dan y teitl LLYFRGELL. Nod y tudalen hwn yn rhoi cip i’r amrywiaeth o ffynonellau agorodd ein llygaid ninnau i’r niwed a achosir i systemau naturiol y Ddaear o ganlyniad i’n ffordd o fyw bresennol.

Wrth edrych at gynhadledd Newid Hinsawdd holl-bwysig y Cenhedloedd Unedig a gynhelir ym Mharis ym mis Rhagfyr, gobeithiwn y bydd datblygiad pellach gwefan Gymraeg Y Papur Gwyrdd yn gyfraniad i’r ymgyrch i barchu a gwarchod y Ddaear sy’n ein cynnal.

Blwyddyn Newydd Hapus – o ymgyrchu

AR derfyn 2014, dymunwn Flwyddyn Newydd Hapus a Llwyddiannus yn 2015 i bawb yn y mudiad amgylcheddol ledled y Ddaear.

Fe welodd 2014 y frwydr yn dwysau rhwng y corfforaethau a llywodraethau pwerus sy’n mynnu llosgi carbon dinistriol i’r blaned, a’r mudiadau call sy’n gosod lles y Ddaear a dynoliaeth yn gyntaf. Profodd cynhadledd hinsawdd rhag-baratoadol y Cenhedloedd Unedig yn Lima yn siom arall. Llwyddodd y cwmniau mawr carbon i amddiffyn eu buddiannau ariannol yn ystod y trafodaethau yno – ar draul gobeithion y byddem wedi dechrau creu system rhyngwladol i warchod cydbwysedd naturiol y blaned sy’n ein cynnal.

Bydd 2015 yn flwyddyn o bwys enfawr yn yr ymgyrch i leihau’r niwed a wnawn fel dynoliaeth i’r Ddaear. Rhagfyr nesaf, cynhelir cynhadledd hinsawdd o’r pwys mwyaf ym Mharis. Nod mudiad y Ddaear yw cael y gwledydd i gytuno ar doriadau llym ar allyriadau carbon er mwyn ceisio ffrwyno cynhesu byd-eang a newid hinsawdd. Ofn gwyddonwyr yw os na cheir cytundeb clir a chryf fel yna ym Mharis, byddwn wedi colli’r cyfle olaf i gadw’r codiad yn nymheredd y Ddaear o dan 2C gradd.

I’r mudiad amgylcheddol, felly, mae 2015 yn galw am ymgyrch fel nas gwelwyd erioed o’r blaen. Pob dymuniad da i bawb ohonom wrth wneud ein gorau dros fudiadau fel Cyfeillion y Ddaear.

O ran y wefan Gymraeg hon, ein bwriad yw ehangu eto yn gynnar yn y flwyddyn newydd. Byddwn yn creu adran newydd gydag erthyglau pwerus gan wyddonydd blaenllaw fydd yn esbonio pam mae’n holl-bwysig i ddynoliaeth fyw’n ysgafnach ar y Ddaear.

Felly, ie, Blwyddyn Newydd Hapus – o Ymgyrchu!

Magu hyder i ffrwyno newid hinsawdd

WEDI cytundeb hanesyddol Tachwedd 12 rhwng yr Arlywyddion Barack Obama a  Xi Jinping i’r Unol Daleithiau a Tsieina leihau eu hallyriadau C02, mae’r Arlywydd Obama yn magu hyder i weithredu i ffrwyno newid hinsawdd yn ystod ei ddwy flynedd olaf fel Arlywydd.

Dyma ddywedwyd ar flog gan ddau o swyddogion y Ty Gwyn, John Podesta a John Holdren: “Mae’r Arlywydd Obama yn credu bod gennym ymrwymiad moesol i weithredu ar newid hinsawdd, ac nad ydym yn gallu gadael planed i’n plant fydd y tu hwnt i’w gallu i’w hadfer.”

Yr hyn sy’n wynebu Obama yw brwydr enfawr gyda’r corfforaethau ynni carbon byd-eang sydd am losgi carbon, deued a ddelo, a’r Blaid Weriniaethol sy’n eu cynrychioli ac sydd bellach yn rheoli Senedd a Chyngress America.

