Cerddi’r 16eg Ganrif

NID peth newydd yn ein hanes ni fel cenedl Gymreig yw protestiadau yn erbyn gweithgarwch dynol sy’n niweidio’r ffurfiau eraill o fywyd sy’n cyd-deithio â ni ar y Ddaear hon.

Yn ein llenyddiaeth, mae dwy gerdd Gymraeg o’r 16eg Ganrif yn mynegi arswyd wrth i ddiwydianwyr ddinistrio’r byd naturiol, yn benodol trwy ddinoethi ardaloedd coediog:

 Roedd penillion Coed Glyn Cynon yn gwrthdystio yn erbyn dymchwel coed yng Nghymoedd de-ddwyrain Cymru ar gyfer y diwydiant haearn – gyda’r bardd anhysbys yn awgrymu y dylai bywyd gwyllt gael amddiffyniad cyfreithiol

·Roedd cywydd Coed Marchan yn portreadu cwyn cryf gan anifeiliaid ac adar – eto mewn llys barn – yn erbyn chwalu eu cynefin, sef coedwigoedd ger Rhuthun yn Nyffryn Clwyd

Roedd y ddwy gerdd, felly, yn rhagflaeni’r ymgyrch cyfoes sy’n cael ei arwain gan y gyfreithwraig ryngwladol Polly Higgins i gael y Cenhedloedd Unedig i gytuno ar ‘Ecoladdiad’ fel 5ed Trosedd Ryngwladol yn erbyn Heddwch – sef dinistrio systemau amgylcheddol a byd natur. Am fwy o wybodaeth, ewch i – http://eradicatingecocide.com/  

Coed Glyn Cynon
Cerdd angerddol gan fardd anhysbys  o’r 16eg Ganrif  yw Coed Glyn Cynon sy’n rhagweld y chwalfa fyddai ar holl ysblander coedigoedd Cymoedd de-ddwyrain Cymru gan y diwydiannau haearn a glo. Fel y gwelir isod yng nghywydd Coed Marchan, mae bardd Coed Glyn Cynon yn awgrymu bod hawl gan y byd naturiol i droi at y gyfraith wrth wynebu difrod gan ddynoliaeth. Mae cyfieithiadau o’r penillion hyn i’r Saesneg gan Harri Webb ar gael yn ei Collected Poems ac yn yr Oxford Book of Welsh Verse in English. Yn ogystal, mae gan yr Archdderwydd yr Athro Christine James, Prifysgol Abertawe, erthygl hynod ddiddorol yn trafod cerdd Coed Glyn Cynon yng nhyfrol Cwm Cynon yng Nghyfres y Cymoedd a olygwyd gan y diweddar Athro Hywel Teifi Edwards (Gomer 1997).

Aberdâr, Llanwynno i gyd,
Plwy’ Merthyr hyd Lanfabon,
Mwyaf adfyd a fu erioed
Pan dorred Coed Glyn Cynon;

Torri llawer parlwr pur
Lle cyrchfa gwŷr a meibion;
Yn oes dyddiau seren syw,
Mor araul yw Glyn Cynon.

O bai ŵr ar drafael dro
Ac arno ffo rhag estron,
Fo gâi gan eos lety erioed
Yn fforest Coed Glyn Cynon.

Ac o delai ddeuliw’r can
I rodio glan yr afon,
Teg oedd ei lle i wneuthur oed
Yn fforest Coed Glyn Cynon.

Llawer bedwen las ei chlog
(Ynghrog y bytho’r Saeson!)
Sydd yn danllwyth mawr o dân
Gan wŷr yr haearn duon.

Os am dorri a dwyn y bâr
Llety’r adar gwylltion,
Boed yr anras yn eu plith
Holl blant Alis ffeilsion.

Gwell y dylasai’r Saeson fod
Ynghrog yng ngwaelod eigion,
Uffern boen, yn cadw eu plas
Na thorri glas Glyn cynon.

