DWY ergyd, a dau gyfarchiad. Dyna sydd gen i.
Rwy’n arwain gyda right jab ffyrnig i gwmni Celtic Energy. Pam felly? Am eu bod yn mynd i rwygo mwy eto o lo o Flaenau’r Cymoedd. Dyna’u bwriad er y rhybuddion gwyddonol diweddar bod rhaid torri ar allyriadau carbon o danwydd ffosil os ydym i ffrwyno tipyn ar Gynhesu Byd-eang a Newid Hinsawdd.
Cawsant ganiatad Cyngor Rhondda Cynon Taf i greu safle glo brig newydd ar lethrau Bryn Defiad ym mlaen Cwm Cynon, uwch pentref Llwydcoed. Mae’n Safle o Bwysigrwydd Arbennig am Gadwraeth Natur. Ni wrthwynebodd Cyfoeth Cymru.
A nawr, left uppercut i gwmni Miller Argent am eu bod hwythau hefyd yn edrych ymlaen at achosi chwalfa i gymuned a phlaned. Eisioes mae ganddynt safle glo brig anferth Ffos-y-fran sy’n ymestyn fel cwmwl du uwch Merthyr Tudful. Nawr eu bwriad yw rhwygo’r holl waun hyfryd rhwng y safle hwnnw a chartrefi pentref poblog Fochriw. Am 17 mlynedd. Mae eu cais gerbron Cyngor Caerffili ac mae ‘na wrthwynebiad ffyrnig.
Gwallgofrwydd ar lefel leol a byd-eang yw caniatau cynigion dinistriol fel hyn i losgi mwy o danwydd carbon. Ond mae’r cwmniau’n bwerus ac mae’r system cyfalafol, cynyddol ddi-lyffethair, yn ffafrio corfforaethau a masnach ac nid dynoliaeth a Daear.
Nawr, yn hapusach,at y ddau gyfarchiad – a’r ddau i longyfarch colofnwyr ym mhapur wythnosol Y Cymro.
Yn gyntaf, diolch i Duncan Brown am y geiriau gwerthfawr hyn yn ei golofn gyfredol (Llen Natur: Y byd allan o sync, tud 10, Mai 2): ‘Rydym heddiw yn gymdeithas o boblach sydd am fod ymhobman ac yn nunlle, yn ddinasyddion y byd heb wreiddiau yn unman. Pa werth i bobl, lle bynnag y bont, sydd wastad am fod yn rhywle arall? Tanwydd ffosil sydd yn cynnal y duedd hon, yr un pryd ag y mae’n achosi’r argyfwng mwyaf mae Dyn wedi ei wynebu erioed.’
A chanmoliaeth, hefyd, i Andrew Jones, colofnydd Amaeth Y Cymro, am dynnu’n sylw at gyfraniad holl-bwysig yr eiddilaf o fodau byw, sef y mwydod, at greu’r byd sy’n ein cynnal ni (Amaeth: Mwydod – cynhalwyr y pridd, tud 13, Mai 2).
Wrth i ffermwyr gyflawni asesiadau blynyddol o iechyd y pridd ar gyfarwyddyd yr awdurdodau, esbonia, ‘Adnabyddir iechyd y pridd trwy godi clotsen i gyfrif faint o fwydod a welir dan yr wyneb.’ Cyfeiria at ymchwil y Dr Heather McCalman o Brifysgol Aberystwyth i effaith mwydod ar faint cnydau ac iechyd y pridd. Ei chyngor, meddai, yw, ‘Cyfrif y mwydod, samplo’r pridd ac osgoi niweidio’r wyneb ydy’r tri chanllaw i gadw pridd yn iach.’
Digwydd bod, rwyf newydd orffen darllen llyfr difyr a dadlennol ar union y pwnc hwn, sef The Earth Moved. On the remarkable achievements of earthworms (Amy Stewart, Algonquin Books, 2004). Mae brwdfrydedd yr awdur dros gyfraniad y creaduriaid hyn yn heintiol, ac rwy’n edrych ar y mwydod yn ein pridd-weithredwr yn yr ardd gyda pharch o’r newydd.
Mae Amy Stewart yn ein hatgoffa mai llyfr olaf Charles Darwin yn ei henaint ym 1881 oedd astudiaeth o fywydau mwydod. Daeth i’r casgliad eu bod yn greaduriaid canolog o bwysig yn y broses o greu pridd. Cafodd ei watwar gan rai o’i gyd-wyddonwyr. Fe, wrth gwrs, oedd yn iawn.
Ond, ar eu pegwn eithaf o anghyfrifoldeb, pa ots gan gwmniau fel Miller Argent a Celtic Energy am iechyd tir a phridd? Rhwygo a llosgi yw eu bwriad hwy – a gwneud elw. Ac mae’r system yn eu cynnal.
Ond cofiwn ninnau gydag Islwyn, bardd Y Storm – ‘Mae’r oll yn gysegredig. Mae barddoniaeth nefolaidd ar yr holl fynyddoedd hyn.’