Category Archives: Uncategorized

Fferm wynt hudolus Mynydd y Betws

Tyrbinau gwynt Mynydd y Betws - ynni glan gyda'r awelon

Tyrbinau gwynt Mynydd y Betws – ynni glan gyda’r awelon

AR OL bod am dro ola’r dydd nos Lun diwethaf gyda’n llamgu Cymreig, Taliesin, penderfynnodd Charlotte a minnau neidio i’r car i fynd am dro bach ychwanegol i fwynhau’r machlud ar Fynydd Gelli Wastad a Mynydd y Gwair.

Ry’n ni’n lwcus: mae copaon y bryniau o fewn 10 munud o’n cartref yn Nhreforys, gyda golygfeydd ysblennydd i bob cyfeiriad – os ydy’r tywydd yn caniatau! Ac, yn wir, roedd hi’n noson hynod o braf wrth i ni yrru ar y ffordd gul fynyddig i gyfeiriad Rhydaman.

Yn sydyn, dyna bleser a chyffro oedd dod ar draws clwstwr o dyrbinau gwynt gwyn ar Fynydd y Betws a’u llafnau’n troi’n osgeiddig yn yr awel ysgafn gan adlewyrchu haul y diwetydd. I ninnau, roeddynt yn olygfa hudolus, fel petaen nhw’n codi’n naturiol o’r llethrau gwyrdd.

Cofiwch, yn f’arddegau roeddwn yn byw o fewn canllath i bwll glo’r Western yn Nantymoel. Yno, roedd tramiau’n sgrechian yn aml wrth ddringo’r inclein i daflu cerrig gwastraff yn domen fawr a brwnt ar y llethrau gerllaw. Gyda’r atgof am hynny, roedd tyrbinau gwynt Mynydd y Betws yn symbol o ffordd newydd, waraidd a gobeithiol o drin y Ddaear wrth ddiwallu’r angen am ynni.

Na, does mo’u hangen ymhob man, ond, wir i chi, maen nhw’n well o lawer iawn na’r hen domenni glo a’r cyfan oedd yn gysylltiedig a’r diwydiant glo. Bu tair cenhedlaeth o lowyr y gwn amdanynt yn ein teulu ni – ond ffermydd gwynt amdani, nes bod technoleg lai difrodol eto’n ymddangos.

Machlud haul - ond symbol o wawr newydd i ynni adnewyddol

Machlud haul – ond symbol o wawr newydd i ynni adnewyddol

 

 

 

Llongyfarchiadau, Jill

Llongyfarchiadau mawr i Jill Evans am lwyddo i gadw sedd Plaid Cymru yn etholiadau Senedd Ewrop – ymysg y pedwarawd o Gymru sydd yno. Ar wahan i’w gwaith ymroddedig dros Gymru a mudiadau cyfiawnder dynol mae Jill wedi profi’n ymgyrchydd cryf gyda’r Cynghrair Gwyrdd ar bob pwnc sy’n ymwneud a gwarchod y Ddaear – ymysg y goreuon oll ym Mrwsel a Strasbourg ac yn cael eu canmol gan fudiadau Gwyrdd am hyn. Whare teg, dyw Derek Vaughan o’r Blaid Lafur ddim yn bell ar ei hol. Ond bu’r Tori, Kay Swinborn, a’r Aelod UKIP blaenorol, John Bufton, yn pleidleisio fel Gwadwyr Newid Hinsawdd rhonc, a does dim disgwyl y bydd y UKIPiwr newydd ronyn yn well. Ond, am y tro, dathlwn fod gan Gymru lais Gwyrdd mor gryf yn ein Senedd Ewropeaidd. A llongyfarchiadau, hefyd, i’r Blaid Werdd yn Lloegr.

‘Mae’r oll yn gysegredig’ – ond nid i Miller Argent na Celtic Energy

DWY ergyd, a dau gyfarchiad. Dyna sydd gen i.