Ond bydd ganddo gefnogaeth ledled y byd gan fudiadau cynyddol boblogaidd sy’n gweld bod dyfodol dynoliaeth ar y Ddaear yn dibynnu ar gyrraedd cydbwysedd newydd rhyngom a systemau naturiol y blaned. Dysgu ar frys i droedio’n ysgafnach yn lle damsang yn ddifeddwl er elw a hawddfyd tymor byr.

Bydd y ffaith bod Tsieina nawr yn cytuno a hynny yn arf gref iawn o blaid ymgyrch newydd Barack Obama a phawb sydd, fel yntau, am warchod ein Daear er cenedlaethau’r dyfodol.

Tyrfaoedd yn rhybuddio am newid hinsawdd

I BAWB sy’n caru’r Ddaear, roedd rheswm i ddathlu ar Ddydd Sul, Medi 21. Ar y dydd hwnnw, gwelwyd cannoedd o filoedd o bobl yn gorymdeithio mewn dros 2,000 o ddinasoedd ledled y byd i bwyso am bolisiau brys i ffrwyno cynhesu byd-eang.

Yn Efrog Newydd, gwelwyd yr orymdaith fwyaf erioed o blaid parch i’r Ddaear, gyda 400,000 yn gorymdeithio. Roedd pennaeth y Cenhedloedd Unedig, Ban Ki-moon yn bresennol i’w cefnogi.
Bu 40,000 yn cerdded trwy ganol Llundain, a 30,000 yn ymgynnull ynghanol Melbourne – a miloedd mewn dinasoedd a threfi eraill.

Roedd ‘Gorymdeithiau Hinsawdd y Bobl’ wedi cael eu trefnu i gario neges glir i’r cyfarfod o benaethiaid gwledydd sydd i’w chynnal yn Efrog Newydd yr wythnos hon i drafod cynhesu byd-eang.

Gobaith y Genhedloedd Unedig yw y bydd y cyfarfod hwn yn paratoi’r ffordd at sicrhau cytundeb eang a chryf yn y gynhadledd fawr nesaf sydd i’w chynnal ar y pwnc ym Mharis yn 2015. Y consensws gwyddonol yw bod toriadau llym mewn allyriadau carbon deuocsid i’r awyr yn hanfodol er mwyn arafu ac atal y cynhesu sy’n dal i ddigwydd.

Un o gefnogwyr blaenllaw y dydd hwn o weithredu oedd yr Archesgob Desmond Tutu. Gan rybuddio pa mor ddifrifol mae’r cynhesu, mae Tutu wedi galw am ymgyrch ‘boycott’ yn erbyn corfforaethau glo, olew a nwy – fel a gaed yn erbyn De Affrica i ddod ag apartheid i ben.

Meddai yn y Guardian: ‘Rhaid i bobl o gydwybod dorri eu cysylltiadau gyda chorfforaethau sy’n ariannu anghyfiawnder newid hinsawdd. Gallwn, er enghraifft, foicotio digwyddiadau, timau chwaraeon a rhaglenni ar y cyfryngau sy’n cael eu noddi gan gwmniau ynni-ffosil. Gallwn fynnu bod hysbysebion y cwmniau ynni yn cario rhybuddion iechyd. Gallwn annog mwy o’n prifysgolion a’n cynghorau a sefydliadau diwylliannol i dorri eu cysyltiadau gyda’r diwydiant ynni-ffosil. Gallwn drefnu dyddiau di-gar ac adeiladu ymwybyddiaeth gymdeithasol ehangach. Gallwn ofyn i’n cymunedau crefyddol lefaru’n groyw.’

Bydd yr Archesgob yn falch o ymateb Cymorth Cristnogol. Maen nhw wedi trefnu penwythnos o weithredu dros Gyfiawnder Hinsawdd yng ngwledydd Prydain ar Hydref 18 ac 19.

Eu galwad yw i gapeli ac eglwysi fynd ati i drefnu amrywiaeth o ddigwyddiadau i dynnu sylw at gynhesu byd-eang ar y penwythnos hwnnw, gan sicrhau bod gwleidyddion yn cael clywed am eu pryder. Yr hyn sydd wedi tanio Cymorth Cristnogol yw gweld o brofiad sut mae newid hinsawdd yn niweidio pobl dlawd y byd – er yn cael ei achosi gan y gwledydd a chorfforaethau cyfoethog.