Clywais ddwedyd ar fy llw
Fod haid o’r ceirw cochion
Yn oer eu lle, yn ymado â’u plwy’,
I ddugoed Mawddwy’r aethon’.

Yn iach ymlid daear dwrch,
Na chodi iwrch o goedfron;
Matsio ewig, hi aeth yn foed,
Pan dorred Coed Glyn Cynon.

O châi carw led ei droed
Erioed o flaen cynyddion,
Byth ni welid o’n rhoi tro
Pan ddele fo i Lyn Cynon.

Mynnaf wneuthur arnynt gwest
O adar onest ddigon,
A’r dylluan dan ei nod
A fynna’ i fod yn hangmon.

O daw gofyn pwy a wnaeth
Hyn o araeth creulon, –
Dyn a fu gynt yn cadw oed
Dan fforest Coed Glyn Cynon. 

Coed Marchan
Mae’r cywydd hwn gan y clerwr Robin Clidro (1545 – 1580) yn dychmygu taith gan griw o wiwerod i Lundain i ddwyn achos llys yn erbyn y rhai sy’n  “anrheithio holl goed Rhuthun” yn Nyffryn Clwyd. Synnir y llys gan huotledd y brif wiwer goch wrth iddi hi ymdrin â’r llys ac wrth iddi gyflwyno protest ei chyd anifeiliaid ac adar mewn modd mor effeithiol ac angerddol. Dyma anthem i holl rywogaethau byd natur ein cyfnod ni sy’n wynebu difodiant wrth i’w cynefinoedd gael eu chwalu:

Blin ac afrwydd yw’r gyfraith,
mae’n boen i’r gwiwerod bach;
mynad ar lawndaith i Lundain
â’u bloedd a’u mamaeth o’u blaen.
Gwych oedd hi’r wiwer goch hon,
dorllaes, yn medru darllen,
yn ymddiddan â’r cyngawr,
ac eto ma’n fater mawr.
Pan roed y llyfr dan ei llaw
a choel oedd i’w chywilyddiaw,
hi ddywed wrth y beili,
“Sir Bribwm, un twym wyt ti!”
Ar ei llw hi ddywed fal hyn,
anrheithio holl goed Rhuthun
a dwyn ei thŷ a’i sgubor
liw nos du, a’i chnau a’i stôr.
“Mae’r gwiwerod yn gweiddi
am y coed rhag ofn y ci.
Nid oes fry o goed y fron
Ond lludw y derw llwydion.
Nod oes gepyll heb ei gipio,
na nyth brân byth i’n bro.
Mae’r tylluanod yn udo
am y coed, yn gyrru plant o’u co’.

Gwae’r dylluan rhag annwyd,
oer ei lle am geubren llwyd!
Gwae’r geifr am eu coed a’u cyll,
a pherchen hwch a pherchyll!
Gwae galon hwch folgoch hen
Dduw Sul am le i gael mesen!
Cadair y cathod coedion,
mi wn y tu llosgwyd hon.
Yn iach draenog; nac aerwy
na chafn moch ni cheir mwy.
Os rhostir gŵydd foel, rhaid fydd
â rhedyn Bwlch y Rhodwydd.
Crychias ni feirw crochan,
na breci mwy heb bricie mân.
O daw mawnen o’r mynydd
a y glaw, oer a drud fydd.
Annwyd fydd yn lladd y forwyn,
oer ei thraed a defni o’i thrwyn.
Nid oes gaynac ysgyren
na chae chwipio biach gul hen.
Gwir a ddywed Angharad,
oni cheir glo, yn iach in gwlad.”

Ar gael ar: cy.wikisource.org/wiki/Coed_Marchan

Gadael sylw

Mae'r wefan hon yn defnyddio Akismet i leihau sbam. Dysgwch sut mae eich data sylwadau yn cael ei brosesu .