Rwy’n arwain gyda right jab ffyrnig i gwmni Celtic Energy. Pam felly? Am eu bod yn mynd i rwygo mwy eto o lo o Flaenau’r Cymoedd. Dyna’u bwriad er y rhybuddion gwyddonol diweddar bod rhaid torri ar allyriadau carbon o danwydd ffosil os ydym i ffrwyno tipyn ar Gynhesu Byd-eang a Newid Hinsawdd.

Cawsant ganiatad Cyngor Rhondda Cynon Taf i greu safle glo brig newydd ar lethrau Bryn Defiad ym mlaen Cwm Cynon, uwch pentref Llwydcoed. Mae’n Safle o Bwysigrwydd Arbennig am Gadwraeth Natur. Ni wrthwynebodd Cyfoeth Cymru.

A nawr, left uppercut i gwmni Miller Argent am eu bod hwythau hefyd yn edrych ymlaen at achosi chwalfa i gymuned a phlaned. Eisioes mae ganddynt safle glo brig anferth Ffos-y-fran sy’n ymestyn fel cwmwl du uwch Merthyr Tudful. Nawr eu bwriad yw rhwygo’r holl waun hyfryd rhwng y safle hwnnw a chartrefi pentref poblog Fochriw. Am 17 mlynedd. Mae eu cais gerbron Cyngor Caerffili ac mae ‘na wrthwynebiad ffyrnig. Parhau i ddarllen

Rhaid inni ddysgu gwrando ar ein gwyddonwyr!

NID un i ofyn cwestiynau llipa mo’r Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, a diolch am hynny – yn enwedig yn sesiynau agored, cysglyd ein Cynulliad Cenedlaethol. Wrth holi’r Gweinidog Addysg a Sgiliau, Huw Lewis, ar ddydd Mercher, Ebrill 2, daeth Dafydd a chwa nerthol o gynhesu byd-eang a newid hinsawdd ynghyd i gynhyrfu’r neuadd. Cyfeirio oedd e at fethiant cymaint yn ein mysg i ymateb yn gall i dystiolaeth gwyddonwyr ledled y byd ynghylch ein difrod i systemau naturiol ein hunig blaned. Dyma oedd eu cwestiwn (darllennwch yn gynyddol ddramatig, wrth gwrs):

‘A fyddai’r Gweinidog addysg yn cytuno bod dealltwriaeth o wyddoniaeth amgylcheddol a gwyddoniaeth byd natur yn hanfodol nid yn unig i ddatblygu’r economi a swyddi, ond i ddatblygu dealltwriaeth ddemocrataidd, oherwydd bod cymaint o’r penderfyniadau anodd yr ydym yn gorfod eu hwynebu y dyddiau hyn ynglŷn â newid hinsawdd a materion eraill yn dibynnu ar barodrwydd i wrando ar wyddoniaeth sylfaenol, a bod gwrthwynebiad i lawer o ynni adnewyddadwy yn codi allan o ddiffyg dealltwriaeth o wyddoniaeth sylfaenol natur ar y ddaear?’

Diolch iddo am arwain ar bwnc peryglon newid hinsawdd yn ein Cynulliad.  Dyma oedd ateb cefnogol Huw Lewis, yn cyfeirio, fel Dafydd, at gyflwr meddwl y Gwadwyr Newid Hinsawdd sy’n ein gwthio mor ddi-feddwl at ymyl y dibyn amgylcheddol:

‘Of course, I would agree. I think a basic level of scientific literacy, if you like, is a basic requirement for any informed citizen in a democratic polity. It is all too easy for the wool to be pulled over people’s eyes if they do not have that basic understanding of what constitutes proper scientific evidence. Therefore, their judgment is necessarily impaired if they are not able to distinguish between arguments that are based on evidence and those that are not.’

Gobaith am gychwyn newydd?

MAE’R sylw a roddwyd ar y cyfryngau yr wythnos hon i gyhoeddiad 5ed Adroddiad Asesu’r Cenhedloedd Unedig ar Newid Hinsawdd (gan yr IPCC), yn codi rhywfaint o obaith y bydd llywodraethau yn dechrau o ddifrif i geisio gyfyngu ar Gynhesu Byd-eang.