Byddai’n dda gennym glywed faint o gapeli Cymru fydd yn ymuno mewn rhyw ffordd neu’i gilydd â’r Penwythnos Cyfiawnder Hinsawdd pwysig hwn. Cyhoeddwn eu henwau â phleser.

Rhaid atal cynhesu byd-eang - medd 400,000 wrth orymdeithio ym Manhattan

Rhaid atal cynhesu byd-eang – medd 400,000 wrth orymdeithio ym Manhattan

Troi at BP am gyngor diogelwch ffracio?

LLONGYFARCHIADAU i’r bobl ifanc gynhaliodd brotest effeithiol iawn yn ddiweddar yn erbyn y ganolfan ffracio nwy £38 miliwn sy’n cael ei chodi ar y cyd gyda BP ar gampws newydd Prifysgol Abertawe (Y Papur Gwyrdd, Campws Caniwt neu Campws Cynffig, Chwefror 3, 2014).

Y panel haul gan BP Solar yn ein gardd yn Nhreforys - cyn iddynt gefni ar ynni adnewyddol

Panel haul gan BP Solar – yn ein gardd yn Nhreforys ers 1996, cyn iddynt droi cefn ar ynni adnewyddol.

Rhoddwyd safle 65 acer hen storfa olew i’r Brifysgol gan BP yn 2012 ar gyfer y campws gwyddoniaeth newydd. Mae’r prosiect yn cael ei ariannu’n rhannol trwy arian cyhoeddus o Fanc Buddsoddi Ewrop a Llywodraeth Cymru. Ac, os cofiwch, bu cryn bwysau ar wleidyddion y Bae gan BP i brysuro i roi’r arian.

Ond doedd y perthynas newydd rhwng penaethiaid Prifysgol Abertawe a BP ddim yn amlwg yn y cyhoeddusrwydd cynnar. Dim ond yn ddiweddarach daeth y son am ganolfan ymchwil ar y cyd i’r golwg.

Gyda hiwmor du hynod eironig mae llefaryddion y Brifysgol yn cyfeirio at y ganolfan fel ‘Sefydliad Ymchwil Diogelwch Ynni’. Yn sicr, mae gan gorfforaeth enfawr BP gryn dipyn o brofiad yn y maes hwnnw. Er enghraifft –

  • Yn 2005, lladdwyd 15 o bobl ac anafwyd 180 mewn ffrwydrad mewn purfa olew BP yn Texas City, Texas. Dangoswyd nad oedd BP wedi dilyn y rheoliadau diogelwch gofynnol.
  • Yn 2007, arllwyswyd 200,000 o olew craidd o bibell BP i’r môr ym Mae Prudhoe, Alaska. Dangoswyd nad oedd BP wedi delio gyda gwendidau yn y bibell.
  • Yn 2010, lladdwyd 11 o weithwyr gan ffrwydrad ar safle BP Deepwater Horizon yng Ngwlff Mecsico. Cytunodd BP nad oedd systemau diogelwch newydd yn weithredol. Arllwyswyd mwy o olew nag erioed o’r blaen i’r môr – 175 miliwn o alwyni.
  • Heb anghofio – mai tancer olew dan reolaeth BP oedd y Torrey Canyon. Trawodd yn erbyn creigiau ym 1967 wrth i’r capten geisio prysuro rhwng Ynysoedd y Sili a Chernyw. Gollyngwyd 35 miliwn galwyn o olew ar yr arfordir a bu raid bomio’r llong gan Lu Awyr Prydain.

Rhaid edmygu’r enghraifft hyfryd o ‘Olchi Gwyrdd’ (Green Wash*) a ddefnyddir wrth ddisgrifio’r ganolfan arfaethedig fel ‘Sefydliad Diogelwch Ynni’. Y gwir syml yw mai sefydliad fydd e i hwyluso a chyflymu datblygu ffracio nwy ledled gwledydd Prydain, ynghyd â mentrau ynni carbon eraill.

Bu gan BP ran fechan yn y diwydiant ynni adnewyddol am gyfnod ers 1981. Buont a phrosiectau mewn ynni solar, gwynt a biomass ac mae gyda ni ein hunain un o baneli haul BP Solar yn ein gardd yn Nhreforys ers 1996.

