Oriel

Ar drothwy Cynhadledd Paris – angen sylw ein gwleidyddion

MAE cynadleddau blynyddol hydrefol y pleidiau gwleidyddol ar ben. A ninnau ar drothwy Cynhadledd Newid Hinsawdd Paris – sy’n dechrau ar Dachwedd 30 – clywsom fawr ddim am eu polisiau ar Gynhesu Byd-eang. Bai’r Wasg? Ynteu’r pleidiau?

A bod yn deg, cyfeiriodd Leanne Wood, Arweinydd Plaid Cymru, at Gynhadledd Paris yn ei haraith hi yng Nghynhadledd y Blaid, a rhoddodd Jill Evans, ASE y Blaid, le blaenllaw i fygythiad Newid Hinsawdd yn ei haraith hithau, am 9 o’r gloch y bore.

Roedd gan rai obaith y byddai Cynnig Brys wedi bod yn bosibl i atgoffa pawb o bwysigrwydd Cynhadledd Paris, ond barnwyd bod helyntion Syria a’r Diwydiant Dur yn hawlio blaenoriaeth. Felly, doedd dim angen araith fach fel hon:

‘RWY’N siŵr y byddai’n ddiweddar gyfaill, yr Athro Phil Williams, wedi bod yn frwd iawn i weld y Cynnig Brys hwn yn cael ei osod o flaen y Gynhadledd.
Mae’r Cynnig yn ein gwahodd i fynnu bod toriadau llym i allyriadau carbon yn cael eu cytuno yng Nghynhadledd Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig ym Mharis sy’n dechrau ar Dachwedd 30.
Fel gwyddonydd, gwelodd Phil y perygl enbyd a olygir gan gynhesu byd-eang i’r gymuned blanedol. Fel gwleidydd, ym Mai, 2001, fe wnaeth araith angerddol i’n Cynulliad Cenedlaethol, yn cyfeirio at Gynhesu Byd-eang fel y broblem fwyaf sy’n ein hwynebu a’r cyd-destun i’n ffurfiant polisi.
Nawr, bymtheng mlynedd yn ddiweddarach, byddai Phil wedi cael ei frawychu i weld bod llosgi carbon byd-eang, yn lle cael ei gostwng wedi chwyddo’n enfawr yn y cyfnod ers ei araith.

Archesgob Rowan Williams

Rowan Williams: Angen i bawb ohonom bwyso ar wleidyddion bod delio a Newid Hinsawdd yn fater o’r pwys mwyaf.

Gyda’r chwyddiant hwnnw, cafwyd parhad Cynhesu Byd-eang. A gyda hynny, gwelwyd toddi cynyddol ein pegynau iâ, lleihad afonydd rhew, rhyddhau nwy methan, codiadau yn lefelau’r môr, eithafion sychdwr, gwres a llifogydd, a stormydd ffyrnicach.
Dyw arweinwyr gwleidyddol ein byd ddim wedi bod yn gwrando ar y gwyddonwyr. Eu blaenoriaeth nhw yw grym. Dyw meistri’r diwydiannau global ddim wedi bod yn gwrando ar y gwyddonwyr, ’chwaith. Eu blaenoriaeth nhw yw elw ariannol. Ac wrth i leiafrif bychan iawn o gyfalafwyr dyfu’n gyfoethocach, mae mwyafrif pobl y byd yn talu’r pris mewn cynifer o ffyrdd.
Dyma ffrwyth athroniaeth Ariangarwch Mrs Thatcher, Milton Friedman a’u criw – sef, pen -rhyddid masnachol sy’n troi cymunedau o ben i waered …
Erbyn hyn, rydym y gweld bod y penrhyddid masnachol hwn hefyd yn dinistrio cynefinoedd bywyd gwyllt a’r systemau naturiol sy’n cynnal pawb ohonom. Hynny wrth i’r corfforaethau enfawr osod twf elw ariannol uwch pob peth arall.
Ers blynyddoedd, bu corfforaeth olew Exxon Mobil, er enghraifft, yn ariannu grwpiau lobïo i wadu Newid Hinsawdd. Ond yn ddiweddar, datgelwyd bod gwyddonwyr Exxon wedi rhybuddio’r penaethiaid ers y Mil Naw Saith Degau bod llosgi carbon o olew, go a nwy yn achosi Cynhesu Byd-eang. Cuddio’r wybodaeth honno wnaethon nhw, fel y bu’r corfforaethau tybaco’n cuddio’r cysylltiad rhwng smygu a chanser. Dyna droseddau enbyd yn erbyn dynoliaeth – a ninnau, eto, yn gorfod talu’r pris.
Ac o son am dwyll, beth am dwyll Plaid Geidwadol David Cameron a George Osborne? Y Llywodraeth ‘fwyaf Gwyrdd erioed’ oedd yr addewid. Ond wele, nawr, mae’r Torïaid yn chwalu’r diwydiant ynni newydd haul a gwynt, glan ac adnewyddol, sydd mor llwyddiannus yng ngwledydd Prydain. A hyn yn gwbl groes i gyngor y gymuned wyddonol gyfrifol ledled ein Daear.
Yng Nghynhadledd Hinsawdd Copenhagen yn 2009, cytunodd llywodraethau y byddai unrhyw gynnydd yn nhymereddau global o fwy na 2oC ers y Chwyldro Diwydiannol yn achosi anrhefn hinsawdd peryglus.
Fe wnaeth ein Cymdeithas Ddysgedig Cymru ni, ynghyd â 22 o sefydliadau Prydeinig o’r bri uchaf eraill, gefnogi cadarnhad o’r rhybudd hwnnw gan y Gymdeithas Frenhinol – pen gymdeithas wyddonol y Deyrnas Gyfunol – fis Gorffennaf diwethaf.
Mae gwyddonwyr yn rhybuddio bellach mai Cynhadledd Newid Hinsawdd Paris fydd y cyfle olaf, yn ôl pob tebyg, i sicrhau cytundeb cryf fydd yn ddigon i ffrwyno’r cynhesu cynyddol.
Un o’r gwyddonwyr mwyaf blaenllaw sydd wedi bod yn rhybuddio ar y lefelau uchaf am beryglon cynhesu carbon yw’r Cymro, yr Athro Syr John Houghton o Ddiserth, y Rhyl, bellach o Aberdyfi – cydweithiwr â Phil Williams. Dyfarnwyd Gwobr Nobel Syr John gyda Phanel Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig am rybuddio am effeithiau allyriadau carbon.
Cymro arall sydd hefyd yn galw arnom i fynnu ymateb cyfrifol at newidiadau hinsawdd yw cyn-Archesgob Caergaint, Rowan Williams. Rai wythnosau yn ôl yn Abertawe, fe glywodd dyrfa fawr ohonom Dr Williams yn tanlinellu’r angen i bawb ohonom wasgu ar wleidyddion, yn lleol ac yn fyd-eang, i atal llosgi carbon.
Byddai’r Cynnig hwn yn cysylltu’r blaid hon gyda’r ymgyrch rhyngwladol ysbrydoledig sy’n galw am doriadau carbon cryf ym Mharis fel cam hanfodol i sicrhau byd mwy diogel i genedlaethau’r dyfodol.’

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

Mae'r wefan hon yn defnyddio Akismet i leihau sbam. Dysgwch sut mae eich data sylwadau yn cael ei brosesu .