Wrth gwrs, er bod cannoedd o wyddonwyr ledled y byd wedi cyfrannu o’u ymchwil i gynnwys yr adroddiad, cafodd yr un gwyddonydd a dynnodd allan o’r tim gan honni bod yr adroddiad yn ‘or-ddramatig’ gyfle i ddatgan ei farn bersonol gan y cyfryngau. Fel ‘na mae.

Yn yr Adroddiad, mae penaethiaid gwyddonol y Cenhedloedd Unedig wedi ail-adrodd, gyda mwy o dystiolaeth nag erioed, eu cred bod y Cynhesu Byd-eang sy’n achosi Newid Hinsawdd yn fygythiad difrifol a chynyddol i ddynolryw a phob ffurf arall ar fywyd ar ein Daear. Mynnant hefyd fod hen angen i ni geisio cyfyngu ar y bygythiad o dywydd eithafol – trwy gwtogi ar allyriadau nwyon ty gwydr – a hefyd i weithredu polisiau i amddiffyn pobl rhag yr effeithiau. Parhau i ddarllen

Nodiadau o Dde Carolina

I EGLURO – bu taw ar ein blogiau wedi i ni orfod rhuthro i Columbia, De Carolina, ar Fawrth 3 lle roedd mam Charlotte, yn 94 oed, yn prysur wanhau. Er y tristwch, roeddem yn falch i fod wrth ei gwely’n ddyddiol, gydag aelodau eraill y teulu, nes ei marwolaeth ar Fawrth 15. Wedi’r claddu a’r trafodaethau a’r ymlacio teuluol, rydym bellach yn edrych ymlaen at deithio adref i Gymru ar Fawrth 23 / 24.

Yn ystod yr ymweliad hwn, da fu sylwi ar erthyglau bywiocach ac mwy ergydiol nag ers tro ar bynciau Dynoliaeth a Daear mewn cylchgronnau ‘gwyrdd’ a blaengar Americanaidd fel Mother Jones, Utne News a’r Progressive.

O ran llyfrau, mae Charlotte bellach ynghanol The World Without Us gan Alan Weisman (Picador) ac yn ei ganmol yn fawr. A minnau? – Rwyf wedi gwerthfawrogi cyfrol fach angyffredin The Earth Moved. On the Remarkable Achievements of Earthworms gan Amy Stewart (Algonquin), a nawr rwy’n falch, o’r diwedd, fy mod wedi dechrau darllen y clasur Walden gan Henry David Thoreau (gyda chyflwyniad a nodiadau ardderchog gan Bill McKibben o fudiad 350.org). Parhau i ddarllen

Tystiolaeth y gwyddonwyr hinsawdd

MAE sefydliadau gwyddonol aruchel y Royal Society yn y DG a’r National Academy of Sciences yn yr UD wedi cyhoeddi adroddiad arbennig ar y cyd heddiw ar Newid Hinsawdd – Tystiolaeth ac Achosion. Mae’r cwestiynau a’r amheuon yn cael eu hateb ar yr hyn y cyfeirir ati fel pwnc mwyaf diffiniol ein cyfnod. Mae’r rhybuddion a’r bygythiadau yn gwbl glir. Mae modd gweld a chopio’r cyfan. Ewch at hyn ni weld drostoch eich hunan, a rhowch y gair ar led:

http://royalsociety.org/policy/projects/climate-evidence-causes/

Newid hinsawdd – yma, nawr

DA iawn Duncan Brown yn Golwg am feiddio â chyfeirio at y ffaith ein bod yn wynebu ‘armagedon hinsoddol’ (Llythyrau, Chwefror 13).

Mae amgylcheddwyr yn cael eu cynghori i beidio â defnyddio disgrifiadau brawychus fel yna. Y ddadl yw eu bod yn rhoi cyfle i wleidyddion wneud hwyl am ben ‘Green alarmism’ wrth iddynt gyfiawnhau llosgi mwy o garbon ac atal ynni adnewyddol – fel un cynghorydd arbennig sydd gyda ni yma yn Abertawe.

