Category Archives: Uncategorized

Campws Caniwt neu Campws Cynffig?

Tonnau mawr o stormydd a llanw uchel Ionawr 2014 wedi torri mewn i dwyni tywod ar draeth Abertawe

Tonnau mawr o stormydd a llanw uchel Ionawr 2014 wedi torri mewn i dwyni tywod ar draeth Abertawe

BORE heddiw, aeth Charlotte a minnau ar y bws Metro – y ‘bendy bus’ ar lafar – o Gwmrhydyceirw i gampws Prifysgol Abertawe gan ddilyn ffordd y môr. Cymryd llyfr yn ôl i lyfrgell y Brifysgol oedd Charlotte – fel darlithydd wedi ymddeol – llyfr oedd yn cynnig hyfforddiant ar y technegau cyfrifiadurol sydd angen arnom i wella’r Wefan / Blog hon.

Yna, nôl a ni i ganol Abertawe i godi copi o’r un llyfr yn siop Waterstone’s. Roedden ni wedi’i archebu ganddyn nhw ar ôl sylweddoli maint y dasg o’n blaen!

Ond nid y llyfr, na’r angen i wella Gwefan newydd Y Papur Gwyrdd yw pwnc y neges hon. Ond beth welsom yn ystod ein taith ar y Metro, a’r goblygiadau am brosiect adeiladu enfawr academaidd sydd ar gerdded yn lleol.

Yr hyn oedd yn ein synnu, ac nid am y tro cyntaf dros y misoedd diwethaf, oedd gweld cymaint o dywod a daflwyd o’r traeth gan y tonnau yn ystod deuddydd o dywydd garw – tu hwnt i’r promenade i brif ffordd Heol Ystumllwynarth a thu hwnt i’r heol hefyd. Roedd Jaciau Codi Baw bach wrthi eto gyda’r gwaith clirio.

Fel cerddwyr rheolaidd ar draeth hyfryd Bae Abertawe, rydym wedi gweld newidiadau sylweddol wrth i rym y môr a’r llanw erydu twyni tywod a gwthio yn erbyn pier Afon Tawe. Mae’r môr yn benderfynol o adennill ei thiriogaeth. Ac mae ardaloedd canol Abertawe yn amlwg o dan fygythiad.

Ychydig yn ôl yng nghylchgrawn Y Papur Gwyrdd (tud 3, rhifyn 23, Ebrill / Mai 2011), roeddem wedi cwestiynu doethineb Prifysgol Abertawe a’u cynllun i godi campws newydd £450 miliwn ar lan y môr rhwng dociau Abertawe ac aber Afon Nedd ar hen safle olew BP.

Roeddem yn tynnu sylw at rybuddion adroddiad newydd gan Sefydliad Joseph Rowntree ynglŷn ag effaith debygol newid hinsawdd ar ardaloedd arfordirol Prydain. Cyfeiriodd yr adroddiad yn arbennig at arfordir De Cymru fel un o’r rhai oedd ymysg y mwyaf tebygol i ddioddef o ganlyniad i stormydd ffyrnicach a chodiadau yn lefel y môr erbyn 2050-2080 (sef cyfnod yr astudiaeth).

Roeddem hefyd wedi nodi’r ffaith bod cynllunwyr y Brifysgol yn ymwybodol o’r perygl. Roeddynt yn mynnu y byddan nhw’n codi’r safle 0.5 – 1.5m yn uwch i leiafswm o 7m o uchder ledled y safle – ‘ac felly,’ meddai’r cynllunwyr, ‘uwchlaw’r lefelau llif arfordirol a ragwelir’.

Ni fu ymateb i’n herthygl oedd yn gofyn pa mor gall fyddai codi prosiect mor fawr ar lan y môr yn wyneb cymaint o rybuddion. Ac nid oes trafod pellach wedi bod ar y pwnc, i ni wybod amdano. Ond bellach, a phawb yn profi pŵer y stormydd a’r llanw, rydym yn dechrau clywed cyfeiriadau yn lled fynych at y prosiect hwn fel un sydd fel petai’n herio’r môr.

Ac nid yn unig yn herio, ond yn brolio.

Yn ddiweddar, cyhoeddodd Prifysgol Abertawe lun o’r awyr yn dangos twf y campws ‘Gwyddoniaeth ac Arloesedd’ wrth i’r gwaith adeiladu fynd yn ei flaen. Bydd myfyrwyr ar y campws erbyn 2015. Bydd 12,000 o swyddi llawn amser erbyn 2020 o ganlyniad. A dyma fydd un o’r ychydig safleoedd prifysgol ledled y byd i fod â promenade a thraeth.

Nid rhywbeth i’w amau gan neb fu natur na pwysigrwydd y prosiect hwn. Ond bu’r brolio diweddar yn ormod i o leiaf un o ddarllenwyr papur dyddiol lleol Abertawe, sef yr Evening Post. Cyhoeddodd y Post yr e-sylw hwn gan berson gyda’r ffug enw Boswine: “I hope there are some good flood defences planned for this development or the students better bring their scuba diving kits with them to uni” (Evening Post, Rhagfyr 28, 2013).