Ond daeth hynny i ben yn 2011-13, efallai fel sgil-effaith o gostau trychineb Deepwater Horizon. Cefnodd BP ar ynni adnewyddol gan droi yn ôl yn llwyr at ynni ffosil, yn olew a nwy, a’u nwyon tŷ gwydr. Efallai nad yw’n syndod, felly, bod y gair ar led bod Prifysgol Abertawe wedi bod yn gwrthwynebu cynllun Morlyn Abertawe. Bwriad y prosiect hwnnw yw cyflenwi trydan nid o garbon brwnt ond o lanw glân y môr, a hynny ger campws newydd y brifysgol ym Mae Abertawe.

Dilynwch yr arian.

I ddysgu mwy am agwedd myfyrwyr Abertawe am hyn i gyd, ewch at: http://swanseaagainstfracking.wordpress.com/
* Efallai bydd cyfieithiad gwell na ‘Golchi Gwyrdd’ gan Ganolfan Hywel Teifi Edwards?

Heidio ar ein beiciau i’r Eisteddfod

RHYW dair wythnos yn ol, fe gafodd y ddau ohonom ein gwlychu’n sylweddol iawn, iawn, wrth feicio o Barc Gwledig Bryngarw ger Pen-y-bont ar Ogwr i Flaengarw. Un dydd gwlyb oedd hwnnw ynghanol yr holl heulwen, a dyna ni wedi dewis bod ar ein beiciau, gyda chotiau glaw – a diolch am hynny o ddoethineb – ond jeans cyffredin. Serch hynny, roedden ni wedi mwynhau’r daith 16 milltir (yn gyfan), gan stopio sawl gwaith ar y llwybr tawel i gael sgyrsiau difyr gydag nifer o gerddwyr lleol cyn i’r dilyw gyrraedd o ddifrif. Ac wedi tipyn o holi, daethon ni o hyd gaffi prysur y Diner ym Mhont-y-cymer i gael cinio o sglodion adfywiol i godi stem o’n coesau.

Beicio Eisteddfod

Beicio’n braf ar lwybr yr arfordir rhwng Bynea a Maes Eisteddfod Shir Gar yn Llanelli

Gwnaethon ni’n well o lawer o ran y tywydd wythnos diwethaf wrth feicio o’r maes parcio cyfleus yn Bynea ar hyd Lwybr yr Arfordir i Faes Eisteddfod Shir Gar yn Llanelli. Roedd hi’n ddiwrnod clasurol o heulwen braf ac awelon cynnes, a’r golygfeydd o aber afon Llwchwr, Penrhyn Gwyr, a’r mor yn wych wrth i ni deithio’n hamddenol, a sych.

A dyna ysbrydoliaeth oedd cyrraedd i’r safle a gweld bod cymaint o feiciau eisteddfol eisoes yno nes ei bod hi’n straffagl i ddod o hyd i lefydd ‘parcio’. Pan holais, yn ysgafn, a oedd gostyngiad i bobl oedd yn cyrraedd i’r steddfod ar gefn beic, cafwyd ymateb hwyliog a chefnogol gan gwsmer arall a swyddog tocynnau – ond, am y tro, rhaid oedd talu’r £36 am ddydd ar y Maes (x 2 bensiynwr). Ond, onid yw hyn yn syniad i’r dyfodol er mwyn hybu beicio, ffrindiau?

Joio'r straffagl i ddod o hyd i le parcio wrth gyrraedd yr eisteddfod.

Joio’r straffagl i ddod o hyd i le parcio wrth gyrraedd yr eisteddfod.

Ac yn wyneb poblogrwydd cynyddol beicio, da oedd clywed trafodaeth ar y pwnc ar Radio Cymru, gydag un o swyddogion mudiad Sustrans a chynrychiolydd o Eisteddfod Meifod 2015, lle awgrymwyd y dylid trefnu parcio diogel ar gyfer beiciau ar y Maes yn lle ar y tu allan. Dyna dda ein bod ni’n teithio i’r cyfeiriad iawn yn hyn o beth, o leiaf – yn yr haul a’r glaw!