Ond ers wythnosau mae stormydd enbyd wedi dangos cywirdeb y ‘Green alarmism’ hwn, ac nid ym mhellafoedd byd ond yma yng Nghymru a gweddill Ynys Prydain. Fel dywedodd yr Arglwydd Nicholas Stern (Llywydd yr Academi  Brydeinig) yn y Guardian, ‘Mae Newid Hinsawdd yma nawr’! (Chwefror 14)

Ac mae Duncan yn iawn i ddweud, ‘Atom ni – chi a fi – fydd y bys yn pwyntio gyntaf’ os na wnawn bwyso ar wleidyddion i geisio ffrwyno’r ‘armagedon’ trwy dorri ar allyriadau carbon.

Gobeithio y bydd gwleidyddion ein Senedd Gymreig yn sefyll yn gadarn yn hynny o beth. Ar Radio Cymru’r wythnos hon clywais un o swyddogion y diwydiant adeiladu yn cwyno’u bod nhw’n cael eu dal yn ôl am fod rheoliadau amgylcheddol Cymru ar adeiladau newydd yn gryfach na rhai Lloegr.

Ond nid galw am gryfhau rheoliadau Lloegr oedd e. O na! Mynnu y dylid gwanhau’r rheoliadau Cymreig – hynny yw, y rheoliadau sy’n cyfyngu’n fwy effeithiol ar allyriadau carbon er mwyn atal cynhesu byd-eang. A hyn er bod llifogydd erchyll yn dal i ddistrywio bywydau miloedd o bobl yn Lloegr.

Dyna’r math o ffolineb sydd i’w glywed gan ddiwydianwyr sy’n meddwl  am elw uwchlaw pob dim arall.

Diolch byth bod yr hen dywysog glofaol Tyrone O’Sullivan OBE yn cynnig llygedyn o oleuni. Er ei fod yn llywyddu dros safle glo brig dinistriol ar lethrau hyfryd Hirwaun, mae wedi datgan ei fod yn cefnogi creu morlyn ym Mae Abertawe i gynhyrchu trydan adnewyddol di-garbon o’r llanw a thrai.

Ydy, mae Tyrone y Tŵr o blaid ynni Gwyrdd.

Hyfryd cyflwyno newyddion da – gan obeithio y bydd cynadleddau Gwanwyn ein pleidiau gwleidyddol yn dangos bod hwythau, hefyd, yn rhannu’r un weledigaeth.

Wedi’r cyfan, mae’n hen bryd i ynni adnewyddol, di-garbon, amrywiol ddod yn ôl i ganol y llwyfan ar ôl cael eu chwythu o’r golwg ers cyhyd gan y gwrth-dyrbinwyr gwynt. Hwb i’r cyfeiriad iawn yw cael ein hatgoffa o ‘armagedon.’ [HYWEL]

BBC yn hybu’r Gwadwyr

HEDDIW, ar raglen Radio 4 ‘Today’, fe gawson ni enghraifft glasurol gan y BBC yn Llundain o sut i beidio â chyflwyno ‘trafodaeth’ gall am y perthynas rhwng newid hinsawdd a’r tywydd eithafol presennol.

Roeddent wedi gwahodd y gwyddonydd blaenllaw Syr Brian Hoskins i’r stiwdio i daflu goleuni ar y patrymau o dywydd peryglus sy’n ergydio’n byd mor aml bellach a, hefyd, ar y codiadau yn lefelau’r môr sy’n fygythiad i drefi a dinasoedd arfordirol. Popeth yn iawn.

Ond roeddent hefyd wedi sicrhau bod y Gwadwr Newid Hinsawdd dylanwadol, y cyn-Ganghellor Torïaidd Nigel Lawson, yn cael bod yn y stiwdio i danseilio popeth roedd gan Brian Hoskins i’w ddweud.

Byddai’r BBC yn mynnu mai newyddiaduraeth gytbwys oedd hynny.

O, ie? Sef person o awdurdod a phrofiad fel gwyddonydd newid hinsawdd, sef Syr Brian Hoskins, yn cael ei wynebu gan berson arall sy’n gwadu’r cyfan o wyddoniaeth newid hinsawdd, er ei fod heb gefndir gwyddonol o gwbl ei hun, sef Nigel Lawson.