Ac, yn sŵn y gwyntoedd a’r tonnau, nid peth anghyffredin bellach yw clywed cwestiynu tawel am ‘godi tŷ ar y tywod’.

A beth am enw i’r campws? Awgrym poblogaidd yw Campws Alfred Russell Wallace, ar ôl y damcaniaethwr esblygiad oedd â chysylltiadau lleol. Enw campus i’r campws. Ond a fydd y dyfodol yn dangos y byddai Campws Coleg Caniwt wedi bod yn fwy priodol? Neu Campws Cynffig ar ôl y dref gyfagos a ddiflannodd dan y twyni tywod yn y canol oesoedd?

Beth sy’n siŵr o fod yn wir ynghanol y stormydd cyfredol yw nad yw cynllunwyr y campws yn cysgu cweit mor dawel yn eu gwelyau.

A ddaw Campws Gwyddoniaeth ac Arloesedd Prifysgol Abertawe yn enghraifft glasurol o brosiect a gymerodd ormod yn ganiataol am allu dynol, tra’n talu rhy ychydig o barch i gryfder systemau naturiol? Trafodwch!

Angen cyfrol gan yr Athro

DIOLCH yn fawr iawn i’r Athro Gareth Wyn Jones am yr arweiniad mae wedi rhoi i’r genedl ar bwnc yr amgylchedd a pherthynas Dynoliaeth a’r Ddaear yn ei golofn wythnosol yng nghylchgrawn Golwg.

Roedd yn flin gennym ddarllen ei fod yn dod a’i ysgrifau gwerthfawr i ben gyda’r golofn oedd yn rhifyn Ionawr 9 – hynny wedi’i ysgrifennu yn swn stormydd a thonnau ffyrnig ac arwyddocaol cychwyn 2014.

Fel gwyddonydd yn y maes, daeth yr Athro a’i resymegu clir a ffeithiau cadarn wrth bwysleisio’r bygythiad difrifol sy’n ein hwynebu o ganlyniad i gynhesu byd-eang anwadadwy a’r newid hinsawdd sy’n ganlyniad iddo.

Bu’n tynnu’n sylw, hefyd, at y llygru difrodol sy’n cael ei achosi gennym i systemau naturiol y Ddaear sy’n ein cynnal, a’r gwasgu gwallgof geir ar adnoddau’r blaned gan gwmniau carbon fel olew a glo.

Bu’n haeddiannol hallt ei feirniadaeth o’r drefn gyfalafol fyd-eang sy’n ein hyrddio i ganol problemau enbyd. Ond bu’n ein hatgoffa, yn ogystal, o amharodrwydd cymaint ohonom i godi llais yn erbyn yr orthodocsi gwleidyddol ac economaidd sy’n ei chynnal.

“Mae costau ein parlys yn cynyddu,” meddai’r Athro Jones yn ei golofn olaf, ” … Am y tro cyntaf mewn hanes, mae gweithgareddau dyn yn newid cylchoedd geofywydegol ein planed … Menter [anodd] yw newid ein meddylfryd a gwrthsefyll pwysau’r cwmniau a’r gwledydd sy’n elwa’n enfawr o’r drefn bresennol ac sy’n fwriadol hau amheuon.”

Gobeithio bod yr Athro Gareth Wyn Jones a Golwg yn ystyried cyhoeddi casgliad o’i golofnau. Gallai cyfrol Gymraeg o’r math yna sbarduno cenhedlaeth newydd o brotestwyr Cymreig effeithiol – y tro hwn i ymuno a mudiadau gwyrdd byd-eang sy’n ceisio ffrwyno ffolineb y llosgi carbon cynyddol gan fynnu ein bod yn troi at ynni adnewyddol amrywiol.

Wedi’r cyfan, fel y rhybuddia, mae’n hen, hen bryd i ni gallio!

DYDD CALAN 2014 – LANSIO GWEFAN / BLOG NEWYDD Y PAPUR GWYRDD

CROESO atom, a Blwyddyn Newydd Dda, wrth i ni gychwyn ar fenter newydd, sef Gwefan / Blog Y Papur Gwyrdd.

Yn swn cawodydd glaw mawr ac arwyddocaol y Gaeaf hwn, gwthiwn i’r dyfroedd gyda’r cyfrwng Cymraeg hwn o newyddion am y perthynas rhwng pobl a Daear. Ein nod fydd hybu pob ymdrech i feithrin ysbryd o barch a gofal rhwng Dynoliaeth a’r Ddaear – yr unig gartref blanedol sydd gennym – yn lle’r difrodi anghyfrifol presennol.

Bydd Blog amserol yn rhan bwysig o’r arlwy. Bydd yma, hefyd, dudalennau am wahanol agweddau ar ymgyrch y Ddaear, ynghyd ag Archif rhydd-i-bawb o’r cyfan o rifynnau cylchgrawn Y Papur Gwyrdd rhwng Awst 2007 ac Awst 2012.

