WEDI cytundeb hanesyddol Tachwedd 12 rhwng yr Arlywyddion Barack Obama a Xi Jinping i’r Unol Daleithiau a Tsieina leihau eu hallyriadau C02, mae’r Arlywydd Obama yn magu hyder i weithredu i ffrwyno newid hinsawdd yn ystod ei ddwy flynedd olaf fel Arlywydd.
Dyma ddywedwyd ar flog gan ddau o swyddogion y Ty Gwyn, John Podesta a John Holdren: “Mae’r Arlywydd Obama yn credu bod gennym ymrwymiad moesol i weithredu ar newid hinsawdd, ac nad ydym yn gallu gadael planed i’n plant fydd y tu hwnt i’w gallu i’w hadfer.”
Yr hyn sy’n wynebu Obama yw brwydr enfawr gyda’r corfforaethau ynni carbon byd-eang sydd am losgi carbon, deued a ddelo, a’r Blaid Weriniaethol sy’n eu cynrychioli ac sydd bellach yn rheoli Senedd a Chyngress America.
Ond bydd ganddo gefnogaeth ledled y byd gan fudiadau cynyddol boblogaidd sy’n gweld bod dyfodol dynoliaeth ar y Ddaear yn dibynnu ar gyrraedd cydbwysedd newydd rhyngom a systemau naturiol y blaned. Dysgu ar frys i droedio’n ysgafnach yn lle damsang yn ddifeddwl er elw a hawddfyd tymor byr.
Bydd y ffaith bod Tsieina nawr yn cytuno a hynny yn arf gref iawn o blaid ymgyrch newydd Barack Obama a phawb sydd, fel yntau, am warchod ein Daear er cenedlaethau’r dyfodol.