Nid cydbwysedd newyddiadurol oedd hynny. Methiant llwyr ydoedd fel newyddiaduraeth. Methiant i adlewyrchu’n gywir y consensws mawr ymhlith gwyddonwyr bod newid hinsawdd bygythiol yn digwydd a’i bod yn deillio i raddau helaeth o’r cynnydd yn y carbon sy’n cael ei wthio i’r atmosffer gan ein gwareiddiad modern.

Nod y Global Warming Policy Foundation y mae Nigel Lawson yn llais pwerus iddo yw hau amheuon ymhlith y cyhoedd ynglŷn ag achosion newid hinsawdd. A’u nod penodol yw sicrhau rhwydd hynt i’r diwydiannau ynni carbon barhau i elwa, beth bynnag yw’r canlyniadau i filoedd a miliynau o bobl gyffredin.

A heddiw, eto, bu’r BBC yn Llundain yn cynnal y diwydiannau hynny, gan ildio i’w lobïwyr. Ac mae’r stormydd enbyd yn parhau.

►Am ddadlenniad ysgytwol o’r cryn bychan sydd wedi bod yn codi ymheuon ym meddyliau’r cyhoedd ynglyn â rhybuddion gwyddonol ers degawdau, ewch at Merchants of Doubt gan Naomi Oreskes & Erik M.Conway (Bloomsbury 2010). [HYWEL]

Nofel am newid hinsawdd

YN ystod y cyfnod diweddaraf o law trwm, gwyntoedd uchel, stormydd cryf, a llifogydd, rydw i wedi bod yn darllen llyfr o’r enw Flight Behavior, nofel newydd gan yr Americanes Barbara Kingsolver.

Mae Kingsolver eisoes ymysg y mawrion fel nofelydd cyfoes, wrth gwrs. Ond rhaid imi gyfaddef imi gael fy nenu ati’n gychwynnol wedi sylwi ei bod yn hanu o Kentucky, fel fi fy hun, ac o ardal enedigol fy mam yn arbennig, sef Nicholas County.

Mae’r tywydd yng Nghymru ac ar draws gwledydd Prydain ar hyn o bryd yn dilyn y patrwm y mae gwyddonwyr wedi’i ragweld fel canlyniad tebygol i newid hinsawdd. A dyma thema Flight Behavior.

Yn y nofel fachog newydd hon, mae menyw ifanc sy’n ffermwraig ym mynyddoedd Tennessee, yn dod at gydnabyddiaeth o’r peryglon i’n planed trwy brofi tywydd anghyffredin o wlyb a thymheredd uwch na’r normal yn y gaeaf, tebyg i’r hyn rydyn ni’n ei ddioddef. Ac mae hi hefyd yn dod wyneb-yn-wyneb gyda digwyddiad dramatig arall ym myd natur, sef ymateb un rhywogaeth o ieir-bach-yr-haf i ganlyniadau newid hinsawdd.

Roedd Barbara Kingsolver wedi astudio bioleg cyn troi at ysgrifennu. Mae hi’n siarad yn gryf yn gyhoeddus ar effeithiau cynhesu byd eang, gan rybuddio ein bod yn codi’n plant gyda’r celwydd bod eu ffordd o fyw yn gallu parhau. Mae’n mynnu bod rhaid i ni ddianc ‘rhag ffwlbri gwyllt ein dibyniaeth ar danwydd carbon’ (gweler Y Papur Gwyrdd 10, Chwefror/Mawrth 2009, tud 9, am gyfeiriad at araith ganddi ar y pwnc hwn).

Rydw i’n edrych ymlaen at ddarganfod pa awgrymiadau a welir erbyn diwedd Flight Behavior – ai i fod yn obeithiol, ai peidio. Felly, efallai fe wna i gyfeirio at y llyfr eto. Ond, peidiwch â becso, rwy’n addo peidio â datgelu’r stori! [CHARLOTTE]

Nofel am effeithiau newid hinsawdd

Nofel am effeithiau newid hinsawdd