Mwy o gropian nag o lansiad sydd i’r cychwyn hwn. Ond, wrth i’r sgiliau perthnasol ddod yn fwy cyfarwydd, gobeithiwn y bydd y wefan hon yn datblygu’n offeryn effeithiol i hybu ymgyrchoedd mudiadau amgylcheddol fel Cyfeillion y Ddaear a Greenpeace.

Fe’ch gwahoddwn i gadw mewn cysylltiad â ni a chroesawn eich syniadau personol am hynt a helynt mudiad y Ddaear.

HYWEL A CHARLOTTE DAVIES

MWY O ANGEN NAG ERIOED I WARCHOD Y DDAEAR

WRTH ddod â chylchgrawn Y Papur Gwyrdd i ben wedi pum mlynedd yn Awst 2012, roedden ni wedi addo y bydden ni’n mynd ati i gryfhau ein presenoldeb ar y Wê. Dyma ni’n gwneud hynny, o’r diwedd, gyda’r wefan newydd hon yn cychwyn ar Ddydd Calan, 2014.

Ein bwriad fydd parhau i

  • adlewyrchu’r farn eang wyddonol sy’n rhybuddio bod cynhesu byd-eang, a achosir gan ddynoliaeth, yn peryglu’r systemau naturiol sy’n ein cynnal gan gynnwys achosi newid hinsawdd gynyddol
  • hybu’r drafodaeth ar sut orau i ymateb i’r peryglon y mae angen i ni boeni yn eu cylch gan anelu at eu gosod ynghanol ein trafodaethau gwleidyddol, economaidd a chymdeithasol
  • a bod yn llais i’r ymgyrch byd-eang i warchod y Ddaear a’i holl drigolion amrywiol rhag niwed gan weithredu dynol anghyfrifol

Gwefan iaith Gymraeg fydd gwefan Y Papur Gwyrdd. Nid cyfieithiad o wefan cyfrwng Saesneg fydd hi, ond un gaiff ei chreu a’i chyflwyno trwy’r Gymraeg. Ein cred yw os oes dyfodol i fod i’n hiaith, rhaid iddi fod yn llais ohono’i hun i’r ymdrechion i gynnal y Ddaear sy’n ein cynnal ni. Rhaid i’r Gymraeg fod ynghanol pob gweithgarwch, nid ar yr ymylon fel ail iaith, israddol.

Y Ddaear yw’r unig gartref planedol sydd gennym. Mae ein bodolaeth arni fel pobl, ynghyd â’r cyfan o fyd natur yr ydym yn rhan ohono, yn rhyfeddod gwyrthiol wrth iddi ruthro trwy’r gofod gan droelli a siglo.

Dylem warchod y Ddaear, felly, fel trysor. Ond mae ein ffordd o fyw wedi’n hudo i anghofio pa mor ganolog ydyw’r Ddaear a’r cyfan o fyd Natur i’n parhad. Caiff ein planed ei llygru a’i difrodi gan gorfforaethau diwydiannol a llywodraethau anghyfrifol. Yn gynyddol, cartref  bregus ydyw i ddynoliaeth.

Credwn fod angen lleisio’n pryderon yn fwy nag erioed. Lansiwyd cylchgrawn Y Papur Gwyrdd yn 2007 mewn cyfnod o optimistiaeth am berthynas newydd rhwng dynoliaeth a’r Ddaear. Ond, wedi methiant Cynhadledd Newid Hinsawdd Copenhagen yn 2009, y corfforaethau ynni carbon pwerus, a’r ‘gwadwyr newid hinsawdd’ sydd wedi bod ar y blaen.

Mae llosgi tanwyddau carbon – glo, olew, nwy – wedi parhau i godi’n aruthrol gan arllwys nwyon cynhesu byd-eang fel CO2 i’r atmosffer yn fwy nag erioed. Erbyn hyn, hybir olew siâl a nwy ffracio yn lle ynni adnewyddol y gwynt, yr haul, y môr a’r afonydd gan gryn nifer o lywodraethau, gan gynnwys Clymblaid Dorïaidd / RhyddDem San Steffan – sef parhau a chynyddu’r llosgi carbon difrodol. 

Yn wyneb hyn, mae gwyddonwyr yn daer eu rhybuddion bod tymheredd y Ddaear yn dal i godi, iâ’r pegynnau’n toddi, y rhewlifoedd yn diflannu’n gyflym, a’r stormydd, y llifogydd, y sychdwr a’r gwres eithafol yn ffyrnigo. A’r cyfan ar batrwm hynod gyflym nas gwelwyd o’r blaen fel rhan o newidiadau naturiol oesoedd maith ein planed.

Felly, credwn fod angen i bobl gall ddod at ein gilydd i godi’n lleisiau ar frys os ydym i warchod byd sy’n gartref nid yn unig i ni ond i rywogaethau di-rif eraill. Credwn fod ganddynt hwy, hefyd, hawl i fyw.

Gobeithio y cawn glywed gennych wrth i ni leisio’r angen i drysori ein Daear a  ffrwyno’r difrod sy’n cael ei achosi iddi. Gobeithio, hefyd, y daw’r wefan hon yn borth Gymraeg i’n cysylltu â mudiadau ledled y byd sydd o’r un anian.

HYWEL A CHARLOTTE DAVIES