DYNOLIAETH A DAEAR – GAN YR ATHRO GARETH WYN JONES
Diolch i’r Athro Gareth Wyn Jones am ganiatáu i wefan Y Papur Gwyrdd ail-gyhoeddi’r 46 erthygl amrywiol ar bwnc Dynoliaeth a Daear a gyhoeddwyd ganddo’n gyntaf yn yr wythnosolyn newyddion Cymraeg Golwg yn 2013.
Mae’r ysgrifau hyn yn apêl daer arnom i holi’n gyfrifol
i’r pryderon sydd ymysg gwyddonwyr arbenigol am yr hyn sy’n digwydd i’r byd o’n cwmpas.
Fel Athro Emeritws yn Ysgolion Gwyddorau Biolegol ac Amaeth a Choedwigaeth Prifysgol Bangor, fel swyddog gyda nifer o gyrff cenedlaethol a rhyngwladol ar bynciau amgylcheddol, ac yn awdur neu’n gydawdur ar ryw 180 o bapurau gwyddonol yn Gymraeg a Saesneg, mae Gareth yn awdurdod o’r radd flaenaf ar bwnc argyfwng cynyddol pobl a phlaned.
Mae’r erthyglau’n disgrifio’r ystod eang o broblemau dyrys a wynebir gennym fel trigolion y Ddaear oherwydd ein pwysau ar y systemau naturiol sy’n ein cynnal. Maen nhw, hefyd, yn trafod yr ymatebion posib wrth geisio delio â’r problemau cynyddol hyn.
Trwy’r cyfan, mae’r Athro’n pwyso fel gwyddonydd ar i bawb ohonom gymryd yr argyfwng amgylcheddol o ddifrif. Mae’n galw arnom i addasu’n ffordd o fyw fel ein bod yn niweidio llai ar yr unig gartref planedol sydd gennym.
Mae gwefan Y Papur Gwyrdd yn falch i gael yr hawl gan Gareth Wyn Jones i ail-gyhoeddi’r erthyglau hynod ddiddorol ac awdurdodol hyn fel adnodd i bawb sydd o ddifrif am ddysgu mwy am beryglon Cynhesu Byd-eang a Newid Hinsawdd. Ceir ynddynt, hefyd, ystyriaeth o oblygiadau difrodol y gymdeithas brynwriaethol yr ydym i gyd yn rhan ohoni. Eglurir bod y gymdeithas hon yn seiliedig ar y syniad o dwf diderfyn er ein bod yn byw ar blaned sydd â therfynau amlwg iddi.
Nodwn ddyddiadau cyhoeddi’r erthyglau yn Golwg i esbonio cyfeiriadau’r awdur at ddatblygiadau ar y pryd. Rydym yn gwerthfawrogi bod Golwg yn croesawu’r ail-gyhoeddi hyn ar wefan Y Papur Gwyrdd.
Gellir mynd at y 46 erthygl unigol trwy’r cysylltau isod.
1. ‘Cynhesu byd-eang’ a thywydd gwael yng Nghymru 07.02.2013
2. Toddiant ia hynod arwyddocaol a brawychus yr Arctig 14.02.2013
3.Llawer mwy na chig ceffyl 21.02.2013
4. Arbed ynni – y dewis mwyaf call 28.02.2013 A4
5. Angen meddwl o ddifrif 07032013
6. Beth am eisteddfod ynni 14.03.2013
7. Yr ynni wrth ein traed 21.03.2013
8. Draw draw yn China 04.04.2013
9. Problem China a’n problem ni 11.04.2013
10. Cynnal economi heb ddinistrio 18.04.2015
11. Economi neu amgylchedd 25.04.2013
12. Rhyddhau’r farchnad 02.05.2013
13. Tlodi a thrachwant 09.05.2013
14. Pris y farchnad 16.05.2013
16. Dameg y tiroedd comin 30.05.2013
17. Newyddion da efallai 06.06.2013
18. Manteisio ar y dwr 13.06.2013
19. Herio corff newydd 20.06.2013
20. Wynebu sialens y dechnoleg newydd 27.06.2013
21. Un peth sy’n sicr – ansicrwydd 04.07.2013
22. Mae swn ym Mhorth Dinllaen 11.07.2013
23. Grym arian a’r farchnad rydd 18.07.2013
25. Gwers yr ynys unig a’r ddinas ddiffaith lle bu digonedd 01.08.2013
26. O gam i gam at ddistryw – hanes yn dangos y peryglon 08.08.2013
27. Pwy sydd am ein hachub 15.08.2013
30. Rhaid wynebu’r dewis ynni 05.09.2013
31. Dyfodol ynni – y cwestiynau sy’n pwyso 12.09.2013
32. Biwrocratiaeth orffwyll 19.09.2013
33. Ed a’r panel rhyngwladol 03.10.2013
34. Galw am weledigaeth well 10.10.2013
35. Ffracio – da neu ddrwg 17.10.2013
38. Gan bwyll mae mynd ymhell 07.11.2013
39. Y broses a newidiodd y byd 14.11.2013
40. Y corwynt yn y meddwl 21.11.2013
41. Dysgu gwersi o’r tywydd eithafol 28.11.2013
42.Gwella tai ac arbed ynni 05.12.2013.docx
43. Y dyfodol ar ol gwyrth chwyldro Mandela 12.12.2013.docx
44. Y nwy peryglus arall 19.12.2013.docx